Adroddiad Blynyddol (Datganoledig) Cymru 2021/22
Trosolwg/Amdanom ni
Trosolwg/Amdanom ni
Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith ar faterion datganoledig yng Nghymru, ein diben, ein perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r risgiau allweddol a allai beryglu ein gallu i gyflawni ein nodau.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ariannol gryno yn yr adroddiad ar berfformiad. Mae'r wybodaeth hon yn gyson â'r datganiadau ariannol, lle mae rhagor o fanylion ar gael.
Cafodd y Comisiwn Etholiadol ei sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Rydym yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol ac yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Yn sgil diwygiadau a wnaed i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Ddeddf Cymru 2017, trosglwyddwyd cyfrifoldeb am etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru o Senedd y DU i Senedd Cymru. Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn nodi'r trefniadau ariannu ac atebolrwydd ar gyfer gweithgareddau datganoledig y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.
Cyflawniadau allweddol
- Ym mis Mai 2021, gwnaethom gefnogi'r gwaith o gynnal etholiadau'r Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn llwyddiannus, gan weithio gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru i roi cyngor ac arweiniad i'r rhai a oedd yn cynnal yr etholiadau ac yn sefyll ynddynt.
- Cynhaliwyd ymgyrch cofrestru pleidleiswyr drwy gyfryngau torfol, a darparu gwybodaeth arall i bleidleiswyr - gan gynnwys deunyddiau llythrennedd gwleidyddol drwy ysgolion - er mwyn cefnogi hyder pleidleiswyr a'u helpu i gymryd rhan.
- Darparwyd cyngor arbenigol a chynllun gwerthuso ar gynlluniau peilot Llywodraeth Cymru yn etholiadau mis Mai 2022.
- Gwnaethom ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru am ein barn am Fil Etholiadau a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth y DU, a chyfrannu at waith y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
- Gwnaethom ymddangos gerbron Pwyllgor y Llywydd i roi tystiolaeth fel rhan o'i waith i graffu ar amcangyfrif ariannol 2022/23 a'r cynllun corfforaethol pum mlynedd cysylltiedig.
Dadansoddi perfformiad
| Mesur | Perfformiad |
|---|---|
| Gweithio gyda Senedd Cymru a Senedd yr Alban i roi ein trefniadau atebolrwydd newydd ar waith, gan gynnwys fformiwla cyllido newydd a chynlluniau busnes ar gyfer Cymru a'r Alban | Cwblhawyd |
| Rydym yn rhoi sylwadau ar 100% o'r cynigion polisi a deddfwriaethol perthnasol | 100% Cyflawnwyd |
Mae mesurau perfformiad penodol pellach ar gyfer Cymru yn cael eu datblygu a chânt eu rhoi ar waith yn 2022-23.
Edrych i'r dyfodol
Er bod etholiadau yn cael eu cynnal yn dda yng Nghymru a'n gwaith arolygu yn dangos bod y cyhoedd yn fodlon ar y prosesau sydd ar waith i bleidleiswyr gofrestru a bwrw eu pleidlais, mae heriau o hyd.
Er mwyn helpu mwy o bleidleiswyr sydd newydd gael yr etholfraint ledled Cymru i fod yn rhan o ddemocratiaeth yng Nghymru, byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ac effaith ein rhaglen addysg cyn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2022 ac etholiad y Senedd yn 2026. Rydym am adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd eisoes drwy ymgysylltu ymhellach â sefydliadau partner ledled Cymru i addysgu pobl ifanc am y broses ddemocrataidd a pharatoi addysgwyr i addysgu llythrennedd gwleidyddol yn hyderus.
Byddwn yn cefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, ac ar yr un pryd, yn sicrhau bod systemau cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Byddwn yn cefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadau i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir ganddynt wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol a gaiff eu cynnal yn dda ac addasu i'r dull cynyddol amrywiol o gynnal etholiadau, sy'n deillio o ddatganoli ac anghenion newidiol pleidleiswyr.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Senedd a Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol newydd er mwyn rhoi cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd a diwygiadau etholiadol ar waith. Drwy ein gwaith gyda Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru, byddwn yn ceisio sicrhau bod barn Swyddogion Canlyniadau a Gweinyddwyr Etholiadau yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth newydd hon.
Mae'r gofyniad i sicrhau gwerth am arian a rhedeg y sefydliad yn effeithiol yn sail i'n cynllun pum mlynedd. Mae'r cynllun yn rhoi pwyslais o'r newydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a'i nod yw annog ymgysylltiad y staff, meithrin sgiliau a defnyddio technoleg i gefnogi dulliau effeithiol o weithio, a dysgu a gwella parhaus.
Edrychwn ymlaen at weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru, y Senedd, llywodraethau a seneddau eraill y DU, pleidiau ac ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadau a grwpiau eraill â diddordeb er mwyn cynnal hyder pleidleiswyr yn ein system etholiadol.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Fel y nodwyd uchod, rydym wedi cymryd camau breision i adnewyddu ein dull o ymdrin â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan gynnwys cynhyrchu Strategaeth newydd ac ymgynghori arni. Fel rhan allweddol o'r gwaith hwn, rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor o drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a darparu adnoddau a gwasanaethau. Yn ystod 2021/22, gwnaethpwyd gwaith pwysig mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae hyn wedi arwain at welliannau pellach i'r gwasanaeth a ddarperir gennym i bartneriaid yng Nghymru yn eu dewis iaith ac i sicrhau ein bod nid yn unig yn cyrraedd Safonau'r Gymraeg, a bennwyd ym mis Gorffennaf 2016, ond ein bod hefyd yn darparu gwasanaethau arloesol ac uchelgeisiol.
Defnyddio adnoddau
Yn ystod 2021/22, gwnaethom ddefnyddio £1.65m o adnoddau o'r £1.75m a oedd ar gael. Roedd hyn ar gyfer staffio, £1.15m (69.69%), ac ymgyrchoedd, £0.50m (27%), yn bennaf; mae'r symiau sy'n weddill yn cynrychioli cyfraniad y Senedd at weithgareddau cyffredin a gorbenion corfforaethol.
Mae'r tanwariant o ganlyniad i arbedion wrth ddylunio ac argraffu deunyddiau canllaw, ymgyrchoedd tryloywder digidol a dibrisiant.
Llywodraethu
Atebolrwydd i'r Senedd
Er bod y Comisiwn Etholiadol wedi cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Senedd Cymru a Senedd yr Alban mewn perthynas â'n rôl mewn etholiadau datganoledig, dim ond i Senedd y DU ac, yn benodol i Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, yr ydym wedi bod yn atebol yn ffurfiol iddynt (drwy ddeddfwriaeth).
O 1 Ebrill 2021, daeth y Comisiwn yn atebol yn ffurfiol i Senedd Cymru, a chael cyllid ganddi, ar gyfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Mae'r Comisiwn yn adrodd i Bwyllgor y Llywydd, a sefydlwyd at y diben hwn, ac mae'n gweithio yn unol â'r Datganiad o Egwyddorion Cyllido.
Yn yr hydref, gwnaethom gyflwyno ein cyfres gyntaf o amcangyfrifon i Senedd Cymru a Senedd yr Alban, gan alluogi Trysorlys y DU i drosglwyddo lefel y cyllid y cytunwyd arno i Gronfa Gyfunol Cymru a Senedd yr Alban. Bydd y prosesau hyn yn sicrhau y gall pob senedd fod yn hyderus wrth graffu ar ein cynlluniau gwaith a'n cyfrifon yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Cyllid a llywodraethu ariannol
Mae gwariant y Comisiwn ar faterion datganoledig yn daladwy drwy Gronfa Gyfunol Cymru, yn dilyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Fodd bynnag, mae Adran 129 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhestru'r cyrff y gellir gwneud taliadau iddynt o Gronfa Gyfunol Cymru. Nid yw'n cynnwys y Comisiwn Etholiadol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ymgymryd â'r swyddogaeth weinyddol ar gyfer tynnu cyllid i lawr a'i dalu i'r Comisiwn ar ran y Senedd.
Fel rhan o'r gwaith o baratoi'r Datganiad Llywodraethu a'r Cyfrifon ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Gronfa, bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifennu'n ffurfiol at Swyddog Cyfrifyddu'r Comisiwn Etholiadol i geisio sicrwydd cyffredinol o ran y systemau rheolaeth fewnol. Diben hyn yw sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra cyllid a ddarperir o gyllideb Llywodraeth Cymru ac sy'n daladwy o'r Gronfa.