Amcan: Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Caiff ein system etholiadol ei hategu gan fframwaith cyfreithiol sy'n pennu sut y caiff etholiadau eu cynnal. Mae'n nodi pwy gaiff bleidleisio a'r amryw ffyrdd y gallant fwrw eu pleidlais. Mae'n nodi pwy gaiff sefyll etholiad, pwy gaiff ymgyrchu, a faint y gallant ei wario; ac mae'n nodi sut y dylai gweinyddwyr etholiadol gynnal etholiadau, gan gynnwys cyfrif a datgan y canlyniadau.
O ystyried ei effaith drawsbleidiol, rydym am weithio gyda seneddwyr a llywodraethau i wella cyfraith etholiadol fel ei bod yn addas at y diben, yn lleihau cymhlethdod, aneffeithlonrwydd a risg, ac yn hwyluso arloesedd. Byddwn yn gweithio gydag eraill i ddiwygio cyfraith etholiadol drwy wneud y canlynol:
- cefnogi proses effeithiol o ystyried deddfwriaeth a'i rhoi ar waith yn seneddau'r DU
- ymgysylltu ag agendâu diwygio cyfraith etholiadol cyfredol llywodraethau, gan barhau i gyflwyno achos dros ddiwygio pellach
- parhau i roi cyngor arbenigol ar ymarferoldeb ac effaith unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i wella'r system etholiadol.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Yn dilyn etholiadau Mai 2022, gwnaethom gyhoeddi adroddiadau ar etholiadau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, gan adlewyrchu data a thystiolaeth a gasglwyd ynghylch pleidleisio, ymgyrchu a chynnal yr etholiadau. Roedd y rhain yn cynnwys argymhellion i wella'r system ymhellach.
- Wrth i'r Bil Etholiadau fynd drwy Senedd y DU, gwnaethom friffio aelodau Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi er mwyn eu helpu i ystyried y mesurau.
- Gwnaethom ymateb yn brydlon i ohebiaeth gan swyddogion etholedig, gan roi gwybodaeth gywir a diduedd.
- Rydym yn parhau i eirioli dros newidiadau polisi mewn meysydd allweddol – gan gynnwys moderneiddio cyfraith etholiadol a diogelu gwleidyddiaeth rhag ymyrraeth o dramor – wrth i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid, seneddwyr a'r cyfryngau.
Dangosyddion perfformiad
Dangosydd | Targed | 2022-23 |
---|---|---|
Cyhoeddi adroddiadau amserol ar etholiadau/refferenda | 100% | 100% |
Ymatebion amserol i gynigion polisi ac ymgynghoriadau deddfwriaethol | 100% | 100% |
Ymateb i ohebiaeth gan randdeiliaid etholedig (Aelod o'r Senedd, Aelod Seneddol, Aelod o Senedd yr Alban ac Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol) o fewn 10 diwrnod gwaith | 100% | 97.83% |
Adroddiad y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, Hydref 2022
Mae ugain mlynedd ers i'r Comisiwn Etholiadol gael ei sefydlu, a chredwn ei fod yn dal i chwarae rôl sylfaenol wrth oruchwylio etholiadau a refferenda rhydd a theg a rheoleiddio cyllid gwleidyddol, ac y dylai barhau i wneud hynny. Fodd bynnag, mae cymhlethdod diangen y gyfraith sy'n llywodraethu'r maes hwn yn cael effaith uniongyrchol ar ei allu i gyflawni ei swyddogaethau statudol yn effeithiol. Ceir consensws bod angen i'r gyfraith gael ei rhesymoli a'i symleiddio ar frys.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Bydd y Comisiwn yn rhannu ei arbenigedd a'i dystiolaeth â Llywodraeth y DU wrth iddi ddatblygu offerynnau statudol i ddarparu'r manylion o ran sut y bydd y mesurau sy'n weddill yn y Ddeddf Etholiadau yn gweithio.
- Rydym yn dal i fod o'r farn y dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn glir o leiaf chwe mis cyn y disgwylir i unrhyw newidiadau gael eu rhoi ar waith, er mwyn rhoi digon o amser i Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a gweinyddwyr etholiadol baratoi ar eu cyfer.
- Byddwn yn parhau i argymell diwygiadau i gyfraith etholiadol y DU ac yn barod i gefnogi llywodraethau a seneddau i ystyried y ffordd orau o fynd ar drywydd hyn.
- Bydd y Comisiwn yn parhau i eirioli dros foderneiddio cyfraith etholiadol, y mae angen ei symleiddio er mwyn helpu gweinyddwyr etholiadol i ddarparu'r lefel o wasanaeth y mae pleidleiswyr yn ei haeddu, a galluogi llywodraethau a deddfwrfeydd i gyflawni eu blaenoriaethau polisi.