Amcan: Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Rhan hanfodol o'r broses ddemocrataidd yw sicrhau bod ymgyrchwyr yn gallu cyfleu eu negeseuon i bleidleiswyr. Rhaid i ymgyrchwyr, gan gynnwys pleidiau, allu cyfathrebu â'r pleidleiswyr i esbonio eu safbwyntiau a'u polisïau, fel bod gan bleidleiswyr y wybodaeth angenrheidiol pan fyddant yn pleidleisio. Mae'n bwysig bod pleidleiswyr yn clywed gan amrywiaeth eang o ymgyrchwyr.
Rhaid i ymgyrchwyr allu ymgyrchu heb wynebu rhwystrau gwirioneddol na chanfyddedig diangen, wrth i ni barhau i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Rydym yn gweithio i wella tryloywder ymgyrchu gwleidyddol, ac i helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith, drwy wneud y canlynol:
- sicrhau y gall ymgyrchwyr gael gafael ar gymorth i ddeall y gyfraith yn y ffordd ac ar yr adeg sy'n gweithio orau iddynt
- sicrhau y caiff cyfreithiau cyllid gwleidyddol eu gorfodi'n deg, gan weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus a rheoleiddwyr eraill i gefnogi eu gwaith mewn meysydd y tu hwnt i'n cylch gorchwyl cyfreithiol
- cyhoeddi data cyllid gwleidyddol cyflawn a chywir
- helpu ymgyrchwyr a seneddau i ddeall y ffordd y mae dulliau ymgyrchu'n effeithio'n uniongyrchol ar hyder pleidleiswyr mewn etholiadau.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Cyn etholiadau Mai 2022, cynhaliodd y Comisiynydd ei ymgyrch tryloywder digidol, gan annog pleidleiswyr i feddwl yn feirniadol am y wybodaeth ymgyrchu y maent yn ei gweld.
- Canfu ein harolygiadau ymgeiswyr a gynhaliwyd yn dilyn etholiadau Mai 2022 fod mwy na 40% o ymgeiswyr ledled y DU wedi cael eu bygylu neu eu cam-drin yn ystod yr ymgyrch. O ganlyniad, mae'r Comisiwn wedi cymryd camau i gynnull rhanddeiliaid perthnasol er mwyn trafod ffyrdd o wella eu profiad, yn ogystal â rhoi arweiniad a chyngor i ymgeiswyr ar sut i ddiogelu eu hunain.
- O ganlyniad i'r Ddeddf Etholiadau, gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau i adlewyrchu cyfreithiau cyllid gwleidyddol newydd ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr er mwyn eu helpu i gydymffurfio â nhw. Gwnaethom weithio gydag ymgyrchwyr i lunio cod ymarfer newydd ar gyfer gwariant ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Gwnaethom ymgynghori ar y cod a'i gyflwyno i Weinidogion yn unol â'r gyfraith. Gwnaethom hefyd ymgynghori ar ganllawiau ar yr argraffnodau digidol newydd i gefnogi newidiadau i'r gyfraith yn y maes hwn.
- Gwnaethom gynnal gweminarau ar gyfer pleidiau, ymgeiswyr, asiantiaid ac eraill yn etholiadau Mai 2022 er mwyn esbonio'r gyfraith, a gwnaethom yr un peth eto ar gyfer etholiadau mis Mai 2023. Gwnaethom gynnal cyngorfeydd rhithwir a oedd yn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i drafod materion penodol yn ymwneud â gwariant a chyfreithiau rhoi ag un o'n cynghorwyr arbenigol. Gwnaethom hefyd gynnig cyngorfeydd rhithwir pellach cyn y terfyn amser ar gyfer adrodd, er mwyn rhoi cymorth ymarferol a pharhaus mewn perthynas â ffurflenni gwariant.
- Rhoesom gyngor a chanllawiau wedi'u targedu i'r amrywiaeth lawn o bleidiau ac ymgyrchwyr. Gwnaethom wella hygyrchedd a defnyddioldeb ein canllawiau drwy gynyddu gweithgarwch ymgynghori â phleidiau ac ymgyrchwyr wrth eu llunio. Drwy hyn, gwnaethom wella ein sylfaen dystiolaeth o ran y ffordd y caiff y gyfraith ei chymhwyso yn ymarferol, er mwyn llywio adnoddau ar gydymffurfiaeth yn y dyfodol.
- Gwnaethom gryfhau ein gwasanaeth cynghori ar gyfreithiau cyllid gwleidyddol drwy recriwtio cynghorwyr ychwanegol.
- Gwnaethom lansio menter newydd sy'n rhoi cymorth wedi'i dargedu i bleidiau sydd newydd eu cofrestru, sy'n debygol o fod yn llai cyfarwydd â'r gyfraith a'u rhwymedigaethau a'u cyfrifoldebau.
- Er mwyn sicrhau bod ein Polisi Gorfodi mor glir â phosibl, aethom ati i wneud newidiadau iddo ac i ymgynghori â phleidiau ac ymgyrchwyr. Mae'r Polisi yn nodi sut rydym yn ymdrin ag ymchwiliadau rheoleiddio a sancsiynau.
- Canfu ein harolwg olrhain blynyddol o farn y cyhoedd fod hyder yn nhryloywder cyllid gwleidyddol yn dirywio. Rydym yn parhau i argymell ffyrdd o wella rheolaethau ar y system er mwyn gwella hyder, gan gynnwys drwy ymgysylltu â'r Llywodraeth a seneddwyr, a thrwy'r cyfryngau cenedlaethol.
Aelod o Senedd y DU wrth sôn am ei gyswllt â'r Comisiwn
Yn llawn gwybodaeth ac yn hawdd cydweithio ag ef. Yn ddiddorol iawn â gwybodaeth gyffredinol.
Dangosyddion perfformiad
Dangosydd | Targed | 2022-23 |
---|---|---|
Cyhoeddi adroddiadau ar roddion a benthyciadau a gafwyd erbyn y terfyn amser statudol | 100% | 100% |
Cyhoeddi datganiadau o gyfrifon o fewn 60 diwrnod gwaith | 100% | 5.02% |
Datblygu ymchwiliadau a dod i gasgliad yn eu cylch mewn modd amserol | 90% | 91.18% |
Cyhoeddi hysbysiadau / cyhoeddi penderfyniadau ar sancsiynau (hysbysiadau terfynol) yn dilyn y cyfnod cyflwyno sylwadau | 90% | 100% |
Cyhoeddi canlyniadau ceisiadau i gofrestru pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn modd amserol (ar gyfer manylion newydd a newid manylion) | 90% | 81.91% |
Ymateb yn amserol i geisiadau am gyngor rheoleiddiol ar adrodd ariannol | 90% | 99.17% |
Darparu cynhyrchion/adnoddau canllawiau rheoleiddio i gefnogi cydymffurfiaeth â'r gyfraith | N/A | 59 |
Ymholiadau sy'n gysylltiedig â chynhyrchion canllawiau sy'n helpu i nodi meysydd presennol a/neu newydd i'r canllawiau sy'n rhoi eglurder ychwanegol ynghylch y gyfraith | 100% | 100% |
Pennir terfynau amser gwahanol ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon i'r Comisiwn ar gyfer pleidiau sydd ag incwm a gwariant islaw £250,000 a'r rhai sydd ag incwm a gwariant uwchlaw £250,000. Yn sgil y cyfyngiadau ar adnoddau mewnol, penderfynwyd yn 2022 y dylid cyfuno'r broses o gyhoeddi'r ddwy gyfran. Roedd hyn yn golygu oedi cyn cyhoeddi nifer mawr o ddatganiadau tan ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar gyfer y pleidiau mwy. Cyhoeddwyd 100% o ddatganiadau ar y dyddiad cyhoeddi y cytunwyd arno.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Yn dilyn ymgynghoriad, daw Polisi Gorfodi diwygiedig y Comisiwn i rym ar ôl etholiadau Mai 2023 a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel sail i'r penderfyniadau a wnawn ynghylch gorfodi.
- Byddwn yn monitro newidiadau sy'n deillio o'r mesurau ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr yn y Ddeddf Etholiadau a roddwyd ar waith yn ystod 2022-23 ac, yn unol â phroses seneddol, yn cyhoeddi cod ymarfer ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a chanllawiau ar yr argraffnod digidol newydd er mwyn helpu ein cymuned a reoleiddir i ddeall y newidiadau.
- Bydd y Comisiwn yn parhau i fonitro bygythiadau a risgiau gwleidyddol i'r system etholiadol, gan gynnwys uniondeb y cyfreithiau cyllid gwleidyddol. Byddwn yn parhau i eirioli dros welliannau i reolaethau ar roddion i bleidiau gwleidyddol er mwyn atal bygythiad ymyrraeth o dramor, ac yn monitro deddfwriaeth berthnasol, fel effeithiau posibl y Bil Diogelwch Cenedlaethol.
- Mewn ymateb i adborth, rydym yn treialu pwyntiau cyswllt dynodedig ar gyfer pleidiau mwy, neu'r rheini sydd am gysylltu â ni'n aml i gael cyngor er mwyn helpu i gefnogi cydymffurfiaeth ymhellach.
- Byddwn yn parhau i fonitro themâu ymholiadau a gafwyd er mwyn llywio a llunio ein canllawiau rheoleiddio, gan wella ein sylfaen dystiolaeth o ran sut y caiff y gyfraith ei chymhwyso yn ymarferol a helpu i sicrhau bod ein canllawiau mor glir a defnyddiol â phosibl.
- Ar y cyd â'r heddlu, byddwn yn cymryd camau cymesur i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfundrefn argraffnodau digidol pan gaiff ei chyflwyno. Bydd y Comisiwn hefyd yn parhau i weithio gyda heddluoedd ledled y DU i fynd i'r afael ag achosion o fygylu ac aflonyddu ymgeiswyr.
Aelod o Senedd y DU wrth sôn am ei gyswllt â'r Comisiwn
Wedi cael sgyrsiau o ansawdd da am reoleiddio a'r pwysau sy'n wynebu pleidiau gwleidyddol.