Overview

Mae lefelau twyll etholiadol profedig yn y DU yn isel. Nid oes tystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr yn 2023. Yn y rhan fwyaf o achosion o dwyll etholiadol honedig (98%), ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach neu cawsant eu datrys yn lleol trwy roi cyngor i'r rhai dan sylw.

Etholiadau 2023

Ym mis Mai 2023, cynhaliwyd etholiadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer:

  • Cynghorau lleol (Lloegr a Gogledd Iwerddon)
  • Meiri lleol (Lloegr yn unig)
  • Cynhaliwyd hefyd 7 is-etholiad Senedd y DU yn ystod 2023.

Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i gyfanswm o 342 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ystod 2023. Arweiniodd un achos o dwyll etholiadol at euogfarn yn 2023.

Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr achosion o dwyll honedig y gwnaeth yr heddlu eu hadrodd i ni ar gyfer etholiadau a gynhaliwyd yn 2023.
 

EtholiadNifer o achosion
Etholiad lleol328
Is-etholiad lleol7
Nad yw’n benodol i etholiad (e.e. cofrestru treigl)4
Refferendwm lleol2
Is-etholiad Senedd y DU1

Nifer yr achosion o dwyll etholiadol honedig yn 2023 yn ôl math o etholiad

Euogfarn am wneud datganiad ffug mewn papurau enwebu

Cyflwynodd ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol yn 2023 bapur enwebu yn datgan nad oedd wedi’i wahardd rhag sefyll yn yr etholiad. Fodd bynnag, roedd wedi’i ddiarddel o’i swydd fel Cynghorydd ym mis Awst 2021 pan dderbyniodd ddedfryd o garchar wedi’i gohirio am ddwy flynedd, gan arwain at is-etholiad. Roedd Tîm Gwasanaethau Etholiadol y cyngor wedi cwestiynu hyn gydag ef ond cyflwynodd ei bapurau enwebu beth bynnag.

Arestiodd Heddlu Northumbria ef ar 27 Ebrill 2023. Yn ystod y cyfweliad, cyfaddefodd iddo wneud datganiad ffug ar ei ffurflen enwebu. Cynigiodd fel amddiffyniad ei gred y byddai'r cyngor yn arfer disgresiwn. Cafodd ei gyhuddo o'r drosedd.

Cafodd ei wysio i fynd i’r llys ar 4 Awst 2023 ond methodd ag ymddangos. Cafodd ei arestio ar 5 Awst am y methiant hwn a’i gadw yn y ddalfa am ddau ddiwrnod. Cafodd fechnïaeth amodol i fynd i’r llys ar 11 Awst 2023. Dewisodd sefyll ei brawf yn Llys y Goron ar 23 Tachwedd 2023. Ar ddiwrnod y prawf, plediodd yn euog. Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 10 mis o garchar:

  • 4 mis am y drosedd o wneud datganiad ffug ar ffurflen enwebu
  • 6 mis am y ddedfryd wedi’i gohirio a gafodd yn 2021

Canlyniadau pob achos a adroddwyd

Ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach gyda thua dau ym mhob tri (57%) achos. Mae hyn yn golygu na wnaeth yr heddlu ymchwilio ymhellach i’r achosion oherwydd nad oedd tystiolaeth, nid oedd digon o dystiolaeth, nid oedd er budd y cyhoedd i barhau, neu ni chafwyd bod trosedd.

Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a adroddwyd i’r heddlu yn 2023, a’u canlyniadau.

CanlyniadNifer o achosionCanran o'r cyfanswm
Dim camau pellach19557%
Wedi’i ddatrys yn lleol*13941%
Ymchwiliad yn mynd rhagddo72%
Euogfarn1Llai nag 1%

*Mae datrys yn lleol yn golygu bod yr heddlu wedi rhoi cyngor i'r sawl a ddrwgdybir ynghylch cydymffurfio â'r gyfraith.

Canlyniadau pob achos a adroddwyd

Summary spreadsheet

Nid yw’r data hwn yn cynnwys achosion o dwyll etholiadol honedig a adroddwyd yn yr Alban yn ystod 2023 oherwydd nad yw Heddlu’r Alban wedi darparu unrhyw ddata ar achosion i ni.

Mathau o honiadau twyll etholiadol

Roedd bron i ddau ym mhob tri (71%) achos a adroddwyd yn 2023 yn gysylltiedig â throseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ynghylch:

  • Ymgyrchwyr ddim yn cynnwys manylion ynghylch yr argraffwr, hyrwyddwr neu gyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol - ‘argraffnod’ (40%).
  • Rhywun yn gwneud datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd (29%).

Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a’r mathau o droseddau yr ymchwiliwyd iddynt yn 2023.

Math o droseddNifer o achosionCanran o'r cyfanswm
Ymgyrchu24271%
Pleidleisio4413%
Enwebu329%
Cofrestru216%
Arall31%

Types of electoral fraud allegations

Personadu

Cofnodwyd cyfanswm o 9 o achosion o dwyll etholiadol honedig gan luoedd yr heddlu yn 2023.

Mae personadu yn drosedd lle mae person yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn gallu defnyddio pleidlais y person hwnnw. Gall hyn ddigwydd mewn gorsaf bleidleisio, gyda phleidlais bost, neu bleidlais drwy ddirprwy (lle mae pleidleisiwr wedi penodi rhywun arall i bleidleisio ar eu rhan).

Roedd dau o’r achosion hynny yn cynnwys honiadau o bersonadu mewn gorsafoedd pleidleisio. Yn y ddau achos ni chymerodd yr heddlu unrhyw gamau pellach yn dilyn ymchwiliad oherwydd iddynt ganfod nad oedd unrhyw drosedd wedi'i chyflawni.

Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr honiadau o bersonadu a’u canlyniadau.

Math o bersonaduNifer yr honiadauMath o ganlyniad a nifer
Gorsaf bleidleisio2Dim camau pellach: 2
Trwy’r post6Dim camau pellach: 5
Wedi’i ddatrys yn lleol: 1
Trwy ddirprwy1Dim camau pellach: 1

Deisebau etholiadol

Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad etholiad. Dim ond un ddeiseb etholiadol oedd yn dilyn etholiadau mis Mai 2023. Roedd yn ymwneud â chamgymeriad gweinyddol etholiadol yn hytrach na honiad o dwyll etholiadol. Bu'r ddeiseb yn llwyddiannus.