Argraffnodau ar ddeunydd a gyhoeddir gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Dyma grynodeb o reolau ynglŷn ag argraffnodau ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am argraffnodau yn ein canllawiau.
Os ydych yn ymgyrchydd nad yw'n blaid, gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymgyrchu yn ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Darllenwch ein canllawiau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Beth yw argraffnod?
Mae argraffnodau yn nodi pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi deunydd ymgyrchu ac ar ran pwy y maent yn ei hyrwyddo. Mae argraffnodau yn helpu pleidleiswyr i ddeall pwy sy'n ceisio dylanwadu arnynt drwy'r deunydd ymgyrchu .
Rhaid i rai deunyddiau gynnwys argraffnod yn ôl y gyfraith. Mae gwahanol reolau ar argraffnodau gan ddibynnu ar y math o ddeunydd.
Argraffnodau ar ddeunydd digidol
Mae'n rhaid i rai deunyddiau ymgyrchu digidol (rhai organig a rhai y telir amdanynt) gynnwys argraffnod. Mae hyn yn cynnwys ar bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion ar-lein a hysbysfyrddau electronig.
Mae'r rheolau ynglŷn ag argraffnodau ar ddeunydd digidol yn berthnasol ledled y DU, ond ceir gofynion ychwanegol hefyd ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd sy'n gysylltiedig ag etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban.
Mae angen i unrhyw ddeunydd etholiad organig neu ddeunydd deiseb adalw a gyhoeddir gan ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid gynnwys argraffnod. Mae angen iddo hefyd gynnwys argraffnod os yw rhywun yn cyhoeddi deunydd ar eich rhan.
Mae angen cynnwys argraffnod ar hysbysebion digidol y telir amdanynt os yw'r cynnwys yn ddeunydd gwleidyddol.
Ymgysylltu democrataidd ac argraffnodau
Nid yw cynnwys sydd ond yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio, cymryd rhan mewn etholiadau neu'n eu hatgoffa i ddod ag ID gyda nhw pan fyddant yn pleidleisio yn bersonol yn ddeunydd etholiad nac yn ddeunydd gwleidyddol.
Os yw cynnwys digidol yn hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd, yn hytrach na cheisio cael pobl i gefnogi plaid wleidyddol, ymgeisydd neu ddeiliad swydd etholedig, nid oes angen argraffnod arno fel arfer.
Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig
Mae angen i bob math o ddeunydd etholiad argraffedig gynnwys argraffnod, gan gynnwys hysbysebion mewn papurau newydd ac ar hysbysfyrddau.
Mae deunydd etholiad yn cyfeirio at unrhyw ddeunydd y gellir ystyried yn rhesymol y bwriedir iddo hyrwyddo canlyniad mewn etholiad. Er enghraifft, hyrwyddo ymgeisydd neu blaid wleidyddol.
Os yw'r deunydd argraffedig ond yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio neu gymryd rhan mewn etholiad, ni fyddai angen argraffnod arno gan na fyddai'n cael ei ystyried fel deunydd sy'n bwriadu hyrwyddo canlyniad mewn etholiad.