Canlyniadau a'r nifer â bleidleisiodd yn etholiadau lleol Cymru Mai 2017

Download

Pleidleisio drwy’r post

Cyfanswm y pleidleisiau post a anfonwyd ar gyfer yr etholiadau hyn oedd 387,909, gan gynrychioli 18.2% o'r holl etholwyr sydd ag etholiad a ymleddir yn eu ward. Mae hyn yn cymharu â 17.4% yn etholiadau 2012/2013. Ar lefel ward, roedd hyn yn amrywio o 6.3% yn Cathays (Caerdydd) a
Threfforest (Rhondda Cynon Taf) i 31.5% yn Nwyrain Llandrindod/Gorllewin Llandrindod (Powys).

Mae cyfran y pleidleiswyr drwy'r post sy'n dychwelyd eu papurau pleidleisio bob amser yn fwy na'r nifer sy'n pleidleisio 'yn bersonol'. Eleni, defnyddiodd 69.7% o etholwyr drwy'r post eu pleidlais bost o gymharu â 36.3% a bleidleisiodd yn bersonol. 

Tabl 4.1: Y nifer a bleidleisiodd drwy'r post o gymharu â'r nifer a bleidleisiodd yn bersonol

  Pleidleisio drwy’r post Yn bersonol
2017 69.7% 36.3%
2012/13 68.3% 33.3%
2008 71.4% 40.0%

Roedd pleidleisiau post yn cyfrif am 29.2% o'r holl bleidleisiau a gafodd eu cynnwys yn y cyfrif. Mae hyn yn cymharu â 29.3% yn 2012/13 a 22.2% yn 2008. 

Papurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd

Mae pecynnau pleidleisio drwy'r post yn ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr roi eu llofnod a'u dyddiad geni. Yna, caiff y manylion adnabod hyn eu cyfateb i'r rhai a roddwyd ar adeg gwneud y cais. Os nad yw'r llofnod neu'r dyddiad geni yn cyfateb, caiff y bleidlais bost ei gwrthod ac ni chaiff ei
chynnwys yn y cyfrif.

Ers 2014, mae wedi bod yn ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol hysbysu etholwyr os bydd eu pleidlais bost wedi'i gwrthod. Gallant hefyd ofyn i'r etholwr roi llofnod newydd. 

Tabl 4.2: Papurau pleidleisio drwy’r post a wrthodwyd

Blwyddyn Papurau pleidleisio a wrthodwyd fel % o'r amlenni a ddychwelwyd
2017 3.2%
2012/13 4.4%
2008 4.8%

Gwrthodwyd cyfanswm o 8,695 o bleidleisiau post gan Swyddogion Canlyniadau ledled Cymru. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd wrthod o 3.2%, o
gymharu â 4.4% yn 2012/13 a 4.8% yn 2008. Mae'r gostyngiad yn lefelau'r pleidleisiau post a wrthodwyd yn awgrymu y gall fod y polisi newydd yn cael effaith gadarnhaol.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros wrthod pleidlais bost, sy'n cyfrif am 43.3% o'r papurau pleidleisio a wrthodir, yw gwybodaeth nad yw'n cyfateb. Mewn bron i draean o'r achosion o wrthod (31.8%), roedd pleidleiswyr wedi dychwelyd eu hamlenni pleidleisio drwy'r post ond wedi methu â chynnwys y papur pleidleisio ei hun neu'r datganiad dilysu, neu'r ddau.

Tabl 4.3: Rhesymau dros wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post 

    2017 2012/13 Change (pp)
Gwybodaeth ar goll Llofnod 9.4% 5.2% 4.3
Dyddiad Geni 9.6% 4.3% 5.3
Y ddau 5.9% 15.7% -9.8
Gwybodaeth ddim yn cyfateb Llofnod 14.5% 19.1% -4.6
Dyddiad Geni 22.5% 7.1% 15.4
Y ddau 6.4% 8.5% -2.1
Ffurflenni ar goll Papur pleidlei sio 14.4% 13.4% 0.9
Datgan iad
pleidlei sio
drwy'r post
17.4% 26.8% -9.4

Appendices

Mae anghysondebau o hyd yn y ffyrdd y mae awdurdodau lleol yn cofnodi ac yn adrodd gwybodaeth.

Rydym yn dal i sylwi ar wahaniaethau yn y dull o godio gwybodaeth gan feddalwedd rheoli etholiadol gwahanol. Er enghraifft, mae cwsmeriaid un cyflenwr meddalwedd rheoli etholiadol yn gyson yn nodi cyfran uwch o wybodaeth nad yw'n cyfateb o gymharu ag eraill.

Mae'n ymddangos bod anghysondebau yn ymwneud â'r rhesymau dros wrthod pleidleisiau post a chyfanswm y pleidleisiau post a wrthodir ar Ffurflen K yn deillio o'r ffaith y gellir eu dehongli a'u trin yn wahanol. Er enghraifft, wrth drin nifer y prif amlenni a'r papurau pleidleisio a  dychwelwyd, gellir anfon prif amlenni heb gynnwys amlen A neu ddatganiad pleidleisio drwy'r post, a gall y ddogfen goll fod wedi'i hanfon mewn prif amlen ar wahân yn ddiweddarach, neu gall sawl papur pleidleisio fod wedi'u dychwelyd mewn un amlen.

Pan gysylltir ag awdurdodau lleol ynghylch anghysondebau o'r fath, yn aml ni allant roi ffigurau diwygiedig neu ni allant egluro pam roedd y data
wedi'u codio yn y fath fodd. Yn ymarferol, rydym yn defnyddio cyfrifiad maes B6 tynnu maes C18 yn lle cyfanswm y pleidleisiau post a wrthodwyd ni waeth p'un a yw'r ffigur yr un fath â'r hyn a gofnodir ym maes C19.

Nid yw'r rhesymau gwahanol dros wrthod a gasglwyd ar y ffurflen ddata ychwanegol bob amser yn cyfateb i'r cyfrifiad B6 tynnu C18 hwn. Fodd
bynnag, mae'r anghysondebau yn ymddangos yn llai difrifol ac mae gan y categorïau y fantais o fod wedi'u cynnwys mewn meddalwedd ac o gael ystyr fwy 'synnwyr cyffredin'. Byddai'n ymddangos yn synhwyrol ystyried cael tri chategori cyfunol arall yn lle meysydd B15-17 ar Ffurflen K: gwrthod am nad oedd y wybodaeth yn cyfateb; gwrthod am fod y wybodaeth adnabod ar goll; gwrthod am fod dogfennaeth ar goll. Fel ag y mae, mae maes B15 yn afraid i raddau helaeth am fod bron pob awdurdod bellach yn dilysu 100% o bleidleisiau post a ddychwelir.

Nid oes unrhyw faes sy'n nodi nifer y datganiadau pleidleisio drwy'r post a dderbyniwyd gan y Swyddog Canlyniadau neu mewn gorsaf bleidleisio cyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Yn ymarferol, rydym yn defnyddio maes B6, 'Nifer y prif amlenni a dderbyniwyd gan y Swyddog Canlyniadau neu mewn gorsaf bleidleisio cyn diwedd y cyfnod pleidleisio' yn lle hynny, ond gwyddom, fel y nodwyd, y gall etholwyr ddychwelyd mwy nag un bleidlais bost mewn un amlen neu ddychwelyd amlenni heb bapurau pleidleisio ynddynt. 

Ffurflen K: DATGANIAD O RAN PAPURAU PLEIDLEISIO DRWY'R POST

ETHOLIAD LLYWODRAETH LEOL

A. Anfon papurau pleidleisio drwy'r post
1. Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a anfonwyd o dan reoliad 71
2. Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a anfonwyd o dan reoliad 77 (a ddifethwyd ac a ddychwelwyd i'w canslo), rheoliad 78 (a gollwyd neu nas derbyniwyd) a rheoliad 78A (a ganslwyd am fod y cyfeiriad wedi newid)
3. Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd o dan reoliad 86A (lle y cafodd y papur pleidleisio cyntaf ei ganslo a'i adalw)
4. Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a anfonwyd (1 i 3)
5. Cyfanswm y papurau pleidleisio a ganslwyd o dan reoliad 78A
B (1). Derbyn papurau pleidleisio drwy'r post ac anfon rhai newydd
6. Nifer y prif amlenni a dderbyniwyd gan y Swyddog Canlyniadau neu mewn gorsaf bleidleisio cyn diwedd y cyfnod pleidleisio (heb gynnwys unrhyw rai nas dosbarthwyd neu a ddychwelwyd o dan reoliad 77(1) (difethwyd), rheoliad 78(1) (collwyd) a rheoliad 86A (papurau pleidleisio a ganslwyd)
7. Nifer y prif amlenni a dderbyniwyd gan y swyddog canlyniadau ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio, ac eithrio unrhyw rai a ddychwelwyd fel papurau nas dosbarthwyd
8. Nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi'u difetha i'w canslo mewn pryd i allu anfon papur pleidleisio arall
9. Nifer y papurau pleidleisio drwy'r post y nodwyd eu bod wedi'u colli neu heb eu dosbarthu mewn pryd i allu anfon papur pleidleisio arall
10. Nifer y papurau pleidleisio a ganslwyd ac a adalwyd mewn pryd i allu anfon papur pleidleisio arall
11. Nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd fel papurau wedi'u difetha yn rhy hwyr i allu anfon papur pleidleisio arall
12. Nifer y prif amlenni a ddychwelwyd fel amlenni nas dosbarthwyd
(hyd at y 25ain diwrnod ar ôl y dyddiad pleidleisio)
13. Nifer y prif amlenni nas derbyniwyd gan y Swyddog Canlyniadau
(erbyn y 25ain diwrnod ar ôl y dyddiad pleidleisio)
14. Cyfanswm y niferoedd ar gyfer 6 i 13 (dylai hwn fod yr un peth â'r cyfanswm yn eitem 4 uchod)
B (2). Derbyn papurau pleidleisio drwy'r post – Manylion Adnabod Personol
15. Nifer y prif amlenni a roddwyd o'r neilltu er mwyn dilysu'r manylion adnabod personol ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post
16. Nifer y datganiadau pleidleisio drwy'r post a fu'n destun gweithdrefn ddilysu ac a wrthodwyd fel datganiadau nas llenwyd (ac eithrio'r rhai a ganslwyd ymlaen llaw) 
17. Nifer y datganiadau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd yn dilyn gweithdrefnau dilysu am nad oedd y manylion adnabod personol ar y datganiadau pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhai yn y cofnod o fanylion adnabod personol (heb gynnwys y rhai a ganslwyd ymlaen llaw)
C. Cyfrif papurau pleidleisio drwy'r post
18. Nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd gan bleidleiswyr post a gafodd eu cynnwys yn y broses o gyfrif papurau pleidleisio
19.
Nifer yr achosion lle y rhoddwyd y gair “Gwrthodwyd” ar brif amlen neu ar ei chynnwys (nid yw pleidleisiau a ganslwyd o dan reoliadau 77, 78, 78A na 86A yn cyfrif fel rhai a wrthodwyd a dylid eu cynnwys yn eitemau 2, 3, 5, 8, 9 a 10 uchod)

 

Ffurflen data ychwanegol
1) Sawl dirprwy a benodwyd ar gyfer yr etholiadau hyn?
2) Sawl dirprwy brys a benodwyd ar gyfer yr etholiadau hyn?
3) Sawl hepgoriad a gymeradwywyd ar gyfer yr etholiadau hyn?
4) Sawl pleidlais bost a wrthodwyd am y rhesymau canlynol:
a) Bod llofnod ar goll
b) Bod dyddiad geni ar goll
c) Bod y ddau ar goll
d) Nid oedd y llofnod yn cyfateb
e) Nid oedd y dyddiad geni yn cyfateb
f) Nid oedd y naill na'r llall yn cyfateb
g) Nid oedd y papur pleidleisio wedi'i ddychwelyd
h) Nid oedd datganiad pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd
5) Beth oedd cyfanswm nifer y gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddiwyd?
6) Sawl prif amlen a ddychwelwyd cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio?
7) Sawl prif amlen a ddychwelwyd cyn 10pm y diwrnod ar ôl y diwrnod pleidleisio?
8) Cyfanswm yr etholwyr newydd a ychwanegwyd at y gofrestr ar ôl cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig hyd at ac yn cynnwys y rhai a  chwanegwyd drwy'r hysbysiad newid dros dro cyntaf
9) Cyfanswm yr etholwyr newydd a ychwanegwyd at y gofrestr rhwng yr ail hysbysiad newid a'r un olaf
10) Sawl cais i gofrestru a ddaeth i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cofrestru?
11) Cyfanswm y ceisiadau a ddaeth i law rhwng y dyddiad olaf i geisiadau gael eu cyfrif ar gofrestr ddiwygiedig Rhagfyr 2016 a'r dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau am yr hysbysiad newid dros dro cyntaf
12) Cyfanswm y ceisiadau dyblyg a ddaeth i law rhwng y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau i gael eu cynnwys ar gofrestr ddiwygiedig Rhagfyr 2016 a'r dyddiad olaf i gofrestru ar gyfer yr hysbysiad newid dros dro cyntaf
13) Cyfanswm y ceisiadau a ddaeth i law rhwng y diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau am yr hysbysiad newid dros dro cyntaf a'r dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau am yr hysbysiad newid olaf
14) Cyfanswm y ceisiadau dyblyg a ddaeth i law rhwng y diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau am yr hysbysiad newid cyntaf a'r dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau am yr hysbysiad newid olaf
15) Faint o bobl a geisiodd bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio a chanfuwyd nad oeddent wedi'u cofrestru?