Gweithgarwch galluogi: Sefydliad sy'n dysgu, sy'n gwella'n barhaus ac yn defnyddio adnoddau'n effeithlon
Rhannu'r dudalen hon:
Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni
Mae'r byd o'n cwmpas yn newid yn gyflym. Mae angen i ni addasu'n gyflym er mwyn llwyddo. Er mwyn gwneud hyn, awn ati'n drylwyr i ddysgu o brofiad a cheisio gwelliant parhaus ym mhob peth a wnawn. Yn ôl pob golwg, bydd y pwysau ar wariant cyhoeddus yn parhau, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i reoli ein costau a gwneud defnydd effeithiol o'n technoleg, cyllid, amser ac adnoddau. Rydym yn gweithio i gyflawni'r canlynol:
- caffael systemau TG sy'n cynnig gwerth am arian ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir, a'u rhoi ar waith
- parhau â'n strategaeth ariannol er mwyn cadw'r Comisiwn o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt
- parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol
- datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy'n bodloni gofynion polisi a deddfwriaethol i leihau effaith amgylcheddol
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Rydym ar y trywydd cywir i gyflawni'r ymrwymiad a bennwyd gennym yn y Cynllun Corfforaethol i gadw gwariant craidd – ar weithgareddau rheoleiddio, cymorth ar gyfer gweinyddwyr etholiadol a gorbenion – yn wastad yn nhermau real dros gyfnod y cynllun.
- Yn anffodus, nid oeddem yn gallu cwblhau ein gwaith ar y system cyllid gwleidyddol ar-lein newydd gan nad oedd y prosiect bellach yn gallu cyflawni ei amcanion a byddai angen cymorth parhaus a chostus arno. Rydym ar hyn o bryd yng ngham ‘Discovery’ ein dull newydd, sy’n defnyddio gwaith blaenorol yr oeddem wedi’i ddatblygu ac ymgynghori arno.
- Fel nifer o gyrff cyhoeddus, mae'r Comisiwn yn wynebu risgiau ymosodiadau seiber. Er mwyn helpu i ddiogelu rhag ymosodiadau o'r fath, rydym yn buddsoddi yn ein systemau. Rydym wedi symud ein seilwaith TG i'r cwmwl ac wedi buddsoddi mewn seiberddiogelwch, gan roi sylfaen dechnoleg gadarn i ni a fydd yn ein galluogi i ganolbwyntio ar systemau corfforaethol allweddol.
- Gwnaethom baratoi cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24, a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Llefarydd ym mis Mawrth 2023.
Gwaith parhaus ac yn y dyfodol
- Byddwn yn parhau i symud ein canllawiau i fformat newydd mwy hygyrch ar-lein, a bydd yr holl ganllawiau newydd ar gyfer etholiadau 2024 ar gael yn y ffordd hon.
- Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno system ar-lein wleidyddol newydd ar gyfer cofrestru pleidiau gwleidyddol a chyflwyno gwybodaeth ariannol yn lle'r system gyfredol, a byddwn yn parhau i weithio gyda phleidiau ac ymgyrchwyr ar y camau nesaf.
- Rydym yn cynnal rhaglen o hyfforddiant ar gyfer rheolwyr cyllidebau mewnol ac yn gwella systemau i ddarparu data amser reol ar wariant i reolwyr cyllidebau er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau gwell.