Dadansoddi perfformiad

Mae Cynllun Corfforaethol y Comisiwn yn nodi pum amcan strategol yr ydym yn gweithio i'w cyflawni dros gyfnod y cynllun pum mlynedd, wedi'u hategu gan dri ffactor galluogi allweddol. Mae'r adrannau sy'n dilyn yn nodi'r gwaith a wnaed yn 2022-23 i gyflawni pob amcan ac ategu pob ffactor galluogi, ynghyd â gwaith sy'n mynd rhagddo neu sydd wedi'i gynllunio yn ystod y flwyddyn i ddod.

Fel y dangosir yn yr adran hon, mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn dangos bod y Comisiwn yn cyflawni'r mwyafrif o'r targedau a'i fod ar y trywydd cywir i fodloni'r amcanion allweddol erbyn diwedd cyfnod y Cynllun Corfforaethol (Mawrth 2027). 
Gan mai hon yw blwyddyn gyntaf y Cynllun Corfforaethol, mae'r dangosyddion perfformiad yn dechrau o sylfaen newydd ac, o ganlyniad, nid oes mesuriadau cymaradwy ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Mae'r dangosyddion yn dangos ein bod wedi cyflawni ein nodau blynyddol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys rhoi cyngor ac arweiniad amserol i'n rhanddeiliaid. Mae hyn wrth wraidd ein gwaith i gefnogi cydymffurfiaeth, helpu gweinyddwyr i gynnal etholiadau, a sicrhau bod pleidleiswyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan.

Ymhlith y meysydd lle mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hynny mae cynyddu gweithgarwch cofrestru pleidleiswyr a chyhoeddi datganiadau o gyfrifon yn fwy amserol.

Amcanion Strategol

  • Cofrestru a phleidleisio hygyrch 
  • Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy'n cydymffurfio å'r rheolau 
  • Gwasanaeth etholiadol Ileol cadarn 
  • Cyfraith deg ac effeithiol 
  • System etholiadol fodern a chynaliadwy

Ffactorau Galluogi

  • Annibyniaeth ac uniondeb 
  • Sefydliad medrus syn gwerthfawrogi amrywiaeth 
  • Sefydliad syn gwella'n barhaus ac yn defnyddio adnoddau'n effeithiol