Cefnogi pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio'n ddienw gyda'r gofyniad ID pleidleisiwr
Yn y DU, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae’r gofyniad hwn hefyd yn berthnasol i etholiadau cyffredinol Senedd y DU, is-etholiadau a deisebau adalw, pob etholiad lleol yn Lloegr, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’n gymwys yn etholiadau Senedd Cymru, nac yn etholiadau Senedd yr Alban, nac mewn etholiadau cynghorau yng Nghymru a'r Alban.
Os bydd rhywun yn teimlo y gallai bod ei enw a’i gyfeiriad ar y gofrestr etholiadol effeithio ar ei ddiogelwch, neu ddiogelwch rhywun yn ei gartref, efallai y bydd yn gallu cofrestru i bleidleisio’n ddienw.
Yn wahanol i bleidleiswyr eraill sy'n gallu defnyddio un o ystod o wahanol fathau o ID ffotograffig, mae'n ofynnol i bleidleiswyr sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio'n ddienw ac sy'n dymuno pleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw am ddim yn lle hynny.
Lawrlwythwch ein hadnoddau
Rydym wedi datblygu adnoddau pwrpasol ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw, neu a allai elwa o wneud hynny, megis y sawl sy'n goroesi cam-drin domestig. Mae'r adnoddau'n esbonio'r gofyniad ID pleidleisiwr ac yn amlinellu sut i fodloni'r gofyniad wrth bleidleisio'n ddienw. Mae'r adnoddau hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth am bwy all gofrestru i bleidleisio'n ddienw a sut i wneud hynny.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ar gyfer pleidleiswyr nad oes angen iddynt bleidleisio’n ddienw. Gallwch ddod o hyd i'n hadnoddau ID pleidleisiwr generig yma.
Lawrlwythwch ein hadnoddau
Lawrlwythwch ein Canllawiau ar gyfer Etholiadau i Bleidleiswyr Dienw
Mae'r Canllawiau ar gyfer Etholiadau yn darparu'r wybodaeth allweddol y bydd angen i bobl sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio'n ddienw, neu a fyddai'n elwa o fod wedi gwneud hynny, ddeall a bodloni'r gofyniad ID pleidleisiwr.
Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:
• Beth yw cofrestru’n ddienw?
• Sut i gofrestru i bleidleisio'n ddienw
• Beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
• Ffyrdd eraill o bleidleisio: pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy
Canllawiau ar gyfer Etholiadau - mae fersiynau ar gael
Mae gwybodaeth hefyd ar gael yn y fformatau hygyrch canlynol:
• Braille
• Sain
• Testun plaen