Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ostwng yr oedran pleidleisio fel y gall pobl ifanc 16 oed bleidleisio ym mhob etholiad yn y DU, gan roi’r hawl i tua 1.5 miliwn o bobl ifanc ychwanegol gymryd rhan.
Mae pobl ifanc sydd newydd ennill yr hawl hon yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn etholiadau os ydyn nhw'n deall sut mae'r broses bleidleisio'n gweithio a'r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud, gan wneud mynediad at addysg ddemocrataidd o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer meithrin eu gwybodaeth a'u hyder.
Canfu ein hymchwil barn ieuenctid yn 2026 fod 78% o bobl ifanc yn credu y dylent ddysgu rhagor am wleidyddiaeth yn yr ysgol a'r coleg, ond dim ond 30% o bobl dan 18 oed oedd wedi clywed amdano yno o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Andrew, Hyrwyddwr Llais Ieuenctid
"Gallwn gefnogi pobl i ddod yn wybodus drwy addysgu pobl am bwy yw’r pleidiau gwleidyddol, beth maen nhw’n ei gynnig, a sut i bleidleisio.”
Fframwaith cenedlaethol i arwain addysgwyr a phobl ifanc
Rydym wedi comisiynu sefydliadau arbenigol i gyflawni prosiect newydd, Gwella Addysg Ddemocrataidd, i ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau i ysgolion, lleoliadau ieuenctid a rhieni. Bydd y gwaith yn sicrhau bod addysg democrataidd yn gyson a bod yr holl bobl ifanc yn cael cyfle i ddysgu am ddemocratiaeth, pleidleisio ac etholiadau.
Bydd y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant yn cyd-gynhyrchu adnoddau addysg democrataidd hygyrch ar gyfer addysgwyr a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd.
Bydd Fforwm Ieuenctid Gogledd Iwerddon yn cynnull sefydliadau yng Ngogledd Iwerddon, yn creu adnoddau addysg ddemocrataidd, ac yn ehangu hyfforddiant i addysgwyr a gweithwyr ieuenctid.
Bydd The Politics Project yn cynnull y gwaith hwn. Gan adeiladu ar blatfform Ystafell Ddosbarth Democratiaeth, byddant yn dod â phartneriaid prosiect ac academyddion ynghyd i greu a rhannu adnoddau addysg a hyfforddiant democrataidd o ansawdd uchel.
Bydd Shout Out UK yn mapio darpariaeth llythrennedd cyfryngau, gan ddefnyddio'r mewnwelediadau i gyd-ddylunio adnoddau, ymgyrchoedd a gweithdai newydd i feithrin gwydnwch pobl ifanc yn erbyn camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Bydd Skating Panda yn defnyddio eu harbenigedd cyfathrebu i ledaenu'r gwaith hwn, gan ddechrau gyda chystadleuaeth i annog ysgolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysg ddemocrataidd.
Bydd Young Citizens yn ymchwilio i anghenion addysg ddemocrataidd gynradd ac yn creu deunyddiau ac argymhellion ymarferol, gan gynnwys eu Gwers Ddemocratiaeth Fawr.
Cysylltwch â ni
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu adnoddau addysg i'w defnyddio mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol i gefnogi pobl ifanc i ddysgu rhagor am ddemocratiaeth y DU a'u pleidlais eu hunain.
Os hoffech drafod ein gwaith yn fanylach, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at [email protected]