Adroddiad ar etholiadau mis Mai 2022 yng Nghymru
Crynodeb
Mae’r adroddiad yn edrych ar sut y cafodd etholiadau mis Mai 2022 yng Nghymru eu cynnal, beth oedd barn pleidleiswyr ac ymgyrchwyr ar gymryd rhan, a pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi adrodd ar wahân ar etholiadau a gynhaliwyd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Ar 5 Mai cynhaliwyd etholiadau ar draws 22 ardal awdurdod lleol Cymru. Yn gyffredinol, roedd pobl yn hyderus bod yr etholiadau hyn wedi’u cynnal yn llwyddiannus ac yn fodlon iawn gyda’r broses o gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais.
Roedd y nifer o bobl a bleidleisiodd yn yr etholiadau hyn yn is nag mewn etholiadau cymharol blaenorol, ac yn isaf ymhlith pleidleiswyr o dan 35 mlwydd oed. Argymhellir addysg ac ymgysylltu pellach i gefnogi pleidleiswyr sydd newydd eu rhyddfreinio i ddeall a chyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru.
Roedd bron pawb a bleidleisiodd wedi gallu defnyddio’u dull dewisol o bleidleisio ac wedi ffeindio’r broses o lenwi’u papur pleidleisio’n hawdd.
Ymgysylltodd ymgyrchwyr gyda phleidleiswyr mewn ystod o ffyrdd cyn yr etholiadau, ac roeddent yn teimlo eu bod wedi gallu cyfleu eu barn yn effeithiol. Yn gyffredinol roedd pleidleiswyr wedi ffeindio hi'n hawdd cael gafael ar wybodaeth am yr etholiadau, ond nid oedd hyn o reidrwydd yn golygu eu bod yn teimlo’n wybodus am yr etholiadau a phwy y gallent fwrw eu pleidlais drostynt.
Dywedodd cyfran sylweddol o ymgeiswyr wrthym eu bod wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth neu fygythiad. Mae dadl wleidyddol gadarn yn rhan o ddemocratiaeth iach, ond weithiau gall pethau fynd yn rhy bell ac arwain at fygythiadau a chamdriniaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n hanfodol bod camau’n cael eu cymryd yn erbyn y rheiny sy’n cael eu canfod yn euog o’r troseddau hyn. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, yr heddlu a'r gymuned etholiadol ehangach i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth sy’n achosi i ymgeiswyr gael eu cam-drin a’u bygwth, a sicrhau bod mynd i’r afael â’r mater hwn yn fater brys.
Yn olaf, mae cyflwyniad hwyr deddfwriaeth sy’n gwneud newidiadau i’r rheolau ar gyfer cynnal etholiadau wedi arwain at heriau ychwanegol sylweddol i Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol. Mae’n rhaid i bob Llywodraeth berthnasol ystyried effaith newidiadau deddfwriaethol ar weinyddiaeth etholiadau, ac ymrwymo y bydd deddfwriaeth yn glir o leiaf chwe mis cyn ei bod yn ofynnol cydymffurfio â hi neu ei rhoi ar waith.
Pleidleisio yn yr etholiadau
Profiad pleidleiswyr yn etholiadau mis Mai 2022
- roedd y rhan fwyaf o bobl yn hyderus bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus ac roedd y mwyafrif helaeth yn fodlon gyda’r broses o gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais
- roedd bron pawb o’r farn ei bod hi’n hawdd pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Roedd y rhan fwyaf o bleidleiswyr wedi gallu defnyddio’u dull dewisol o bleidleisio ac wedi ffeindio’r broses o lenwi’r papur pleidleisio’n hawdd
- roedd y nifer o bobl a bleidleisiodd yn yr etholiadau hyn yn is nag mewn etholiadau cymharol blaenorol, ac yn isaf ymhlith pleidleiswyr o dan 35 mlwydd oed
Trosolwg
Ar 5 Mai 2022, cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol ar draws y 22 awdurdod yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf lle'r oedd pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio yng Nghymru yn gallu cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau lleol.
Gwnaeth pedwar awdurdod lleol dreialu pleidleisio ymlaen llaw yn yr etholiadau hyn. Gwnaethom werthuso’r cynlluniau peilot, ac mae ein hadroddiad - a gyhoeddwyd ym mis Awst - wedi nodi nifer o feysydd penodol y bydd angen mynd i'r afael â nhw os ystyrir cyflwyno pleidleisio ymlaen llaw ar gyfer etholiadau pellach yn y dyfodol.
Mae pleidleiswyr yn parhau i fod â safbwyntiau cadarnhaol ynghylch sut y caiff etholiadau eu cynnal
Roedd gan bobl lefelau uchel o foddhad gyda’r broses o gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais. Dengys ein hymchwil y canlynol:
- roedd 81% o bobl ar draws Cymru yn fodlon gyda'r broses o gofrestru i bleidleisio
- roedd 95% o bobl a bleidleisiodd yn fodlon gyda'r broses bleidleisio
- dywedodd 71% o bobl eu bod yn hyderus bod yr etholiadau wedi’u cynnal yn llwyddiannus; serch hynny, doedd 10% ddim yn hyderus
Mae’r ffigurau hyn, ar y cyfan, yn gyson gyda chanfyddiadau yn dilyn yr etholiadau cymharol diweddaraf yn 2017 ac etholiad Senedd Cymru yn 2021.
Dengys ein hymchwil y gallai’r rhan fwyaf o bobl gael gwybodaeth am yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad. Gwnaethom ganfod y canlynol:
- dywedodd 41% o bobl ei bod hi’n weddol hawdd cael yr wybodaeth oedd ei hangen arnynt; dywedodd 18% ei bod hi’n hawdd iawn; dywedodd 19% ein bod hi’n weddol anodd; a dywedodd 9% ei bod hi’n anodd iawn
- dywedodd 45% o bobl bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus wrth bleidleisio, ond roedd dros draean (34%) yn tueddu i anghytuno
Yn 2022 roedd yna ostyngiad o 4% yn y nifer o bobl a bleidleisiodd yn yr etholiadau llywodraeth leol (38%) o gymharu â’r nifer yn 2017 (42%). Roedd pobl yn fwyaf tebygol o ddweud wrthym nad oeddent wedi pleidleisio oherwydd y canlynol:
- diffyg amser/rhy brysur (18%)
- dim diddordeb/wedi cael digon ar wleidyddiaeth (12%)
- ni fyddai’r bleidlais wedi gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad/nid yw’r bleidlais yn cyfrif (11%)
- rhesymau meddygol/iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 (9%)
- doeddwn i ddim yn hoffi’r ymgeiswyr/pleidiau/doedden nhw ddim yn adlewyrchu fy safbwyntiau (8%)
Dywedodd 94% o bobl a bleidleisiodd eu bod wedi gallu defnyddio’u dull dewisol o bleidleisio (yn bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy). Roedd y ffigur hyn yn is ymhlith pleidleiswyr a bleidleisiodd yn bersonol sydd ag anabledd neu gyflwr meddygol (82%).
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn hyderus eu bod yn gwybod sut i fwrw eu pleidlais
Roedd bron pob pleidleisiwr (97%) wedi ffeindio’r papur pleidleisio’n hawdd i’w llenwi, ac roedd tri ym mhob pedwar (74%) wedi ffeindio hi’n hawdd iawn. Fodd bynnag, roedd y ffigur hwn yn is ymhlith pleidleiswyr sydd ag anabledd neu gyflwr meddygol (67%).
Dywedodd bron pawb a oedd wedi pleidleisio drwy’r post eu bod yn gwybod sut i gwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost a’u bod wedi ffeindio’r cyfarwyddiadau pleidleisio drwy’r post yn ddefnyddiol:
- dywedodd 97% ei bod hi’n hawdd cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost, o gymharu a 3%a ddywedodd ei bod hi’n anodd
Dengys data o weinyddwyr etholiadol y canlynol:
- cafodd 3.3% o bleidleisiau post a ddychwelwyd eu gwrthod. Y rheswm mwyaf cyffredin dros bleidleisiau post yn cael eu gwrthod oedd nad oedd y dynodyddion personol (llofnod a/neu ddyddiad geni) a roddwyd gan bleidleiswyr at y datganiad pleidleisio drwy’r post yn cyd-fynd a’r hyn a roddwyd ganddynt yn flaenorol
- cafodd 0.6% o bleidleisiau a fwrwyd eu gwrthod yn y cyfrif. Y rheswm mwyaf cyffredin dros bapurau pleidleisio’n cael eu gwrthod yn y cyfrif oedd oherwydd eu bod heb eu marcio, gyda hyn yn cyfrif am bron i dri chwarter (73%) o’r holl bapurau pleidleisio a wrthodwyd
Ym mis Mai 2022, gwnaeth Llywodraeth Cymru, drwy Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, gais bod grŵp treialu o Swyddogion Canlyniadau yn gwneud newid i’r datganiad pleidleisio drwy’r post fel ei fod yn cynnwys blwch “dyddiad heddiw” ychwanegol. Y bwriad oedd gostwng y gyfradd gwrthod pleidleisiau post o ganlyniad i wallau gan etholwyr wrth iddynt ddarparu eu dynodyddion personol (yn benodol eu dyddiad geni). Gwnaeth 13 awdurdod lleol (allan o 22) y newid hwn i’r datganiad.
Cyfraddau pleidleisiau post a wrthodwyd | 2017 | 2022 |
---|---|---|
Yn yr ardaloedd treialu | 2.5% | 3.3% |
Dim yn yr ardaloedd treialu | 3.3% | 3.1% |
Yn yr ardaloedd treialu lle addaswyd y datganiad pleidleisio drwy’r post, roedd cynnydd pwynt canran o 0.8% yn y gyfradd gwrthod o gymharu â’r etholiadau cymharol diweddaraf yn 2017. Mewn ardaloedd lle nad oedd treialu’n digwydd, roedd gostyngiad pwynt canran o 0.2% yn y gyfradd gwrthod o gymharu â 2017.
Does dim patrwm sy’n amlwg yn y data a fyddai’n nodi pam fod y cynnydd hwn o bosib wedi digwydd. Gwyddwn o’n hymchwil arall bod y mwyafrif bobl sy’n pleidleisio drwy’r post yn gwneud hynny ar gyfer y rhan fwyaf o etholiadau, ac felly mae’n bosib eu bod wedi dod yn gyfarwydd defnyddio’r fersiwn o’r ffurflen hon sydd heb ei addasu. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y data sydd ar gael yn ofalus wrth wneud unrhyw benderfyniad i ddeddfu ar gyfer newidiadau parhaol i’r datganiad.
Byddwn hefyd yn parhau i archwilio ffyrdd o wella’r system etholiadol er mwyn bodloni anghenion pleidleiswyr. Fel rhan o hyn, byddwn (gan weithio ar y cyd gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru) yn ystyried tystiolaeth ynghylch p’un a allai newidiadau i ddogfennau neu brosesau pleidleisio drwy’r post helpu i ostwng y nifer o becynnau pleidleisio drwy’r bost sy’n cael eu gwrthod mewn etholiadau yn y dyfodol.
Argymhellir addysg ac ymgysylltu pellach i gefnogi pleidleiswyr newydd i ddeall a chyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru.
Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 ymestyn yr etholfraint bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor cymwys.
Er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr newydd yn deall y newid hwn ac yn gwybod sut i gofrestru, gwnaethom weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws Gymru i annog cofrestru ac addysgu pleidleiswyr newydd am eu pleidlais.
Cyn yr etholiadau gwnaethom gynnal ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr ‘Croeso i Dy Bleidlais’ oedd wedi’i dargedu at bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed sydd newydd eu rhyddfreinio, ochr yn ochr â’n hymgyrch ‘Oes ‘5 da ti?’ oedd yn targedu’r etholaeth gyfan. Ochr yn ochr â’n hymgyrchoedd, gwnaethom gynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn cynnwys ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ a ‘Diwrnod Croeso i Dy Bleidlais’, oedd wedi’u targedu at bob un o’r grwpiau sydd newydd eu rhyddfreinio.
Yn ystod y cyfnod ymgyrchu, gwnaeth cyfanswm o 38,438 o bobl yng Nghymru gais i gofrestru i bleidleisio, gan gynnwys 3,596 o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a 663 o ddinasyddion tramor cymwys.1
Roedd y nifer fwyaf o geisiadau gan ddinasyddion Hong Kong, yr Unol Daleithiau, Twrci ac Ynysoedd Philippines.2
Ochr yn ochr â’n gwaith i annog grwpiau sydd newydd eu rhyddfreinio i gofrestru, gwnaethom weithio gyda sefydliadau partner i egluro’r broses ddemocrataidd i grwpiau eraill sydd fel arfer wedi’u dieithrio neu eu tan-gofrestru. Roedd ein partneriaid yn cynnwys Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Mencap Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, Llamau a Sipsiwn a Theithwyr Cymru.
Cyn yr etholiadau, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i awdurdodau lleol i recriwtio Swyddogion Cymorth Cofrestru Etholiadol, er mwyn helpu i wella’r cyfraddau cofrestru ymhlith y grwpiau hynny sydd newydd eu rhyddfreinio ac sydd wedi’u tan-gofrestru. Gwnaethom weithio’n agos gyda’r swyddogion hyn drwy is-grŵp cyfathrebu Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a phartneriaeth gofrestru Llywodraeth Cymru. Croesawyd yr adnodd ychwanegol hwn gan awdurdodau lleol ac roedd yn hanfodol wrth ddarparu meysydd gwaith allweddol er mwyn targedu grwpiau targed, yn enwedig pobl ifanc. Barn gref yr awdurdodau lleol hynny y gwnaethom siarad â nhw oedd y dylai’r adnodd hwn barhau i fod ar gael er mwyn sicrhau yr adeiladir ar y sylfeini sydd eisoes wedi’u gosod ac y gellir parhau a’r gwaith pwysig hwn.
- dengys ein hymchwil wahaniaeth clir yn y nifer o bobl a bleidleisiodd ymhlith y rheiny o dan 35 mlwydd oed o gymharu â phob grŵp oedran arall sy’n hŷn
- gwnaeth tua 1 ym mhob 5 (12,338) o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed sydd newydd eu rhyddfreinio gofrestru i bleidleisio cyn yr etholiad hwn3
Cyn yr etholiadau, gwnaethom ddatblygu ein gwaith addysg ddemocrataidd i helpu pobl ifanc i ddeall sut y gallant gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Gwnaethom gyhoeddi diweddariadau i’n hadnoddau ar gyfer addysgwyr sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm presennol yng Nghymru.
Gwnaethom bartneru gyda The Democracy Box ac rydym wedi bod yn gweithio gyda chyd-greadwyr ifanc y prosiect a chyfranogwyr grŵp ffocws sy’n 16-26 mlwydd oed i gael adborth ar ein hadnoddau i bobl ifanc.
Mae adborth gan bobl ifanc a phartneriaid sy’n gysylltiedig â’n gwaith addysg wedi dangos y canlynol yn gyson:
- diffyg dealltwriaeth o sut i gymryd rhan yn ein proses ddemocrataidd
- diffyg awydd i gymryd rhan mewn etholiadau oherwydd dim digon o wybodaeth am ymgeiswyr, pleidiau a’r broses yn gyffredinol
Gwnaeth ein hymchwil Traciwr Barn y Cyhoedd 2022 (a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2022) hefyd ganfod y canlynol:
- mae 77% o rieni yn meddwl ei bod hi’n bwysig bod plant yn dysgu’r hanfodion am wleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol
- mae mwy o rieni o’r farn bod yr wybodaeth mae eu plant yn ei chael ynghylch gwleidyddiaeth, pleidleisio a democratiaeth yn yr ysgol yn annigonol (31%) na’n ddigonol (22%)
Roedd yr adroddiad gwerthuso Youth Voice gan The Democracy Box yn argymell y canlynol:
"Dylid dechrau addysg ddemocrataidd yn gynnar a’i wneud yn rhan annatod o’r cwricwlwm, ond wedyn dylai barhau wrth i bobl ifanc fynd ymlaen i wneud pethau gwahanol mewn mannau gwahanol, mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol a thu hwnt.”
Nod y Cwricwlwm Newydd i Gymru yw cefnogi dysgwyr i ddod yn ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus sy’n deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd.’ Mae hwn felly yn gyfle i ymwybyddiaeth ddemocrataidd gael ei gwau’n gyson drwy addysg, yn hytrach na bod yn destun annibynnol yn ystod etholiad.
Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni drwy ymgysylltu mwy gyda phobl ifanc ac addysgwyr ar draws Cymru, a chyda Llywodraeth Cymru, er mwyn nodi rhagor o themâu a thestunau y gall ein hadnoddau fynd i’r afael â nhw a darparu hyfforddiant i athrawon. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein hadnoddau’n gallu cefnogi’n effeithiol darpariaeth addysg ddemocrataidd mewn ysgolion drwy’r cwricwlwm newydd.
Argymhelliad 1
Argymhelliad 1
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried parhau i roi adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i gynyddu cyfraddau cofrestru a chefnogi cyfranogiad ymhlith y grwpiau hynny sydd newydd eu rhyddfreinio ac sydd wedi’u tan-gofrestru, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan Swyddogion Cymorth Cofrestru Etholiadol.
Ymgyrchu yn yr etholiadau
Y profiad o ymgyrchu yn etholiadau mis Mai 2022
- gwnaeth ymgyrchwyr gyfathrebu gyda phleidleiswyr drwy ddefnyddio nifer o ddulliau, gan gynnwys trwy ddeunydd argraffedig, wyneb-yn-wyneb ac ymgyrchu digidol. Roedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn teimlo eu bod yn gallu cyfleu eu barn i bleidleiswyr. Dulliau ymgyrchu traddodiadol (dosbarthu taflenni a chanfasio) oedd y rhai mwyaf poblogaidd
- mae tryloywder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am gynhyrchu deunydd ymgyrchu ar-lein a deunydd ymgyrchu digidol yn dal i fod yn bwysig i bleidleiswyr
- achosodd deddfwriaeth hwyr oedd yn gysylltiedig â’r ffurflenni enwebu ddryswch i rai ymgeiswyr, yn enwedig y datganiad ymlyniad wrth blaid
- dywedodd cyfran sylweddol o ymgeiswyr a ymatebodd i’n harolwg eu bod wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth neu fygythiad. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd hyn yn cynnwys camdriniaeth ar lafar neu ar-lein, a daeth y mwyafrif ohonynt gan aelodau o’r cyhoedd. Cawsom hefyd adroddiadau gan yr heddlu ynghylch ymddygiad gwael gan ymgeiswyr. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r gymuned etholiadol ehangach i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth sy’n achosi i ymgeiswyr gael eu cam-drin a’u bygwth, a sicrhau bod mynd i’r afael â’r mater hwn yn fater brys
Overview
Safodd dros 3000 o ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol yng Nghymru, yn cynrychioli 24 plaid, yn ogystal â 711 o ymgeiswyr annibynnol. O’r 1,233 o seddi oedd ar gael, cafodd 74 o ymgeiswyr eu hethol heb etholiad a ymleddir.
Roedd ymgyrchwyr yn gallu ymgysylltu â phleidleiswyr ond gwnaethant godi rhai gofidion am effaith barhaus Covid.
Ymgysylltodd ymgyrchwyr gyda phleidleiswyr mewn ystod o ffyrdd cyn yr etholiadau, ac roedd y rhan fwyaf yn teimlo eu bod wedi gallu cyfleu eu barn yn effeithiol.
Yn etholiadau 2022, adroddodd pleidleiswyr eu bod wedi cael gwybodaeth gan ymgeiswyr mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys:
- pamffled gan ymgeisydd (56%)
- taflen gan ffynhonnell arall (unigolyn neu sefydliad sy’n cefnogi ymgeisydd) (27%)
- canfasio drws i ddrws (15%), a oedd yn uwch mewn ardaloedd gwledig (23%)
- ar lafar (15%)
- postiadau cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi’u targedu (14%)
- hysbyseb ar gyfryngau cymdeithasol (12%)
Dywedodd ymgeiswyr a ymatebodd i’n harolwg mai dulliau ymgyrchu mwy traddodiadol a ddefnyddiwyd yn yr etholiadau hyn:
- nododd 83% bod dosbarthu taflenni ymhlith eu tri hoff ddull ymgyrchu, gyda 45% o ymatebwyr yn dweud mai hwn oedd y dull roeddent yn ei ddefnyddio fwyaf. Roedd canfasio drws i ddrws yn boblogaidd hefyd gyda 30% yn dweud mai hwn oedd eu dull mwyaf cyffredin
- defnyddiodd nifer sylweddol o ymatebwyr gyfryngau cymdeithasol yn eu hymgyrchoedd, er mai ychwanegu at ddulliau traddodiadol oedd y bwriad yn bennaf, yn hytrach na bod yn brif offeryn. Nododd 55% bod cyfryngau cymdeithasol ymhlith eu tri hoff ddull ymgyrchu, gydag 8% yn dweud mai hwn oedd y dull roeddent yn ei ddefnyddio fwyaf, o gymharu â 40% yn dweud mai hwn oedd y trydydd dull y byddent yn ei ddefnyddio fwyaf
- pan ofynnwyd ynghylch ymgyrchu digidol, canfuwyd bod dulliau rhad ac am ddim yn fwy poblogaidd na dulliau digidol â thâl. Rhoddodd 56% o ymatebwyr bostiadau ar gyfryngau cymdeithasol, a gofynnodd 25% i gefnogwyr rannu eu postiadau. Hysbysebion ar gyfryngau cymdeithasol oedd y dull mwyaf poblogaidd o ymgyrchu digidol â thâl, er taw dim ond 7% o ymatebwyr wnaeth ei ddefnyddio
- dywedodd tua thraean (30%) o ymatebwyr nad oeddent wedi defnyddio unrhyw ymgyrchu digidol
Dengys ein hymchwil bod Covid wedi parhau i gael effaith ar ymgyrchu. Yn ôl ymgeiswyr wnaeth ymateb i’n harolwg, roedd 65% yn teimlo eu bod wedi gallu cyfleu eu barn yn effeithiol i bleidleiswyr, tra anghytunodd 9%. Fodd bynnag, adroddodd y mwyafrif o ymgeiswyr bod Covid wedi effeithio ar eu hymgyrchoedd mewn rhyw ffordd, yn benodol:
- dywedodd 60% bod Covid wedi effeithio ‘cryn dipyn’ neu ‘ychydig’ ar eu gallu i ymrestru gwirfoddolwyr, a dywedodd dros hanner (55%) bod llai o gyfleoedd ar gyfer ymgyrchu wyneb-i-wyneb wedi effeithio ar eu hymgyrch i ryw raddau
- dywedodd 45% bod gofidion am eu hiechyd wedi dylanwadu ar eu hymgyrch mewn rhyw ffordd
Mae pobl eisiau gwybod pwy sy’n gyfrifol am gynhyrchu deunydd ymgyrchu
Gwnaeth ein hymchwil gadarnhau bod pobl yn parhau i werthfawrogi tryloywder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am weithgarwch ymgyrchu gwleidyddol ar-lein mewn etholiadau.
Gwnaethom ganfod y canlynol:
- mae 3 ym mhob 5 oedolyn yng Nghymru yn dweud ei fod yn bwysig iddynt wybod pwy sydd wedi cynhyrchu’r wybodaeth wleidyddol maent yn ei gweld ar-lein
- mae bron i hanner o ymatebwyr (49%) yn dweud y byddent yn ymddiried mwy mewn deunydd ymgyrchu digidol pe baent yn gwybod pwy oedd wedi’i gynhyrchu
- mae 40% yn teimlo na allant ymddiried yn yr wybodaeth wleidyddol sydd ar gael ar-lein ar hyn o bryd, a dim ond 14% a ddywedodd bod modd ymddiried yn yr wybodaeth ar-lein.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r rhan fwyaf o ymgyrchwyr gynnwys gwybodaeth sy’n nodi pwy ydynt fel rhan o’u deunydd ymgyrchu ar-lein. Bydd y gofyniad newydd hwn o ran argraffnod digidol yn helpu pleidleiswyr i ddeall pwy sy’n talu i ‘w targedu ar-lein mewn etholiadau a refferenda yn y dyfodol. Byddwn yn monitro unrhyw effaith y mae’r gofynion hyn yn ei gael ar hyder pobl mewn gwybodaeth wleidyddol ar-lein.
Argymhelliad 2
Argymhelliad 2
Rydym yn parhau i argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyfundrefn argraffnod digidol ar waith cyn y gyfres nesaf o etholiadau sydd wedi’u trefnu yng Nghymru.
Achosodd deddfwriaeth hwyr ddryswch i rai ymgeiswyr oedd yn sefyll mewn etholiad
Mae dwy broblem wedi’u nodi lle effeithiodd newidiadau deddfwriaethol hwyr a wnaed cyn yr etholiadau hyn ar ymgeiswyr.
Roedd y newid cyntaf yn ddatganiad o ymlyniad wrth blaid, lle mae’n rhaid i ymgeiswyr ddatgan nawr p’un a ydynt wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol arall o fewn y 12 mis sy’n arwain at y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad o etholiad. Achosodd hyn ddryswch i rai ymgeiswyr, a oedd naill ai heb lenwi’r adran hon neu a oedd wedi’i llenwi’n anghywir. Caiff y mater hwn ei drin mewn mwy o fanylder yn yr adran Cynnal yr etholiadau yn yr adroddiad hwn.
Roedd yr ail newid yn gysylltiedig â defnyddio disgrifiadau ar y cyd ar y papur pleidleisio. Roedd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatáu dwy blaid i ddefnyddio disgrifiad ar y cyd ar y papur pleidleisio, ac mae’n rhaid i'r disgrifiad gynnwys enwau cofrestredig llawn y ddwy blaid.
Mae’r gyfraith ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau eraill ar draws y DU yn wahanol, ac yn caniatáu defnyddio disgrifiadau ar y cyd sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol ac sy’n nodi’r pleidiau sy’n gysylltiedig ond sydd ddim o reidrwydd yn cynnwys enwau llawn y pleidiau cofrestredig. Yn yr etholiadau llywodraeth leol, ni chaniatawyd y disgrifiadau ar y cyd cofrestredig hyn o dan y ddeddfwriaeth newydd.
Argymhelliad 3
Argymhelliad 3
Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r ddeddfwriaeth o amgylch disgrifiadau ar y cyd cyn yr etholiadau lleol nesaf sydd wedi’u trefnu, er mwyn caniatáu i ddisgrifiadau ar y cyd cofrestredig gael eu defnyddio ar y papur pleidleisio, yn unol â’r sefyllfa ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau eraill ar draws y DU.
Rhoesom gefnogaeth i ymgeiswyr drwy gydol y broses etholiadol
Aethom i sesiynau ymgeiswyr mewn cynadleddau pleidiau a digwyddiadau rhithwir annibynnol i roi gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am y rheolau ar gyfer yr etholiadau o’r broses enwebu hyd at adrodd ar wariant ymgyrchu. Rydym hefyd wedi trefnu sesiwn rhithwir arbennig ar gyfer ymgeiswyr annibynnol, ac wedi bod yn bresennol mewn sesiynau briffio awdurdodau lleol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu cymaint o gefnogaeth â phosib cyn y cyfnod enwebu ac hyd at y diwrnod pleidleisio.
Gwnaethom hefyd gyflwyno cymorthfeydd rhithwir ar gyfer rhoi cyngor ar ôl etholiad i ymgeiswyr ac asiantiaid oedd eisiau gofyn cwestiynau penodol. Roedd y sesiynau hyn yn boblogaidd ac mae’r adborth wedi bod yn bositif. Roedd yr adborth yn cynnwys:
- cytunodd bron i dri chwarter (73%) o ymgeiswyr bod y gyfraith ar wariant etholiadol ac adrodd yn glir. Dywedodd un o bob pump (20%) naill ai nad oeddent yn gwybod neu nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno, a dywedodd 7% eu bod yn anghytuno
- cytunodd ychydig yn llai na dau o bob tri (64%) bod y gyfraith ar roddion a sut i wirio a ganiateir rhoddion yn glir, o gymharu â 6% a anghytunodd
- roedd 69% o’r farn bod y gyfraith am dreuliau personol yn glir, tra roedd 6% yn anghytuno
Mae bygythiadau a chamdriniaeth yn parhau i fod yn broblem yn ystod etholiadau
Dywedodd 3 o bob 5 ymgeisydd a ymatebodd i’n harolwg (60%) nad oeddent wedi cael unrhyw broblemau gyda chamdriniaeth neu fygythiad; fodd bynnag roedd 40% wedi profi rhyw fath o broblem ac roedd 8% wedi profi problem ddifrifol. Canfu ein hymchwil y canlynol:
- o’r rheiny a ddywedodd wrthym eu bod wedi profi rhyw fath o gamdriniaeth, roedd y ffynonellau mwyaf cyffredin ar lafar (69%) ac ar-lein (46%)
- dywedodd dros ddau o bob tri (69%) bod y gamdriniaeth roeddent wedi’i phrofi wedi dod gan aelodau o’r cyhoedd. Dywedodd bron i 2 ym mhob 5 (39%) eu bod wedi profi camdriniaeth gan ymgeiswyr eraill, tra dywedodd 15% eu bod wedi profi camdriniaeth neu fygythiadau gan ymgyrchwyr neu wirfoddolwyr
- gwelodd 16% gamdriniaeth neu fygythiadau at y rheiny oedd yn ymgyrchu ar eu rhan
- o’r rheiny sydd wedi profi neu sydd wedi gweld camdriniaeth, dywedodd 15% eu bod wedi adrodd amdano i’r heddlu, a dywedodd bron i un ym mhob pump a brofodd camdriniaeth neu fygythiadau y byddai eu profiad yn gwneud iddynt feddwl am beidio â sefyll yn y dyfodol
Rydym wedi cael gwybodaeth gan bedwar Pwynt Cyswllt Unigol yr heddlu yng Nghymru ynghylch problemau a brofwyd yn ystod cyfnod yr etholiad. Yn gyffredinol, cafwyd adroddiadau bod ymddygiad rhai o’r ymgeiswyr wedi bod yn wael, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r heddlu wedi dweud y canlynol:
"Roedd ymddygiad rhai o’r ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol ym mis Mai yn gwbl annerbyniol.”
Mae Pwyntiau Cyswllt Unigol yr heddlu wedi cynnig eu bod nhw, ar ran y lluoedd heddlu yng Nghymru, yn creu canllawiau i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr ar y disgwyliadau ynghylch ymddygiad yn ystod cyfnod etholiad, a dylid darparu’r canllawiau hyn i’r ymgeiswyr i gyd fel rhan o’r broses enwebu.
Byddai’r canllawiau newydd hyn yn eistedd ochr yn ochr â’r adnoddau sydd eisoes ar gael ar wefan y Coleg Heddlua ac sy’n berthnasol i ymgeiswyr, a’r Cod Ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr. Byddwn yn gweithio gyda’r lluoedd heddlu perthnasol a phwyntiau cyswllt unigol yr heddlu wrth ddatblygu a chefnogi’r deunydd hwn.
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r gymuned etholiadol ehangach i wneud yn siŵr ein bod yn deall beth sy’n achosi i ymgeiswyr gael eu cam-drin a’u bygwth, ac i ddatblygu ymatebion effeithiol i ddiogelu ymgeiswyr ac ymgyrchwyr mewn etholiadau yn y dyfodol.
Cynnal yr etholiadau
Profiad gweinyddu etholiadol yn etholiadau mis Mai 2022
- cafodd yr etholiadau eu cynnal yn llwyddiannus ar draws Gymru, ond crëwyd heriau gan y problemau gyda chapasiti a gwydnwch timau etholiadol, ynghyd â’r trosiant uchel o Swyddogion Canlyniadau.
- mae cyflwyniad hwyr deddfwriaeth sy’n gwneud newidiadau i’r rheolau ar gyfer cynnal yr etholiadau wedi arwain at heriau ychwanegol sylweddol i Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr. Gellid osgoi hyn pe bai’r holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â digwyddiadau etholiadol yn glir o leiaf chwe mis cyn ei bod yn ofynnol cydymffurfio â hi neu ei rhoi ar waith.
Trosolwg
Roedd timau etholiadau awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli cofrestru etholiadol, enwebiadau ymgeiswyr, pleidleisio absennol, gorsafoedd pleidleisio a chyfrif pleidleisiau. Dengys ein tystiolaeth bod etholiadau mis Mai 2022 wedi’u cynnal yn llwyddiannus, a bod pleidleiswyr ac ymgyrchwyr wedi adrodd am lefelau uchel o fodlonrwydd a hyder.
Ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol fodd bynnag, cyflwynodd yr etholiadau hyn heriau sylweddol. Un ohonynt oedd y diffyg amser oedd ar gael i gynllunio o ganlyniad i gyflwyno deddfwriaeth newydd yn hwyr.
Mae yna hefyd broblemau sylfaenol yn parhau sy’n gysylltiedig â gwydnwch a chapasiti timau etholiadol. Teimlwyd yr heriau hyn gryfaf mewn awdurdodau lleol lle'r oedd capasiti yn fwy cyfyngedig, neu mewn achosion lle bu newid diweddar mewn Swyddog Canlyniadau a Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol.
Fodd bynnag, gyda diwydrwydd a chymorth sylweddol, yn ogystal â chefnogaeth gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, roedd awdurdodau lleol yn gallu cynnal yr etholiadau’n llwyddiannus, er eu bod mewn amgylchiadau o dan bwysau.
Roedd amseru’r newidiadau deddfwriaethol yn golygu nad oedd gan Swyddogion Canlyniadau y sicrwydd oedd ei angen arnynt i gynllunio
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru arolwg yn ystod haf 2021. Canlyniad hyn oedd cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n darparu cyfres newydd o reolau ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Daeth Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2022 i rym ar 14 Rhagfyr 2021.
Roedd y newidiadau yn y rheolau’n golygu, am y tro cyntaf, bod y canlynol yn berthnasol i ymgeiswyr:
- nid oedd angen llofnodion cefnogwyr arnynt (heblaw am un tyst)
- ni allent ddewis cael eu cyfeiriad cartref wedi’i ddangos ar y papur pleidleisio
- roedd angen iddynt ddatgelu aelodaeth flaenorol i blaid (o fewn y 12 mis diwethaf)
- gallant gyflwyno’u cais yn electronig
Gwnaed newidiadau hefyd i’r meini prawf anghymhwyso, a olygai y gallech sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad awdurdod lleol os oedech yn swyddog cyflogedig neu’n gyflogai yn yr awdurdod lleol hwnnw, ond byddai’n rhaid i chi ymddiswyddo pe baech yn cael eich ethol.
Ym mis Mawrth 2022, diwygiwyd y rheolau newydd gan Reoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol ac Ôl-ddilynol) (Cymru) 2022.
Gwnaed y diwygiadau hyn yn rhannol mewn ymateb i sylwadau a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori byr ar y rheolau sylweddol, ond hefyd i ychwanegu darpariaethau oedd yn angenrheidiol i gefnogi’r cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw mewn pedwar ardal awdurdod lleol.4
Creodd cyflwyniad hwyr y rheolau newydd heriau ychwanegol i weinyddwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer yr etholiadau, ac i ni hefyd wrth i ni baratoi canllawiau ac adnoddau i’w cefnogi. Roedd yr effaith allweddol ar y ffurflenni enwebu. Ni allem sicrhau eu bod ar gael hyd nes 18 Chwefror pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth ddiwygio.
Dywedodd gweinyddwyr etholiadol a ymatebodd i’n harolwg bod cyflwyno deddfwriaeth mor agos at yr etholiadau wedi’i gwneud hi’n anodd iddynt gynllunio’n effeithiol. Yn benodol, gwnaethant adrodd bod hwyrni’r ffurflenni enwebu wedi cael effaith ar argaeledd y canllawiau a’r briffiadau y gallent eu cynnig i ymgeiswyr.
"Roedd deddfwriaeth yn rhy hwyr ar gyfer yr etholiadau lleol. Dechreuodd ein briffiadau i ymgeiswyr ym mis Ionawr a daeth y ddeddfwriaeth drwy yn hwyr ym mis Rhagfyr. Sut ydym fod i annog ymgeiswyr i ddod ymlaen a sefyll am etholiad pan nad ydym yn gwybod, digon o amser ymlaen llaw, beth yw’r rheolau a’r prosesau, yn enwedig o ystyried maint dichonadwy'r newidiadau oedd yn cael eu cynnig?” - Gweinyddwr Etholiadol
Mae angen eglurder cynnar ar Swyddogion Canlyniadau er mwyn iddynt allu cyflawni newidiadau sylweddol a gyflwynir gan ddeddfwriaeth newydd
Disgwylir diwygiadau sylweddol yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, a fydd yn cyflwyno heriau newydd i ymarferwyr etholiadol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys polisïau newydd y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â newidiadau sy’n codi o Ddeddf Etholiadau 2022 Llywodraeth y DU.
Mae angen i lywodraethau sicrhau bod yna gynllunio, rheoli a chyfathrebu effeithiol gyda’r gymuned etholiadol o amgylch deddfwriaeth newydd, ac osgoi oedi sylweddol a newidiadau munud olaf.
Argymhelliad 4
Argymhelliad 4
Rydym unwaith eto yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â digwyddiadau etholiadol yn glir (naill ai drwy Gydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth sylfaenol, neu drwy osod is-ddeddfwriaeth i’w cymeradwyo gan y Senedd) o leiaf chwe mis cyn ei bod yn ofynnol cydymffurfio â hi neu ei rhoi ar waith.
Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn glir o leiaf chwe mis cyn bod unrhyw newidiadau yn Neddf Etholiadau 2022 yn cael eu rhoi ar waith fel bod Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol yn cael digon o amser i baratoi.
Bydd methu â gwneud hyn yn creu risgiau sylweddol i etholiadau llwyddiannus a hyder y cyhoedd mewn etholiadau. Mae hyn yn golygu bod gweinyddwyr etholiadol yn cael eu rhoi o dan lawer o bwysau, gyda chyflawniad llwyddiannus yr etholiadau’n dibynnu ar eu hewyllys da i weithio oriau ychwanegol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, sydd ddim yn gynaliadwy. Mae hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar ymgeiswyr ac asiantiaid, sydd â llai o amser i gyfarwyddo â’r broses.
Mae gwydnwch a chapasiti mewn timau etholiadol yn parhau i fod yn her sylweddol
Mewn adroddiadau blaenorol rydym wedi amlygu ein gofidion am wydnwch a chapasiti strwythurau gweinyddu etholiadol yng Nghymru. Mae’r trosiant uchel o Swyddogion Canlyniadau yn parhau ac yn cynyddu’r risgiau i etholiadau llwyddiannus.
Gwnaeth Swyddogion Canlyniadau newydd werthfawrogi’r cymorth a roddwyd gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru drwy ei gynllun digwyddiadau a mentor.
"Roedd y cymorth personol a gefais gan fy mentor a Swyddogion Canlyniadau profiadol eraill yn fy rhanbarth yn ddefnyddiol iawn. Roedd y cymorth a gefais gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru yn ddefnyddiol iawn hefyd, yn enwedig ar gyfer fy ngwneud yn ymwybodol o’r problemau difrifol ar draws Cymru a chynnig datrysiadau."
Dywedodd Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol wnaeth ymateb i’n harolwg bod gwydnwch gwasanaethau etholiadol yn dal i fod yn broblem, ond bod yr etholiadau hyn wedi bod yn fwy syml i’w rheoli o gymharu â’r her o gynnal etholiad Senedd Cymru yn 2021.
Roedd problem yn Sir Ddinbych lle gwnaed gwall yn y cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio. Cafodd y rhain wedyn eu hanfon at 16,000 o bleidleiswyr post. Pan nodwyd y broblem, cymerwyd camau i gysylltu â’r pleidleiswyr hynny a gafodd eu heffeithio er mwyn rhoi’r cyfarwyddiadau cywir iddynt. Er bod y nifer o bleidleiswyr a gafodd cyfarwyddiadau anghywir yn sylweddol, roedd y nifer o bapur pleidleisio drwy’r post a ail-anfonwyd oherwydd y gwall yn fach (15).
Rydym yn cydnabod y pwysau y mae Swyddogion Canlyniadau a’u timau’n eu hwynebu, yn enwedig pan fod swyddogion yn newydd ac yn ddibrofiad. Mae’n bwysig fodd bynnag bod gan bleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol hyder yn y broses etholiadol a bod y deunydd etholiadol maent yn ei gael yn gywir.
Yn dilyn yr etholiadau, mae’r Swyddog Canlyniadau yn Sir Ddinbych a’i dîm wedi adolygu sut digwyddodd y gall a’u prosesau ar gyfer mynd i’r afael a’r gwall, ac maent wedi gwneud ymrwymiad i wella’r prosesau yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi rhoi cyngor i’r Swyddog Canlyniadau a’i staff i’w cefnogi wrth iddynt wella eu prosesau prawfddarllen ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Roedd recriwtio staff i weithio yn yr etholiadau mewn rhai ardaloedd yn broblem. Dywedodd dau o bob tri gweinyddwr a ymatebodd i’n harolwg bod recriwtio digon o staff addas ar gyfer gorsafoedd pleidleisio’n broblem. Mewn rhai achosion, adroddodd gweinyddwyr eu bod wedi gorfod recriwtio Swyddogion Llywyddu gyda phrofiad cyfyngedig neu ddim profiad o gwbl o’r rôl er mwyn sicrhau y gellid staffio gorsafoedd pleidleisio’n briodol. Hefyd, amlygodd gweinyddwyr bod nifer o bobl a oedd wedi ymgymryd â rôl y Swyddog Llywyddu yn flaenorol wedi dweud nad oedd diddordeb ganddynt wneud hynny mwyach. Dywedodd gweinyddwyr hefyd eu bod o’r farn y byddai hyn yn parhau i fod yn broblem, gan gyfyngu ar nifer y bobl brofiadol a fyddai ar gael i weithio ym mhob set o etholiadau.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn parhau i weithio gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a'r gymuned etholiadol ehangach ar draws y DU i drafod a nodi datrysiadau i’r heriau o ran staffio, gwydnwch a chapasiti y mae Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a’u timau yn eu profi, yn ogystal â’r heriau o ran recriwtio digon o staff i orsafoedd pleidleisio.
Mae cynllunio effeithiol a chefnogaeth wedi helpu Swyddogion Canlyniadau i gynnal yr etholiadau
Fel mewn etholiadau diweddar blaenorol, roedd gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru rôl gydlynu bwysig ar gyfer yr etholiadau hyn, gan gefnogi awdurdodau lleol drwy gynnal digwyddiadau ar draws Cymru gyfan oedd yn briffio Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol yn ystod hydref 2021 a gwanwyn 2022.
Mae’r Bwrdd, a sefydlwyd yn 2017, yn gweithredu’n wirfoddol i gydlynu’r cynllunio ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a’r gweithgareddau etholiadol ar draws Cymru gyfan sy’n gysylltiedig â moderneiddio a diwygio etholiadol. Yn ogystal, mae’r Bwrdd yn cefnogi cydweithredu rhwng Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol a Lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid allweddol eraill yng Nghymru.
Mae’r rheiny a ymatebodd i’n harolwg yn dweud eu bod yn teimlo bod rôl y Bwrdd yn achosi dryswch weithiau a bod modd gwella cyfathrebu. Pe byddai’r Bwrdd yn cael ei wneud yn statudol, fel yr argymhellwyd gennym yn ein hadroddiadau ar etholiadau yng Nghymru yn 2017 a 2021, rydym o’r farn y byddai hyn yn dechrau mynd i’r afael â’r gofidion hyn.
Cafodd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru drafodaethau cynnar ynghylch amseru’r cyfrif, a cheisiodd gonsensws ar draws Cymru. Ym mis Ionawr 2022, gyda chefnogaeth y prif bleidiau gwleidyddol, argymhellodd y Bwrdd i’r holl Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru y dylai’r cyfrif ddigwydd y diwrnod ar ôl diwrnod y bleidlais, ac nid dros nos. Cafodd yr argymhelliad hwn ei roi ar waith ar draws Cymru. Yn debyg i’r adborth a gawsom yn etholiad Senedd Cymru yn 2021, gwnaethom glywed gan weinyddwyr bod cyfrif yn ystod y dydd wedi bod yn llwyddiant a’i fod wedi’i werthfawrogi gan ymgeiswyr a staff yr etholiad. Gwnaeth hyn staffio’r cyfrif yn haws ac yn ôl pob sôn gwnaeth wella’r awyrgylch gyffredinol hefyd.
Argymhelliad 5
Argymhelliad 5
Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a’i osod ar lefel statudol, a fydd yn ei alluogi i gael mwy o rôl wrth gyflawni etholiadau a diwygiadau etholiadol yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae’r ffurflenni enwebu newydd a’r prosesau cyflwyno electronig newydd wedi gwneud y broses yn haws i ymgeiswyr ond hefyd wedi creu heriau gweinyddol
Newidiodd deddfwriaeth newydd y ffurflenni enwebu ar gyfer yr etholiadau lleol, ac roedd ymgeiswyr yn gallu eu cyflwyno i Swyddogion Canlyniadau yn electronig am y tro cyntaf.
Er bod y broses enwebu, ar y cyfan, wedi rhedeg yn esmwyth ac wedi rhoi ffyrdd gwahanol i’r ymgeiswyr gyflwyno’u papurau enwebu, amlygodd adborth gan weinyddwyr etholiadol broblemau gyda’r ffurflenni enwebu a’r broses electronig ar gyfer cyflwyno. Er enghraifft:
- ychwanegodd prosesu ffurflenni electronig at y pwysau gwaith ar adeg pan roedd amser yn gyfyngedig
- cyflwynodd llawer o ymgeiswyr ffurflenni enwebu yn electronig yn agos iawn at y dyddiad cau gan ei gwneud hi’n anodd mynd i’r afael ag unrhyw broblemau
- teimlwyd bod y ffurflenni’n ailadroddus a ddim yn syml i’w cwblhau
“Gwnaeth y ceisiadau ar-lein hi’n haws i ymgeiswyr gyflwyno papurau ar adeg oedd yn gyfleus iddynt a chael gwared ar yr angen iddynt ddod mewn i’r swyddfa i’w cyflwyno. Ar adeg pan rydym yn eithriadol o brysur gydag enwebiadau, gallai mân wallau ar y ffurflen a fyddai’n gallu cael eu cywiro mewn eiliadau yn y swyddfa, gymryd cwpl o ddyddiau i’w datrys drwy e-byst.”
Drwy Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i nodi gwelliannau i’r broses enwebu a allai cael eu cyflwyno ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Mae’r rheolau newydd hefyd wedi gwneud newidiadau i’r ffurflenni enwebu sy’n gofyn bod ymgeiswyr yn rhoi datganiad yn cadarnhau p’un a oeddent yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig o fewn y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar y diwrnod pan gyhoeddwyd yr hysbysiad o etholiad (diffinnir hwn fel ‘y cyfnod perthnasol’), ac os oeddent, eu bod yn rhoi manylion yr aelodaeth hon.
Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, rhoddodd gweinyddwyr wybod i ni bod dryswch ynghylch yr wybodaeth yr oedd angen iddynt ei throsglwyddo o’r ffurflenni enwebu i’r datganiad o bersonau a enwebwyd, y byddent wedyn yn sicrhau y byddai ar gael yn gyhoeddus. Pe bai’r ddeddfwriaeth wedi bod ar waith yn gynt, a phe bai mwy o amser wedi’i roi i ymgynghori a’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y newidiadau, mae’n bosibl y byddai’r broblem hon wedi’i hosgoi.
Er mwyn mynd i’r afael â’r dryswch, gwnaethom ddosbarthu canllawiau atodol i Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol yn eu cynghori i ond tynnu a chynnwys gwybodaeth o’r datganiad o aelodaeth i blaid sy’n gysylltiedig â’r cyfnod perthnasol.
Gwnaethom hefyd gynghori Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol i atgoffa ymgeiswyr ac asiantiaid, yn ystod y cam gwirio anffurfiol, o’r amgylchiadau penodol lle byddai angen iddynt gynnwys manylion ar eu datganiad o aelodaeth i blaid.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau’r potensial am gamddealltwriaethau yn y dyfodol a byddwn yn ystyried ychwanegiadau pellach i’n canllawiau er mwyn rhoi eglurder ychwanegol.
- 1. Darperir y data gan Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Mae’r data ar geisiadau gan wladolion tramor sydd newydd ddod yn gymwys yn cynnwys ceisiadau gan y rheiny sydd â chenedligrwydd deuol neu sydd o nifer o genhedloedd, hyd yn oed lle byddai un neu fwy o’r cenhedloedd hyn yn hanesyddol wedi rhoi’r hawl i bleidleisio yn etholiadau’r DU i’r ymgeisydd cyn ymestyn yr etholfraint yng Nghymru. Nid yw’n bosibl gweld o’r data pa gyfran o ymgeiswyr sydd â chenedligrwydd deuol, neu sydd o nifer o genhedloedd, sy’n wirioneddol yn wladolion tramor sydd ‘newydd ddod yn gymwys’ gan na roddir cenhedloedd penodol yr ymgeiswyr hyn. Mae’r data hefyd yn cynnwys ymgeiswyr o Zimbabwe, y Maldives a Ffiji, sy’n gymwys i bleidleisio fel dinasyddion y Gymanwlad ac sydd felly ddim yn dechnegol yn wladolion tramor sydd ‘newydd ddod yn gymwys’. Yn yr un modd, mae’r data’n cynnwys ymgeiswyr o Hong Kong, beth bynnag yw eu cymhwysedd o ran etholfraint. Yn olaf, mae’r data’n cynnwys ceisiadau ar-lein yn unig ac ymgeiswyr y mae eu cenedligrwydd heb ei gofnodi. ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Cyfanswm cofrestriadau rhwng 1 Mai 2021 ac 14 Ebrill 2022. ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Cychwynnwyd y rhain gan Lywodraeth Cymru o dan ei fframwaith ar gyfer moderneiddio etholiadol (https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-fframwaith-ar-gyfer-diwygio-etholiadol). ↩ Back to content at footnote 4