Adroddiad Blynyddol (Datganoledig) yr Alban
Trosolwg/Amdanom ni
Trosolwg/Amdanom ni
Daeth y Comisiwn Etholiadol yn atebol yn ffurfiol i Senedd yr Alban ar gyfer ein gweithgareddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu etholiadau datganoledig yn yr Alban. Yn yr adran hon, rydym yn nodi ein gweithgareddau a'n cyflawniadau allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn edrych i'r dyfodol i rai o'r heriau yn 2021/22.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Comisiwn yn yr Alban wedi bod yn canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddarparu etholiad Senedd yr Alban ym mis Mai 2021 a'r etholiadau cyngor ym mis Mai 2022.
Dadansoddi perfformiad
Gwnaethom barhau i weithio'n agos gyda Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban er mwyn cynghori, cefnogi a herio Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau wrth iddynt ddarparu etholiadau ledled yr Alban. Ym mis Ionawr 2022, gwnaethom ddarparu sesiwn friffio i 184 o weinyddwyr etholiadau yn yr Alban a oedd yn canolbwyntio ar eu helpu i gynnal etholiad effeithiol yn eu hardal. Dilynwyd hyn gan seminar â Heddlu'r Alban er mwyn cefnogi'r swyddogion hynny sy'n gweithredu fel pwyntiau cyswllt unigol (neu SPOC) ar gyfer swyddogion etholiadol yn etholiadau'r Alban.
Gwnaeth ein safonau perfformiad ein helpu i ddeall sut mae Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn perfformio mewn perthynas â chynnal digwyddiadau pleidleisio a gwasanaethau cofrestru etholiadol yn dda, a'n galluogi i dargedu ein cymorth yn effeithiol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyfarfod â phob un o'r 32 o Swyddogion Canlyniadau a'r 15 Swyddog Cofrestru Etholiadol yn yr Alban.
Etholiad Senedd yr Alban yn 2021 oedd yr etholiad cyntaf yn y DU lle roedd angen gosod argraffnodau ar ddeunyddiau ymgyrchu digidol a buom yn gweithio'n agos gydag ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr cyn yr etholiad i'w helpu i gydymffurfio â'r rheolau newydd. Gwnaeth ein profiadau o gefnogi cydymffurfiaeth â'r rheolau hyn helpu i lywio ein cyngor i lywodraethau ynghylch cyflwyno rheolau argraffnodau mewn etholiadau eraill. Ym mis Chwefror, pasiodd Senedd yr Alban ddeddfwriaeth i osod mewn statud ein swyddogaeth i gynghori ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiadau cyngor yn yr Alban. Er ein bod wedi ymgymryd â'r swyddogaeth hon yn anstatudol ers 2001, mae hwn yn gam pwysig ac yn cynnig sicrwydd i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Ym mis Medi 2021, cyhoeddwyd ein hadroddiad ar weinyddu etholiad Senedd yr Alban. Roedd hyn yn cynnwys cyflawni ein dyletswydd newydd i adrodd ar y camau a gymerwyd gan Swyddogion Canlyniadau i helpu etholwyr anabl i gymryd rhan. Gwnaethom ddefnyddio ymchwil gyda phleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadau a staff gorsafoedd pleidleisio i lywio ein hasesiad. Rydym wedi defnyddio ein canfyddiadau i ddatblygu deunyddiau newydd ar gyfer helpu pobl anabl i wybod beth y dylent allu ei ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio a hefyd i ddatblygu sesiwn sy'n canolbwyntio ar hygyrchedd yn ein sesiwn friffio i Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn etholiadau cyngor, a oedd yn cynnwys mewnbwn gan bobl anabl.
Rydym wedi parhau i roi cyngor arbenigol i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Safonau, Gweithdrefnau a Phenodiadau Cyhoeddus Senedd yr Alban ar ein hasesiad o ba mor dda y cafodd etholiad Senedd yr Alban yn 2021 ei gynnal, a hefyd ar y goblygiadau i'r Alban yn deillio o Fil Etholiadau Llywodraeth y DU. Gwnaethom hefyd gynghori Llywodraeth yr Alban ar Fil Etholiadau'r DU ac ymgynghorwyd â ni ar saith darn o is-ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau cyngor 2022 a bil pellach i estyn hawliau ymgeisiaeth i wladolion tramor.
Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i ehangu ein gwaith partneriaeth a dysgu, yn enwedig mewn perthynas â chefnogi pleidleiswyr sydd newydd gael yr etholfraint i gymryd rhan yn yr etholiadau cyngor. Rydym wedi cyhoeddi ystod newydd o adnoddau addysg ddemocrataidd i wella ein cefnogaeth ar gyfer addysgu llythrennedd gwleidyddol yn ystafelloedd dosbarth yr Alban ac, ym mis Ionawr, gwnaethom gynnal wythnos o weithgareddau ‘Croeso i Dy Bleidlais’ ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed mewn partneriaeth â sefydliadau addysg a gwaith ieuenctid ledled yr Alban. Rydym hefyd wedi ehangu ein gwaith i gyrraedd pobl sydd wedi mudo i'r Alban, gyda gwybodaeth am gofrestru a phleidleisio yn etholiadau’r Alban, gan gynnwys cynhyrchu adnoddau newydd ar gyfer sefydliadau cymunedol. Buom hefyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai'r Alban i ddosbarthu canllaw a deunyddiau hyrwyddo i staff sy'n gweithio gyda charcharorion cymwys.
Edrych i'r dyfodol
Yr etholiad datganoledig nesaf sydd wedi'i drefnu yn yr Alban fydd etholiad Senedd yr Alban yn 2026. Yn y cyfamser, byddwn yn gweithio gyda'r gymuned etholiadol a chymdeithas ehangach yr Alban i sicrhau ein bod yn parhau i gryfhau capasiti ac arbenigedd wrth ddarparu etholiadau a all gynnal lefelau uchel o hyder y cyhoedd, hygyrchedd ac ymgysylltu.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi'i wneud hyd yn hyn i gefnogi pobl ifanc i ymgysylltu â democratiaeth yn yr Alban drwy ehangu'r amrywiaeth o adnoddau addysg a gaiff eu cynhyrchu gennym a thrwy ehangu ein rhaglen waith i gefnogi hyder athrawon mewn gweithgarwch llythrennedd gwleidyddol mewn ysgolion. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod ein deunyddiau addysg yn parhau i gael eu llywio gan leisiau pobl ifanc a thrwy gynnal gweithdai gydag athrawon. Byddwn hefyd yn datblygu ein gwaith gyda grwpiau cymunedol i ddarparu adnoddau wedi'u teilwra i gefnogi eu gwaith gyda grwpiau sy'n wynebu rhwystrau wrth ymgysylltu â democratiaeth.
Byddwn yn parhau i gefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, ac ar yr un pryd, yn sicrhau bod systemau cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Gan weithio mewn partneriaeth â'r Bwrdd Rheoli Etholiadol, byddwn yn cefnogi ac yn herio Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol i fynd i'r afael â'r heriau i redeg gwasanaethau etholiadol effeithiol a meithrin gwydnwch a chapasiti. Mae hyn yn cynnwys addasu i'r dull cynyddol amrywiol o gynnal etholiadau datganoledig ac etholiadau a gadwyd yn ôl ac anghenion newidiol pleidleiswyr.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi y bydd yn rhoi diwygiadau etholiadol pellach ar waith yn yr Alban yn ystod y flwyddyn i ddod a byddwn yn parhau i gynnig cyngor arbenigol i'r Llywodraeth a'r Senedd er mwyn sicrhau y gellir cyflawni unrhyw ddiwygiadau yn effeithiol.
Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol ac mae'n ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein rhaglen o waith partneriaeth yn yr Alban wedi parhau i ddatblygu adnoddau i gefnogi cynhwysiant democrataidd i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau penodol wrth bleidleisio. Mae hyn wedi cynnwys darparu deunyddiau etholiad mewn amrywiaeth o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, ac mewn nifer o fformatau, gan gynnwys fformat hawdd ei ddeall, print bras, sain a braille. Rydym hefyd wedi gweithio gyda sefydliadau partner yn yr Alban i ddatblygu deunyddiau priodol ar gyfer Sipsiwn/Teithwyr, pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal, goroeswyr cam-drin domestig a phobl ddigartref.
Defnyddio adnoddau
Yn ystod 2021/22, gwnaethom ddefnyddio £2.59m o adnoddau o'r £2.62m a oedd ar gael. Roedd hyn ar gyfer staffio, £1.48m (56%), ac ymgyrchoedd, £1.05m (40%), yn bennaf; mae'r symiau sy'n weddill yn cynrychioli cyfraniad Senedd yr Alban at weithgareddau cyffredin a gorbenion corfforaethol.
Mae'r tanwariant o ganlyniad i arbedion wrth ddylunio ac argraffu deunyddiau canllaw, arbedion yn nhîm craidd yr Alban a dibrisiant.
Llywodraethu
Er bod y Comisiwn Etholiadol wedi cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Senedd Cymru a Senedd yr Alban mewn perthynas â'n rôl mewn etholiadau datganoledig, dim ond i Senedd y DU ac, yn benodol i Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, yr ydym wedi bod yn atebol yn ffurfiol iddynt (drwy ddeddfwriaeth).
O 1 Ebrill 2021, daeth y Comisiwn yn atebol yn ffurfiol i Senedd yr Alban, a chael cyllid ganddi, ar gyfer ein swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yn yr Alban. Mae'r Comisiwn yn adrodd i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban at ddibenion atebolrwydd. Rydym yn parhau i adrodd i bwyllgorau eraill mewn perthynas â'n gwaith mewn meysydd polisi gwahanol.
Ym mis Medi 2021, gwnaethom gyflwyno ein hail amcangyfrif i Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban ar gyfer ariannu ein gwaith yn ystod 2022/23. Dilynodd y broses ar gyfer datblygu'r amcangyfrif y ‘Datganiad o Egwyddorion Cyllido’ y gwnaethom gytuno arno â Senedd yr Alban, Senedd y DU a Senedd Cymru ddechrau 2021. Gwnaethom hefyd ymgynghori â Chorff Corfforaethol Senedd yr Alban ar ein Cynllun Corfforaethol drafft ar gyfer 2022/23 i 2026/27.
Navigation
| Blaenorol | Nesaf |
|---|---|
| Adroddiad Blynyddol (Datganoledig) Cymru | Ffocws ar Ogledd Iwerddon |