Defnyddio ein hadnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein nodau

Ein pobl

Cysylltiadau staff ac ymgysylltu â nhw

Mae'r Comisiwn yn dibynnu ar ymroddiad, arbenigedd a gwaith caled ei staff. Gyda'i gilydd, mae timau'n gweithio i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bleidleiswyr a rhanddeiliaid, gan geisio cyflawni'r amcanion strategol a nodir yn y Cynllun Corfforaethol ar yr un pryd.

Mae'r gwaith hwn y dibynnu ar gydberthnasau adeiladol ar draws y Comisiwn, gyda'r Tîm Gweithredol, a'r Bwrdd. 

Mae grŵp ymgysylltu â staff, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad, yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion corfforaethol a diwylliant y Comisiwn i geisio mewnbwn a safbwyntiau gan gydweithwyr. Ategir hyn gan gyfarfodydd prosiect rheolaidd â thimau gwahanol, cyfarfodydd tîm, a sesiynau dal i fyny â rheolwyr llinell, er mwyn sicrhau y caiff safbwyntiau a lleisiau eu clywed.

Y flwyddyn hon, lansiodd y Comisiwn Siarter Diwylliant newydd, a grëwyd gan y staff, a Pholisi Urddas a Pharch newydd.

Gwnaethom hefyd gyflwyno hyfforddiant ar fwlio ac aflonyddu. Cynhaliwyd Gwobrau Staff hefyd er mwyn cydnabod a dathlu ymdrechion a chyflawniadau'r rheini sy'n gweithio yn y sefydliad. 
Mae gan y Comisiwn undeb weithredol, sy'n chwarae rôl bwysig yn y ddeialog rhwng y staff a'r rheolwyr. Cynhaliwyd anghydfod masnach swyddogol mewn perthynas â setliadau cyflog y flwyddyn hon, ond parhaodd y ddeialog a'r ymgysylltu i fod yn adeiladol.

Gwnaethom gwblhau ein harolwg staff diweddaraf ym mis Rhagfyr 2022 ac ymatebodd 86% o gyflogeion iddo. Ein sgôr o ran ymgysylltu â chyflogeion oedd 66% (gostyngiad bach o gymharu â 67% yn 2021). Roedd ein sgoriau yn cymharu'n gadarnhaol iawn â meincnod y Gwasanaeth Sifil (2021) mewn meysydd lle roedd ein pobl yn cytuno â'r canlynol:

  • Maent yn cael y cyfle i gyfrannu safbwyntiau cyn i benderfyniadau sy'n effeithio arnynt gael eu gwneud (60%, 21 pwynt canrannol uwchlaw'r meincnod) 
  • Maent yn teimlo'n falch pan fyddant yn dweud wrth eraill eu bod yn gweithio i'r Comisiwn (81%, 18 pwynt canrannol uwchlaw'r meincnod) 

Ymhlith y meysydd lle nad oedd ein sgoriau'n cymharu mor gadarnhaol â meincnod y Gwasanaeth Sifil a lle y mae angen i ni wneud gwelliannau roedd y rheini lle roedd pobl yn cytuno â'r canlynol:

  • Mae cyfleoedd i symud ymlaen mewn gyrfa yn y Comisiwn (23%, 36 pwynt canrannol islaw'r meincnod)
  • Mae ganddynt y cyfarpar a'r systemau TG sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu swydd yn effeithiol (48%, 24 pwynt canrannol islaw'r meincnod) 

Dangosyddion perfformiad

Dangosydd Targed 2022-23
Cynnal y sgôr llesiant staff yn yr arolwg staff 77% 77%
Cynnal y sgôr ymgysylltu â staff yn yr arolwg staff 67% 66%

Iechyd a diogelwch galwedigaethol

Caiff ein polisi iechyd a diogelwch ei adolygu'n flynyddol. Mae gennym weithdrefnau, canllawiau ac asesiadau risg ar waith hefyd i gwmpasu ein gweithgareddau craidd. Mae grŵp iechyd a diogelwch yn goruchwylio ein trefniadau. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd i'r uwch-grŵp arwain. Fodd bynnag, rheolwyr pobl sy'n bennaf cyfrifol am iechyd a diogelwch.

Rydym yn cychwyn archwiliadau iechyd a diogelwch annibynnol o'n safleoedd bob blwyddyn, sy'n cynnwys archwilio amgylcheddau gwaith ac adolygu systemau rheoli diogelwch. Mae'r archwiliadau hyn yn dweud wrthym a yw ein trefniadau yn addas ac yn tynnu sylw at unrhyw welliannau y mae angen i ni eu gwneud. Yn 2022/23, gwnaethom y canlynol:

  • Gosod goleuadau LED yn ein swyddfa yn Llundain, gan greu ymdeimlad o olau naturiol
  • Cynnal profion ar wifrau sefydlog yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Llundain
  • Cefnogi'r rhai sy'n gweithio gartref a staff sydd wedi'u lleoli yn y swyddfa â cheisiadau am gyfarpar, fel gweithfannau a chadeiriau orthopaedig a chlustogau cynnal y cefn
  • Cynnal profion dyfeisiau cludadwy ym mhob un o'n swyddfeydd
  • Parhau i gynnal gweithdrefnau glanhau gwell, gan gynnwys darparu hylif diheintio dwylo a weips gwrthfacterol.