Adnoddau pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy

Introduction

Adnoddau pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i'ch helpu i godi ymwybyddiaeth o'r rheolau ynghylch pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy ymysg eich cynulleidfa.  

Mae’r adnoddau yn cynnwys yr isod:

  • Yr angen i bleidleiswyr ail-ymgeisio am bleidlais bost bob tair blynedd os ydynt am barhau i bleidleisio drwy'r post
  • Y gofyniad i wirio hunaniaeth wrth wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy
  • Y terfynau ar faint o bobl y gall un person weithredu fel dirprwy ar eu rhan
  • Gwneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post ac ar gyfer rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy
  • Y cyfyngiadau ar gyflwyno pleidleisiau post mewn gorsaf bleidleisio, i bleidleiswyr ac ymgyrchwyr fel ei gilydd 

Adnoddau ail-wneud cais am bleidlais bost

Mae’r adnoddau hyn wedi’u dylunio i gyflawni’r isod:

  1. Atgoffa pleidleiswyr bod rhaid adnewyddu ceisiadau am bleidlais bost bob tair blynedd
  2. Tynnu sylw at y dyddiad cau sydd ar y gweill - rhaid i unrhyw un a wnaeth gais ar neu cyn 30 Ionawr 2024 ail-ymgeisio erbyn 31 Ionawr 2026, neu bydd eu pleidlais bost yn dod i ben.

Mae'r adnoddau'n cynnwys posteri, taflen A5, graffeg cyfryngau cymdeithasol, postiadau templed a baner gwe. 

Adnoddau eraill ar gyfer pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy

Datblygwyd yr adnoddau hyn yn dilyn Deddf Etholiadau 2022 a'r newidiadau a gyflwynwyd i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy. Fe'u cynlluniwyd i helpu awdurdodau lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a phartneriaid eraill i gyfleu'r newidiadau hyn yn glir i bleidleiswyr.

Mae'r adnoddau'n cynnwys: posteri, taflen, Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y wasg, graffeg cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed, baneri y we, a chopi templed ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau. 

Adnoddau digitol

Adnodau argraffu

Gwe a chopi cylchlythyr

Press FAQ's