Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, efallai y byddwch am bleidleisio drwy’r post.
Gallai hyn fod oherwydd eich bod ar wyliau neu oherwydd bod eich amserlen gwaith, ysgol neu goleg yn ei gwneud yn anodd cyrraedd yr orsaf bleidleisio pan fydd ar agor.
Gallwch ddewis pleidleisio drwy'r post oherwydd y byddai'n haws i chi.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post:
- unwaith yn unig, ar gyfer etholiad unigol
- am gyfnod penodol
- nes i chi ddewis ei newid
Mae angen i chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post gyda'ch tîm etholiadau lleol ddim hwyrach nag 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio – ond gorau po gyntaf.
Lawrlwythwch ffurflen gais am bleidlais bost nawr neu gallwch ofyn i'ch tîm etholiadau lleol anfon un atoch.
Bydd angen i chi roi eich llofnod a'ch dyddiad geni ar eich ffurflen gais, ac eto pan fyddwch yn pleidleisio.
Mae hyn er mwyn cadarnhau pwy ydych chi.
Bydd pecyn pleidlais bost yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad. Bydd hyn yn cynnwys:
- eich papur pleidleisio neu bapurau pleidleisio
- dwy amlen
- ffurflen datganiad
Dilynwch y cyfarwyddiadau. Marciwch eich papur pleidleisio, llofnodwch, a rhowch eich dyddiad geni ar y ffurflen datganiad.
Rhowch bopeth yn yr amlen wedi'i chyfeirio ymlaen llaw a'i hanfon at eich tîm etholiadau lleol i gael ei gyfrif.
Nid oes angen i chi roi stamp ar yr amlen.
Gellir dychwelyd eich pleidlais bost i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Gallwch chi ei dychwelyd eich hun, neu ofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i'w dychwelyd i chi. Mae angen i'ch pleidlais fod gyda'ch tîm etholiadau lleol erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio i gael ei chyfrif.