Cofrestr diddordebau a ddatganwyd Comisiynwyr Etholiadol 2025-26

Mae’n rhaid i’n Comisiynwyr weithredu'n rhydd rhag unrhyw ddylanwad amhriodol gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig er mwyn cynnal hyder y cyhoedd. Disgwylir i Gomisiynwyr ddefnyddio eu profiad a'u harbenigedd ond rhaid iddynt ddatgelu diddordebau perthnasol fel y gellir nodi, cofnodi a rheoli unrhyw achos o wrthdaro yn dryloyw.

Mae'n ofynnol iddynt ddatgan pob diddordeb a allai achosi gwrthdaro yn eu rôl ar adeg eu penodi a diweddaru datganiadau pan fydd amgylchiadau'n newid. Mae’r diddordebau perthnasol a ddatganwyd gan Gomisiynwyr yn y flwyddyn ariannol 2025-26 wedi’u hamlinellu ar y dudalen hon. Caiff y dudalen hon ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn pan fydd newidiadau sylweddol i ddatganiadau Comisiynwyr.

Rydym hefyd yn cynnal cofrestr o roddion a lletygarwch perthnasol a gynigwyd i’n Comisiynwyr neu a dderbyniwyd ganddynt.