Overview

Mae lefelau isel o dwyll etholiadol profedig yn y DU. Nid oes tystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr yn 2024. Yn y rhan fwyaf o achosion o dwyll etholiadol honedig (94%), ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach neu cawsant eu datrys yn lleol trwy roi cyngor i'r rhai dan sylw.

Etholiadau 2024

Ym mis Mai 2024, cynhaliwyd etholiadau yng Nghymru a Lloegr ar gyfer:

  • Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Cymru a Lloegr)
  • Cynghorau lleol (Lloegr)
  • Meiri lleol (Lloegr)
  • Etholiadau Maerol Awdurdodau Cyfun (Lloegr)
  • Maer Llundain  
  • Cynulliad Llundain Fwyaf

Ym mis Gorffennaf 2024, cynhaliwyd etholiad cyffredinol Senedd y DU gyda phob un o’r 650 o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin i’w hethol.

Roedd yna hefyd bedwar is-etholiad Senedd y DU yn ystod 2024.

Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i gyfanswm o 445 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ystod 2024. Cyhoeddodd yr heddlu un rhybudd mewn perthynas ag achos o dwyll etholiadol honedig yn 2024.  

Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr achosion o dwyll honedig y gwnaeth yr heddlu eu hadrodd i ni ar gyfer etholiadau a gynhaliwyd yn 2024. 
 

EtholiadNifer o achosion
Etholiad cyffredinol Senedd y DU236
Etholiadau lleol137
Heb fod yn benodol i etholiad19
Is-etholiad lleol15
Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu13
Etholiad Maer Llundain8
Etholiad Awdurdod Llundain Fwyaf6
Etholiad maerol lleol5
Etholiad maerol awdurdod cyfun 3
Bwrdeistrefi Llundain1
Is-etholiad Senedd y DU1
Refferendwm lleol1

Nifer yr achosion o dwyll etholiadol honedig yn 2023 yn ôl math o etholiad

Canlyniadau pob achos a adroddwyd

Ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach gyda thua dau ym mhob tri (65%) achos. Mae hyn yn golygu na wnaeth yr heddlu ymchwilio ymhellach i’r achosion oherwydd nad oedd tystiolaeth, nid oedd digon o dystiolaeth, ni ddaethpwyd o hyd i drosedd, neu nid oedd er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen.

Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a adroddwyd i’r heddlu yn 2024, a’u canlyniadau.

CanlyniadNifer o achosionCanran o'r cyfanswm
Dim camau gweithredu pellach28765%
Wedi’i ddatrys yn lleol *13129%
Ymchwiliad yn mynd rhagddo 143%
Arall82%
Disgwyl cyngor erlyn41%
Rhybudd1Llai nag 1%

*Mae datrys yn lleol yn golygu bod yr heddlu wedi rhoi cyngor i'r sawl a ddrwgdybir ynghylch cydymffurfio â'r gyfraith.

Lle caiff achosion eu rhestru fel ‘arall’, nid oedd yr ymddygiad honedig yn drosedd etholiadol. Fodd bynnag, roedd yn ymwneud ag agweddau o bleidleisio neu ymgyrchu, ac felly rhoddodd yr heddlu gyngor i'r bobl y gwnaed cwynion yn eu cylch. 

Canlyniadau pob achos a adroddwyd

Summary spreadsheet

Nid yw’r data hwn yn cynnwys achosion o dwyll etholiadol honedig a adroddwyd yn yr Alban yn ystod 2023 oherwydd nad yw Heddlu’r Alban wedi darparu unrhyw ddata ar achosion i ni.

Achosion lle gwnaeth y sawl dan amheuaeth dderbyn rhybudd gan yr heddlu

Etholiad maerol lleol

Ymchwiliwyd i'r sawl a ddrwgdybir yn yr achos hwn am ddefnyddio gwybodaeth ffug wrth gofrestru i bleidleisio. Ceisiodd y person gofrestru i bleidleisio o dan enw person a fu farw yn ddiweddar. Siaradodd yr Heddlu Metropolitan â Gwasanaeth Erlyn y Goron am gyngor ac arweiniad, a chawsant eu cynghori y dylid rhoi rhybudd yn y mater hwn.

Mathau o honiadau twyll etholiadol

Roedd tua dwy ran o dair o’r holl honiadau a adroddwyd yn 2024 (64%) yn ymwneud â throseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ynghylch:

  • Ymgyrchwyr ddim yn cynnwys manylion ynghylch yr argraffydd, hyrwyddwr neu gyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol printiedig neu electronig – ‘argraffnod’ (40%).
  • Rhywun yn gwneud datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd (20%).

Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a’r mathau o droseddau yr ymchwiliwyd iddynt yn 2024. 

Math o droseddNifer o achosionCanran o'r cyfanswm
Ymgyrchu28464%
Pleidleisio8419%
Cofrestru4610%
Enwebu276%
Arall41%

Rhestrwyd pedwar (1%) o droseddau fel ‘arall’ gan yr heddlu. Mae’r rhain yn cyfeirio at honiadau o gam-drin ymgeiswyr, camddefnyddio’r term ‘cynghorydd’ a chamddefnyddio logo sy’n perthyn i’r lluoedd arfog a hyrwyddo busnes ymgeisydd ar ddeunydd etholiad. Er nad oeddent yn droseddau twyll etholiadol, roeddent yn ymwneud ag agweddau ar bleidleisio neu ymgyrchu, ac felly rhoddodd yr heddlu gyngor i'r bobl y gwnaed y cwynion yn eu cylch.  

Types of electoral fraud allegations

Personadu

Cofnodwyd cyfanswm o 17 o achosion o dwyll etholiadol honedig gan luoedd yr heddlu yn 2024.  

Mae personadu yn drosedd lle mae person yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn gallu defnyddio pleidlais y person hwnnw. Gall hyn ddigwydd mewn gorsaf bleidleisio, gyda phleidlais bost, neu bleidlais drwy ddirprwy (lle mae pleidleisiwr wedi penodi rhywun arall i bleidleisio ar eu rhan).

Roedd ychydig dros hanner o’r achosion hynny (9) yn ymwneud â honiadau o bersonadu pleidleisiau post. Yn yr holl achosion hynny, ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach oherwydd doedd dim tystiolaeth neu doedd dim digon o dystiolaeth, neu cawsant eu datrys yn lleol. Disgwylir cyngor erlyn mewn un achos.

Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr honiadau o bersonadu a’u canlyniadau. 

Math o bersonaduNifer yr honiadauMath o ganlyniad a nifer
Trwy’r post9

Dim camau pellach: 6

Wedi’i ddatrys yn lleol: 2

Disgwyl cyngor erlyn: 1

Gorsaf bleidleisio7

Dim camau pellach: 6

Wedi’i ddatrys yn lleol: 1

Trwy ddirprwy1Wedi’i ddatrys yn lleol: 1

Deisebau etholiadol

Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad etholiad.

Ni chafwyd unrhyw ddeisebau yn dilyn etholiadau a gynhaliwyd yn 2024.