Eich man pleidleisio
Ar ddiwrnod yr etholiad, a elwir yn ddiwrnod pleidleisio, mae angen i chi fynd i'ch gorsaf bleidleisio. Mae hwn fel arfer yn adeilad cyhoeddus fel ysgol neu neuadd bentref, ond mae gorsafoedd pleidleisio wedi ymddangos mewn pob math o leoedd, fel tafarndai a gorsafoedd badau achub.
Byddwch wedi derbyn cerdyn pleidleisio yn y post sy'n dweud wrthych ble i fynd i bleidleisio. Mae'n rhaid i chi fynd i'ch gorsaf bleidleisio benodedig. Ni allwch ddewis pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ger eich coleg neu weithle, er enghraifft.
Os nad ydych yn siŵr ble i fynd i bleidleisio, gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio ar-lein neu cysylltwch â’ch tîm etholiadau lleol a byddant yn helpu.
Mae gorsafoedd pleidleisio bob amser ar agor o 7am tan 10pm. Cyn belled â’ch bod yn y ciw i bleidleisio erbyn 10pm, byddwch yn cael pleidleisio.
ID ffotograffig
Yn etholiadau Senedd y DU, bydd angen i chi fynd ag ID ffotograffig gyda chi i bleidleisio.
Gall hyn gynnwys eich pasbort neu'ch trwydded yrru, neu ffurf arall o ID ffotograffig a dderbynnir.
Gall eich ID fod wedi dyddio, cyhyd â bod y llun yn dal i edrych fel chi.
Os nad oes gennych ID ffotograffig yn barod, gallwch gael ID am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Gallwch wneud cais ar-lein am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Neu gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy'r post drwy gysylltu â'ch tîm etholiadau lleol. Cofiwch gofrestru i bleidleisio yn gyntaf.
Dysgwch ragor am ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim.
Nid oes angen ID ffotograffig arnoch i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu etholiadau cynghorau lleol.
Y tu mewn i'r orsaf bleidleisio
Bydd ambell aelod o staff. Fel arfer mae un person yn gyfrifol am y cyfan, sef y Swyddog Llywyddu, ac ychydig o bobl eraill sef Clercod
Pleidleisio.
- Dywedwch eich enw a’ch cyfeiriad wrth y staff fel y gallant wirio eich bod ar y gofrestr etholiadol. Mewn rhai etholiadau, byddant yn gofyn am gael gweld eich ID ffotograffig. Bydd y staff yn croesi eich enw oddi ar eu rhestr fel eu bod yn gwybod pwy sydd wedi pleidleisio, ac yn rhoi eich papur pleidleisio i chi. Mae papur pleidleisio yn cynnwys rhestr o'ch opsiynau pleidleisio ac rydych yn nodi'ch penderfyniad arni.
- Ewch â'ch papur pleidleisio i fwth pleidleisio. Mae'r rhain yn fannau preifat sydd wedi'u cynllunio fel na all neb arall weld i bwy rydych chi'n pleidleisio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o le i bobl, fel y gall pawb fwrw eu pleidlais yn gyfrinachol.
- nodwch ar y papur pleidleisio i bwy rydych am bleidleisio. Efallai y gofynnir i chi wneud hyn drwy farcio ‘X’ wrth ymyl eich dewis, neu drwy ddefnyddio rhifau i restru eich dewisiadau. Cymerwch eich amser i ddarllen popeth yn gywir. Bydd cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio ac ar bosteri yn yr orsaf bleidleisio.
- Efallai y gofynnir i chi bleidleisio dros fwy nag un person. Cymerwch eich amser i ddarllen popeth yn gywir. Bydd cyfarwyddiadau ar y papur pleidleisio ac ar bosteri yn yr orsaf bleidleisio.
- Plygwch eich papur pleidleisio a'i roi yn y blwch pleidleisio. Mae hwn yn flwch mawr sydd wedi'i labelu'n glir yn yr orsaf bleidleisio.
- Gadewch yr orsaf bleidleisio – dyna ni, rydych chi wedi bwrw eich pleidlais.
Ar ddiwedd y dydd, bydd y blwch pleidleisio yn cael ei gymryd i ffwrdd er mwyn i'r pleidleisiau gael eu cyfrif.
Bydd eich pleidlais yn cael ei chadw'n ddiogel a bydd bob amser yn aros yn gyfrinachol.