Amcan: System etholiadol fodern a chynaliadwy
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Mae angen i ni sicrhau bod ein system etholiadol yn dilyn datblygiadau digidol. Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd i sicrhau mwy o gydymffurfiaeth, tryloywder a'r arbedion ariannol y mae technoleg yn eu cynnig, gan weithio i gynnal hyder pleidleiswyr yn y system etholiadol. Mae angen i ni hefyd foderneiddio'r system etholiadol er mwyn sicrhau ei bod yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Rydym yn gweithio tuag at gyflawni system etholiadol fodern a chynaliadwy drwy wneud y canlynol:
- manteisio ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol
- deall y risgiau newidiol i'r system etholiadol sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio data a thechnoleg, galw am weithredu arnynt, a gweithredu arnynt ein hunain
- parhau i feithrin cydberthnasau cadarn a symleiddio arferion gwaith gyda phob corff sy'n rhan o'r system etholiadol
- cefnogi llywodraethau a'r gymuned etholiadol ehangach i fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu sy'n cyrraedd y safonau amgylcheddol sy'n ofynnol gan ein system etholiadol.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Cyflwynodd y Comisiwn dystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i systemau cofrestru etholiadol, gan gynnwys sut y gellid defnyddio data cyhoeddus yn fwy effeithiol i wella cywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol.
- Yn ogystal â rhoi cyngor arbenigol a chynnig argymhellion i wella'r system gyfredol, rydym yn parhau i archwilio dichonoldeb y broses bleidleisio a chofrestru.
- Byddwn yn cynnal ymchwil ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholiadol er mwyn diweddaru ein sylfaen dystiolaeth ar gyflwr y cofrestrau, sut mae'r system gyfredol yn gweithio yn ymarferol a sut y gellid ei gwella.
Dangosyddion perfformiad
Dangosydd | Targed | 2022-23 |
---|---|---|
Bodloni gofynion deddfwriaeth amgylchedd gyfredol ac sy'n datblygu neu newydd | Dd/G – Caiff hyn ei ddatblygu pan gyhoeddir targed Llywodraeth y DU | N/A |
Bwriedir i'r dangosydd hwn helpu'r Comisiwn i fesur ei effaith amgylcheddol ac adrodd arni, ac i fodloni ei ofynion mewn perthynas â deddfwriaeth amgylcheddol gyfredol a newydd. Caiff targedau a llinell sylfaen eu datblygu yn ystod tair blynedd cyntaf y cynllun corfforaethol, yn dibynnu ar dargedau cyhoeddedig y llywodraeth
Y Comisiwn, wrth ysgrifennu at y Sefydliad Materion Cymreig
Heb etholiad uniongyrchol ar y gorwel, mae llawer o'r rhai sy'n ymwneud â'r gwaith hwn, gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol, yn ystyried i ba gyfeiriad y mae angen i waith i annog pobl ifanc i gymryd rhan yn ein proses ddemocrataidd fynd nesaf.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Rydym wrthi'n diweddaru ein hymchwil ar gywirdeb a chyflawnrwydd, a fydd yn ein helpu i ddeall cyflwr cofrestrau etholiadol y DU. Caiff y cyhoeddiadau diwygiedig ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu cyhoeddi yn ystod hydref 2023.
- Byddwn yn parhau i gyfrannu at ymchwiliad Pwyllgor Dethol Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU i newidiadau posibl i systemau cofrestru pleidleiswyr ledled y DU. Bydd astudiaethau dichonoldeb y Comisiwn o ran sut y gellid gwneud defnydd gwell ddata cyhoeddus a systemau cofrestru awtomataidd neu awtomatig, yn parhau i fod yn sail i'n dull gweithredu yn y maes hwn.
- Bydd y Comisiwn yn parhau i fuddsoddi amser ac adnoddau i feithrin cydberthnasau â rheoleiddwyr a rhanddeiliaid eraill, er mwyn deall eu safbwyntiau a nodi cyfleoedd i gydweithio.