Adroddiad ar weinyddu'r etholiadau a gynhaliwyd ar 4 Mai 2017
About this report
Ar 4 Mai 2017, cynhaliwyd etholiadau ym mhob un o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r Comisiwn Etholiadol, yn rhinwedd ei rôl statudol o oruchwylio etholiadau a chyflwyno adroddiadau arnynt, wedi ysgrifennu'r adroddiad hwn i nodi canfyddiadau allweddol o ran y ffordd y cafodd yr etholiadau eu cynnal, ac i gyflwyno argymhellion i'r llywodraeth neu i lywodraethau ac i weinyddwyr etholiadol ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Fel gydag adroddiadau etholiadol blaenorol yng Nghymru, rydym wedi ystyried barn partneriaid allweddol, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau a'u staff, pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid, a phleidleiswyr.
Canfyddiadau allweddol
Roedd cyfanswm o 2.28 miliwn o bobl wedi'u cofrestru i bleidleisio yn etholiadau lleol mis Mai 2017 yng Nghymru, sydd ychydig yn llai na'r nifer yn yr etholiadau llywodraeth leol blaenorol yn 2012 a 2013.
Bwriwyd cyfanswm o 895,943 o bleidleisiau, sy'n golygu bod 42% o'r etholaeth gymwys wedi pleidleisio, sef cynnydd bach yn y nifer a bleidleisiodd o gymharu â'r etholiadau yn 2012 a 2013. Roedd y nifer a bleidleisiodd yn amrywio o 36.3% yng Nghasnewydd i 53.0% yng Ngheredigion.
Cafodd etholiadau llywodraeth leol 2017 eu cynnal yn effeithiol. Fodd bynnag, mae'r rheolau etholiad yn gymhleth ac yn hen ffasiwn o hyd. Pwysleisir yr angen i newid gan argymhellion y Comisiwn Etholiadol yn yr adroddiad hwn, fel yn ein hadroddiadau blaenorol. Mae Comisiynau'r Gyfraith yn y DU hefyd wedi gwneud argymhellion er mwyn symleiddio a diwygio cyfraith etholiadol.
Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn yn awgrymu diwygiadau sy'n ofynnol i wella etholiadau yng Nghymru.
Canfu ein hymchwil i farn y cyhoedd a gynhaliwyd gyda phleidleiswyr fod 82% o ymatebwyr yn fodlon ar y gweithdrefnau ar gyfer pleidleisio ar y cyfan, sef cynnydd bach o gymharu ag 80% yn 2012. Dangosodd yr ymchwil y canlynol hefyd:
- roedd 95% o'r farn ei bod yn hawdd cwblhau'r papur pleidleisio
- roedd 96% o bleidleiswyr gorsaf bleidleisio yn fodlon ar y broses o bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
- roedd 100% o bleidleiswyr post yn fodlon ar eu profiad
- roedd 89% yn fodlon ar y system cofrestru etholiadol, o gymharu ag 84% yn 2012
- pobl rhwng 18 a 34 oed oedd y grŵp mwyaf bodlon (95%)
- roedd 81% yn hyderus bod yr etholiadau a gynhaliwyd ar 4 Mai wedi cael eu cynnal yn dda, o gymharu â 77% yn 2012
Argymhellion
Argymhelliad 1
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gymryd rhan ym Mwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru. Dylai hefyd ystyried sut y gellid datblygu rôl y Bwrdd yn y tymor canolig i'r hirdymor er mwyn cefnogi rhaglen moderneiddio etholiadol gyffredinol Llywodraeth Cymru. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ystyried p'un a ddylai'r Bwrdd ddod yn grŵp statudol, fel yn yr Alban.
Argymhelliad 2
Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi argymhellion Comisiynau'r Gyfraith ar waith, i'r graddau y maent yn gymwys i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, ac etholiadau Cynlluniad Cenedlaethol Cymru, pan gaiff pwerau deddfu ar gyfer yr etholiadau hyn eu datganoli yn 2018.
Argymhelliad 3
Rydym yn argymell y dylai'r Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth berthnasol, er mwyn sicrhau y creffir ar bapurau pleidleisio ac unrhyw ddeunyddiau ategol angenrheidiol a bod unrhyw welliannau'n cael eu nodi. Dylid cwblhau'r adolygiad hwn mewn pryd i alluogi Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i wneud unrhyw ddiwygiadau deddfwriaethol er mwyn cyflawni'r gwelliannau hyn, a sicrhau eu bod ar waith o leiaf chwe mis cyn yr etholiadau nesaf.
Argymhelliad 4
Rydym am weithio gyda llywodraethau'r DU, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er mwyn ystyried sut i ymgorffori gwiriadau mwy awtomatig yn y gwasanaeth cais ar-lein, fel ei bod yn glir os yw rhywun sy'n gwneud cais eisoes wedi'i gofrestru neu wedi cyflwyno cais yn ddiweddar, er enghraifft.
Argymhelliad 5
Rydym yn argymell y dylai'r Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg a phartneriaid cysylltiedig eraill weithio i greu adnoddau er mwyn hybu datblygiad parhaus etholiadau dwyieithog yng Nghymru.
Argymhelliad 6
Rydym yn argymell y dylai Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru ystyried sut y dylai data ar y nifer a bleidleisiodd gael eu casglu a'u cyhoeddi'n briodol yn etholiadau llywodraeth leol 2022.
Argymhelliad 7
Rydym yn parhau i argymell y dylai llywodraethau ddiwygio'r gyfraith er mwyn galluogi ymgeiswyr i ddefnyddio unrhyw rai o'u henwau a roddwyd, fel eu henw canol, fel enw a ddefnyddir yn gyffredin, heb gyfyngu enwau a ddefnyddir yn gyffredin i'r rhai sy'n wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw a roddwyd yn unig.