Amcan Cofrestru a phleidleisio hygyrch
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Er mwyn cynnal etholiadau rhydd a theg, mae'n rhaid bod pawb sy'n gymwys i bleidleisio ac yn dymuno pleidleisio yn gallu gwneud hynny. Er mwyn cyflawni'r nod hwn, rydym yn ceisio gwneud y canlynol:
- cynyddu nifer y bobl sy'n cofrestru i bleidleisio, yn enwedig ymhlith grwpiau sy'n ei chael hi'n anodd cymryd rhan yn y broses ar hyn o bryd
- dileu rhwystrau, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd bwrw eu pleidlais ar hyn o bryd.
Rydym yn gweithio i gyflawni'r canlyniadau hyn drwy gydweithio â llunwyr polisïau a phartneriaid eraill er mwyn nodi'r rhwystrau i gymryd rhan, a chynnig atebion. Rydym yn cynnig cymorth uniongyrchol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymgysylltu â'r broses, drwy gynnig gwybodaeth ac adnoddau dysgu hygyrch sydd wedi'u teilwra, a gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd sydd wedi'i dargedu.
Elusen United Response
Roeddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i gyfrannu at y canllawiau ar ID Pleidleisiwr yn fawr, er mwyn sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud mewn ffordd mor hygyrch â phosibl i bobl anabl.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Dengys ein tystiolaeth ddiweddaraf bod bron rhwng 8 a 9 miliwn o bobl ym Mhrydain Fawr naill ai ar goll neu heb eu cofrestru'n gywir. Yn ogystal â hyrwyddo diwygio cofrestru, cyn yr etholiadau gwnaethom gynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr i annog y cyhoedd i sicrhau eu bod wedi’u cofrestru'n gywir cyn y dyddiad cau. Cafodd hyn ei gefnogi gan ein hymgyrch ‘Dy Bleidlais Di a Neb Arall’, sy’n codi ymwybyddiaeth am dwyll etholiadol a sut y gall pleidleiswyr ddiogelu eu pleidlais.
- Mae cynllunio mesurau a'u rhoi ar waith yn y Ddeddf Etholiadau wedi bod yn flaenoriaeth i'r Comisiwn. Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau sy'n effeithio ar bleidleiswyr yn uniongyrchol, y daeth rhai ohonynt i rym yn yr etholiadau lleol a gynhaliwyd mewn rhannau o Loegr yn 2023. Mae sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o'r newidiadau yn hanfodol i ennyn eu hyder yn ein system etholiadol a'u hannog i gymryd rhan ynddi.
- Gwnaethom baratoi ar gyfer y gofyniad ID pleidleisiwr. Ym mis Ionawr, lansiodd y Comisiwn ymgyrch eang i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gofyniad, a'u hatgoffa i ddod ag ID gyda nhw wrth bleidleisio. Drwy ein gwaith, gwnaethom helpu pleidleiswyr i ddeall pa fathau o ID y gellir eu defnyddio a chefnogi'r rheini heb fath derbyniol o ID i ddeall sut a phryd i wneud cais am ID am ddim.
- Gwnaethom weithio gyda chynghorau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil i gefnogi'r rhai sy'n llai tebygol o feddu ar fath derbyniol o ID, fel eu bod yn ymwybodol o'r ID am ddim ac y gwneud cais amdano mewn pryd.
- Cynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad trylwyr ar y mesurau hygyrchedd newydd cyn drafftio ei ganllawiau, gan weithio'n agos gydag elusennau a sefydliadau sy'n cynrychioli pleidleiswyr anabl. Gwnaethom hefyd rannu manylion â phleidleiswyr anabl am y rheolau hygyrchedd newydd, sy'n cynyddu'r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael iddynt yn yr orsaf bleidleisio.
- O fewn cwmpas ein rôl, gwnaethom barhau i weithio gydag awdurdodau lleol, yr heddlu a seneddwyr i ddiogelu'r system rhag twyll etholiadol. Roedd hyn yn cynnwys cynnal, ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, y gynhadledd flynyddol ar gyfer Pwyntiau Cyswllt Unigol sy'n arwain ar dwyll yn yr heddluoedd, ac ymgysylltu â'r Arglwydd Hayward ar gyfrinachedd y bleidlais ar gyfer y Bil Aelodau Preifat.
- Drwy'r ymgyrchoedd hyn a chyfathrebu â phleidleiswyr, mewn perthynas â'r Rhif Cofrestru Digidol, gwnaethom helpu i gynnal yr etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon yn llwyddiannus.
- Nod ein gwaith dysgu yw hyrwyddo mwy o gysondeb mewn addysg llythrennedd gwleidyddol, a chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth wleidyddol ymhlith pobl ifanc. Ymrwymodd mwy na 220 o ysgolion i gymryd rhan yn Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ym mis Ionawr.
Lee Rowley, Gweinidog y DU sy'n gyfrifol am etholiadau, Chwefror 2023
Prin yw'r tasgau sy'n bwysicach mewn bywyd cyhoeddus na chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd ym Mhrydain yn ein sefydliadau etholiadol a'n prosesau etholiadol.
Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, a bydd hynny'n parhau tan fis Mai.
Rwy'n ddiolchgar i swyddogion, y Comisiwn Etholiadol ac i gynghorau ledled y DU am y gwaith y maent yn ei wneud.
Dangosyddion perfformiad
Dangosydd | Targed | 2022-23 |
---|---|---|
Mae ychwanegiadau at gofrestrau etholiadol yn ystod ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn cyflawni ein targedau neu'n rhagori arnynt | 379,810 Ar gyfer 2022/2023 | 280,498* |
Ni lwyddwyd i gyflawni'r targed ar gyfer cofrestru pleidleiswyr y flwyddyn hon. Mae nifer o ffactorau a allai fod wedi cael effaith negyddol ar y DPA hwn, y mae rhai ohonynt yn ffactorau allanol a rhai yn ymwneud â'r ymgyrch ei hun, gan gynnwys y broses o bennu. Yn benodol, bu lleihad mewn gwariant ar yr ymgyrch cyn yr etholiadau hyn ac yn ystod y cyfnod codi ymwybyddiaeth cynnar. Ers yr etholiadau, rydym wedi adolygu'r holl ddata er mwyn sicrhau effeithlonrwydd parhaus ein hysbysebion, a'n prosesau pennu targedau, er mwyn ystyried y wybodaeth hon wrth gynllunio ymgyrchoedd yn y dyfodol.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Byddwn yn gwerthuso ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth Mai 2023 ar gyfer ID pleidleisiwr a chofrestru, er mwyn nodi gwersi a ddysgwyd a chyfleoedd i wella. Byddwn yn diwygio ein dull creadigol o gynnal ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr mewn pryd ar gyfer etholiadau Mai 2024.
- Gyda chymorth partneriaid cymdeithas sifil, byddwn yn gwerthuso'r wybodaeth wedi'i theilwra y gwnaethom ei llunio ar y cyd ar gyfer pob grŵp allweddol y mae'r gofynion ID pleidleisiwr newydd yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt. Bydd hyn yn cynnwys mireinio adnoddau i'w gwneud yn addas ar gyfer blynyddoedd i ddod a nodi unrhyw fylchau yn ein darpariaeth.
- Yn ystod yr hydref, byddwn yn cyhoeddi adroddiadau ar etholiadau ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan fyfyrio ar y ffordd y cafodd etholiadau Mai 2023 eu cynnal ac argymell newidiadau lle bo angen. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o'r broses o roi'r darpariaethau newydd o ran ID pleidleisiwr a hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio ar waith.
- Byddwn yn gweithio i baratoi pleidleiswyr, gweinyddwyr a'r gymuned etholiadol ehangach ar gyfer newidiadau pellach sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau, gan gynnwys diweddaru canllawiau i'r rheini sy'n gyfrifol am roi'r newidiadau ar waith. Bydd hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint drwy wneud newidiadau i reolau pleidleiswyr tramor.
- Byddwn yn treialu cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd fel rhan o'r wybodaeth rydym yn ei darparu am etholiadau ar-lein, gan gynnwys ein hadnodd ar-lein i ddod o hyd i orsaf bleidleisio. Bydd hyn yn lleihau'r pwysau ar gynghorau lleol ymhellach. Os bydd hyn yn llwyddiannus, byddwn yn ei gyflwyno ledled y DU. Byddwn yn parhau â'n gwaith ar 'lais ieuenctid' ac yn ei ymestyn, gan adeiladu ar ein gweithgarwch presennol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn sicrhau bod ein gwaith ar gofrestru a phleidleisio yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau pobl ifanc.
- Byddwn yn parhau i gynnal cynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau etholiadol annisgwyl, gan gynnwys etholiad cyffredinol Senedd y DU ac etholiad Cynlluniad Gogledd Iwerddon.
- Byddwn yn cadarnhau datblygiad astudiaethau dichonoldeb ar amrywiaeth o opsiynau pleidleisio hyblyg, gan esbonio sut y gellid rhoi ffyrdd newydd o bleidleisio ar waith.
- Rydym yn disgwyl ymddangos gerbron y Pwyllgor Ffyniant Bro er mwyn ymhelaethu ar ein tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei ymchwiliad i'r system cofrestru pleidleiswyr, a byddwn yn amlinellu ein cynigion ar gyfer diwygio'r system honno.
Aelod o Senedd y DU wrth sôn am ei gyswllt â'r Comisiwn
Yn llawn gwybodaeth ac yn hawdd cydweithio ag ef. Yn ddiddorol iawn â gwybodaeth gyffredinol.