Os na allwch gyrraedd yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan.
Gelwir hyn yn bleidlais trwy ddirprwy.
Gelwir eich person dibynadwy yn ddirprwy. Gallech ofyn i riant neu ofalwr, brawd neu chwaer, neu ffrind agos i fod yn ddirprwy i chi.
Bydd angen y canlynol ar eich dirprwy ar y diwrnod pleidleisio:
- gwybod i bwy yr hoffech chi bleidleisio
- gwybod ble mae eich gorsaf bleidleisio. Gall y lleoliad hwn fod yn wahanol i'w un nhw
Bydd angen y canlynol ar eich dirprwy mewn rhai etholiadau:
- eu ID ffotograffig eu hunain
Pan fydd eich dirprwy yn mynd i'ch gorsaf bleidleisio i bleidleisio, mae angen iddynt roi eu henw eu hunain a'ch enw chi ac yna byddant yn dilyn y broses arferol ar gyfer pleidleisio yn bersonol.
Wrth weithredu fel eich dirprwy yn etholiadau Senedd y DU bydd angen iddynt ddangos eu ID ffotograffig eu hunain.
Os ydych yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy, bydd angen i chi wneud cais am hwn ddim hwyrach na 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio – ond gorau po gyntaf.
Lawrlwythwch ffurflen gais am bleidlais drwy ddirprwy nawr neu gofynnwch i'ch tîm etholiadau lleol anfon un atoch.
Yn wahanol i bleidlais bost, mae angen i chi roi rheswm i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer etholiad unigol.
Fel arfer, dim ond am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad unigol y gallwch chi wneud cais.
Fodd bynnag, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ym mhob etholiad sydd ar ddod am y rhesymau canlynol:
- ni allwch fynd i'r orsaf bleidleisio oherwydd anabledd
- rydych yn bleidleisiwr tramor
- rydych oddi cartref oherwydd eich bod yn astudio
- mae'n rhaid i chi deithio ar y môr neu mewn awyren o'ch cyfeiriad cofrestredig i'ch gorsaf bleidleisio
- rydych mewn galwedigaeth benodol, er enghraifft, y lluoedd arfog
Mae'n rhaid i rywun fel meddyg lofnodi'ch ffurflen os ydych yn gwneud cais am resymau meddygol, neu'ch cyflogwr ar sail cyflogaeth.
Os byddwch yn newid eich meddwl ac yn dymuno pleidleisio'n bersonol, gallwch wneud hynny o hyd, cyn belled nad yw'ch dirprwy eisoes wedi pleidleisio ar eich rhan.
Os na all eich dirprwy gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post. Mae hyn yn cael ei alw yn bleidlais bost drwy ddirprwy.