Gweithgarwch galluogi: Annibyniaeth ac uniondeb
Rhannu'r dudalen hon:
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Mae'r system etholiadol yn dibynnu ar y Comisiwn Etholiadol yn gweithredu fel corff annibynnol amhleidiol, ac felly rydym yn gosod safonau uchel iawn i'n hunain o safbwynt ein huniondeb. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y cawn ein parchu am ein harbenigedd, a bod ein cyngor a'n penderfyniadau yn rhydd rhag tuedd. O ystyried ein rôl unigryw, mae angen i'n huniondeb fod yn glir ac yn amlwg yn yr hyn a wnawn. Rydym yn dangos annibyniaeth ac uniondeb drwy wneud y canlynol:
- gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny
- seilio ein safbwyntiau polisi a'n hargymhellion ar ddadansoddiad o'r dystiolaeth
- cyfleu ein gwaith a'n barn yn effeithiol
- darparu gwasanaethau ymatebol i'r rhai rydym yn eu cefnogi
- cynnal trefniadau llywodraethu effeithiol.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Gwnaethom gyhoeddi gwybodaeth am ymchwiliadau rheoleiddio a gaewyd yn fisol, gan gyflwyno ein canfyddiadau ac unrhyw sancsiynau posibl mewn modd tryloyw.
- Gwnaethom adolygu ein Polisi Gorfodi, y cyfeiriwn ato wrth gynnal ymchwiliad. Gwnaethom geisio barn er mwyn sicrhau bod y polisi mor eglur a defnyddiol â phosibl, fel bod ein dull gorfodi yn dryloyw ac yn hawdd ei ddeall.
- Gwnaethom ddefnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth wrth lunio ein hymateb i'r ymgynghoriad ar Ddatganiad Strategaeth a Pholisi Llywodraeth y DU. Nododd yr ymateb fod cyflwyno mecanwaith o'r fath – y gall llywodraeth ei ddefnyddio i lywio gwaith comisiwn etholiadol – yn anghyson â'n rôl fel rheoleiddiwr annibynnol a'r corff sy'n goruchwylio etholiadau rhydd a theg.
- Gwnaethom ddarparu briffiadau i seneddwyr er mwyn eu helpu i ystyried y Bil Etholiadau wrth iddo fynd drwy Senedd y DU.
- Bwriedir i'n hadnoddau addysgol fod yn ffynhonnell annibynnol o ddeunydd a gwybodaeth i addysgwyr, i'w helpu i addysgu am wleidyddiaeth heb orfod crwydro i mewn i wleidyddiaeth. Gwnaethom ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, seneddwyr, gweinyddwyr a'r gymuned a reoleiddir, gan roi gwybodaeth a chyngor ar y system etholiadol a chyfranogiad democrataidd.
- Gwnaethom ymateb i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, seneddwyr, gweinyddwyr a'r gymuned a reoleiddir, gan roi gwybodaeth a chyngor ar y system etholiadol a chyfranogiad democrataidd.
- Cawsom 89 o geisiadau rhyddid gwybodaeth. Rydym yn anelu at ymateb i 90% o geisiadau o fewn yr amserlen statudol o 20 diwrnod gwaith, a'r flwyddyn hon gwnaethom ymateb i 97.7% o fewn yr amserlen honno. Gofynnwyd i ni gynnal adolygiadau mewnol o'n hymateb i bum cais rhyddid gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, ac ymatebwyd i bob un o'r rhain o fewn y r amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cawsom dri chais am fynediad at ddata gan y testun a 10 chais i ddileu o dan GDPR y DU. Ymatebwyd i bob un o'r rhain o fewn yr amserlen statudol ar gyfer ymateb, sef un mis calendr.
- Gwnaethom ymdrin â 28 o gwynion, o gymharu â 96 yn 2021/22. O blith y rhain, roedd tair yn dal i gael ei hystyried ar ddiwedd y flwyddyn. O blith y rhai a gwblhawyd, ni chafodd 17 eu cadarnhau, cafodd dwy eu cadarnhau'n rhannol, cafodd dwy eu cadarnhau'n llawn, cafodd dwy eu cau am na chafwyd eglurhad gan yr achwynydd, a thynnwyd dwy yn ôl.
- Rydym yn defnyddio ein proses gwynion fel cyfle i ddysgu, a rhannwyd cyfleoedd i ddysgu â'r timau perthnasol. Cawsom un cais am adolygiad gan y Prif Weithredwr. Er na chafodd canlyniad gwreiddiol y gŵyn ei newid yn sgil yr adolygiad hwn, bu modd rhoi eglurhad a chymorth pellach.
- Ymatebodd ein gwasanaeth gwybodaeth cyhoeddus dynodedig i 11,829 o ymholiadau gan y cyhoedd yn ystod y flwyddyn, a gafwyd dros y ffôn, drwy'r post a thrwy e-bost. Drwy'r gwasanaeth hwn, gwnaethom ateb cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys ID pleidleisiwr, cofrestru pleidleiswyr a phleidleisio drwy'r post. Gwnaethom hefyd ymateb i 14,800 o ymholiadau a gafwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Gwnaethom ymateb i 51 o gwestiynau seneddol yn San Steffan yn ystod 2022/23, gan gynnwys cwestiynau am ID pleidleisiwr – o ran ein hymgyrch a'r polisi ei hun – cymdeithasau anghorfforedig, rhoddion i bleidiau gwleidyddol a Datganiad Strategaeth a Pholisi arfaethedig.
- Chris Matheson AS a Cat Smith AS, aelodau o Bwyllgor y Llefarydd, oedd ein llefarwyr yn Senedd y DU ac a atebodd gwestiynau ar ein rhan yn ystod y flwyddyn.
Dangosyddion perfformiad
Indicator | Targed | 2022-23 |
---|---|---|
Ymatebion amserol i ymholiadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol | 100% | 100% |
Ymatebion amserol i ymholiadau gan y cyhoedd drwy alwadau, llythyrau a negeseuon e-bost | 100% | 99.69% |
Ymatebion amserol i Geisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun dilys | 100% | 100% |
Ymatebion amserol i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth dilys | 90% | 97.7% |
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Bydd adroddiadau am etholiadau yn dilyn etholiadau mis Mai 2023 yn amlinellu unrhyw argymhellion sy'n angenrheidiol, yn ein barn ni, i wella'r system i bleidleiswyr, gweinyddwyr ac ymgyrchwyr.
- Byddwn yn parhau i roi gwybodaeth, arweiniad a chyngor cywir a diduedd i'n rhanddeiliaid.
- Wrth i ni baratoi ar gyfer Ddatganiad Strategaeth a Pholisi arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y Comisiwn, erys ymrwymiad y Comisiwn i wneud penderfyniadau annibynnol yn gadarn.