Amcan: Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Mae gwasanaethau etholiadol lleol yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol y mae perygl y byddant yn effeithio ar eu gallu i gynnal etholiadau a refferenda effeithiol. Rydym yn gweithio i helpu awdurdodau lleol a gweinyddwyr etholiadol i ymateb i'r pwysau hyn.
Rydym hefyd yn gweithio i helpu i ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel i bleidleiswyr, ac i ddatblygu gwasanaethau etholiadol lleol cadarn drwy wneud y canlynol:
- pennu safonau perfformiad ar gyfer gwasanaethau etholiadol lleol
- darparu canllawiau a chymorth hygyrch i weinyddwyr etholiadol
- helpu gwasanaethau etholiadol lleol i fod yn fwy cadarn
- sicrhau bod y system etholiadol yn gweithio'n effeithiol.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Erys capasiti a chadernid gweinyddwyr etholiadol yn her sylweddol. Canfu ein hadroddiadau ar etholiadau Mai 2022 fod gweinyddwyr wedi ei chael hi'n anodd recriwtio staff a dod o hyd i leoliadau addas ar gyfer gorsafoedd pleidleisio a'r broses gyfrif. Galwodd y Comisiwn am eglurder digonol ynghylch cyllid i baratoi'n effeithiol ar gyfer y newidiadau sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau.
- Mae'r broses o roi'r Ddeddf Etholiadau ar waith yn cael effaith sylweddol ar weinyddwyr etholiadol, ac rydym wedi parhau i'w helpu i ddeall y newidiadau hyn a pharatoi ar eu cyfer. Mae hyn wedi cynnwys datblygu canllawiau ac adnoddau i gefnogi'r broses o roi'r darpariaethau newydd ar waith, yn ogystal â pharhau i ddarparu gwasanaeth cynghori i awdurdodau lleol, drwy ein timau rhanbarthol datganoledig a'r rhai yn Lloegr.
- Fel bob amser, gwnaethom lunio canllawiau cynhwysfawr ar baratoi ar gyfer etholiadau Mai 2023 a'u cynnal, gyda'r nod o gefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol. Datblygwyd adnoddau hefyd i helpu awdurdodau lleol i gyfleu'r gofynion ID pleidleisiwr newydd i'w preswylwyr. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hamcan i helpu awdurdodau lleol a gweinyddwyr etholiadol i ddarparu gwasanaeth effeithiol, cynaliadwy a chadarn.
- Gwnaethom ymgynghori ar safonau perfformiad newydd ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, sydd â'r nod o gynnig fframwaith cadarn ar gyfer cynnal etholiadau trefnus, helpu i roi newidiadau deddfwriaethol ar waith mewn modd effeithiol a chyson, a galluogi prosesau adrodd tryloyw am y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal. Mae'r safonau hefyd yn mynd i'r afael â'r newidiadau sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau. Cawsant eu cadarnhau a'u cyflwyno gerbron y seneddau ym mis Rhagfyr 2022, ac maent bellach ar waith.
- Rydym hefyd wedi diweddaru'r fframwaith ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol, a adolygwyd ddiwethaf yn 2021, i adlewyrchu cyfrifoldebau newydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau.
Gweinyddwr etholiadol yn dilyn etholiadau Mai 2022
Roedd gennym nifer sylweddol o staff nad oeddent yn ymgymryd â'u swyddi eto ac mae'n ymddangos bod hyn yn broblem gynyddol. Roeddem yn ffodus nad oedd gan ein hawdurdod cyfagos etholiadau a’u bod wedi benthyg nifer o staff i ni. Pe byddent hefyd wedi cael etholiadau, byddem wedi cael trafferth llenwi swyddi gwag
Dangosyddion perfformiad
Dangosydd | Target | 2022-23 |
---|---|---|
Cyngor cywir i Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac ymgeiswyr ac asiantiaid o fewn tri diwrnod (Prydain Fawr) | 100% | 93.35% |
Cyhoeddi cynhyrchion canllawiau cywir ac amserol ar gyfer gweinyddwyr etholiadol | 100% | 100% |
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Fel rhan o'n prosesau adrodd ar ôl etholiadau, byddwn yn casglu data gan awdurdodau lleol ac yn arolygu'r rheini sy'n gyfrifol am gynnal etholiadau er mwyn deall effaith y mesurau newydd, gan gynnwys eu barn am y broses o roi'r gofyniad ID pleidleisiwr ar waith.
- Byddwn yn ceisio adborth i'n galluogi i werthuso ein canllawiau newydd i Swyddogion Canlyniadau ac i nodi unrhyw wersi sy'n dod i'r amlwg a'u hystyried.
- Byddwn yn diweddaru ein canllawiau i adlewyrchu newidiadau pellach i etholiadau a phrosesau cofrestru etholiadol, gan gynnwys diwygiadau i reolau pleidleisio drwy'r post, pleidleisio drwy ddirprwy a phleidleisio o dramor, sy'n deillio o'r Ddeddf Etholiadau.
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r safonau perfformiad i helpu i ddarparu gwasanaethau etholiadol cyson o ansawdd uchel i bleidleiswyr, ac i gefnogi cadernid parhaus gwasanaethau etholiadol lleol.
- Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadol er mwyn mynd i'r afael â heriau yn ymwneud â chadernid a chapasiti, gan gynnwys mewn perthynas â lefelau staffio gorsafoedd pleidleisio a chyflenwyr.
Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, Hydref 2022
Credwn fod gwaith statudol y Comisiwn Etholiadol o ran sut y dylid cynnal etholiadau yn effeithiol iawn.
Mae'n darparu canllawiau ardderchog, adnoddau ategol ac arferion da ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol.