Refferendwm yr UE
Ein rôl
Rydym yn canolbwyntio ar bleidleiswyr ac ar roi eu buddion nhw yn gyntaf.
Ein hamcanion ar gyfer refferenda:
- eu bod yn cael eu cynnal yn dda ac yn rhoi canlyniadau a dderbynnir
- bod hygrededd a thryloywder cyllido a gwariant ymgyrchu
Canlyniad Refferendwm yr UE
Cyfansymiau terfynol Refferendwm yr UE:
- Aros – 16,141,241
- Gadael – 17,410,742
Dynodi Prif ymgyrchwyr
Prif ymgyrchydd dynodedig yw'r prif grŵp ymgyrchu ar gyfer un ochr y ddadl. Byddant yn ymddwyn fel prif grŵp ymgyrchu ar ran rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwnnw.
Ar 13 Ebrill 2016 fe wnaethom ddynodi The In Campaign Ltd fel y prif ymgyrchydd ar gyfer y canlyniad aros a Vote Leave Ltd fel y prif ymgyrchydd ar gyfer y canlyniad gadael yn refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.