Gweithgarwch galluogi: Sefydliad medrus lle y caiff amrywiaeth ei werthfawrogi

Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni

Mae'r system etholiadol yn dibynnu ar y Comisiwn Etholiadol yn gweithredu fel corff annibynnol amhleidiol, ac felly rydym yn gosod safonau uchel iawn i'n hunain o safbwynt ein huniondeb. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y cawn ein parchu am ein harbenigedd, a bod ein cyngor a'n penderfyniadau yn rhydd rhag tuedd. O ystyried ein rôl unigryw, mae angen i'n huniondeb fod yn glir ac yn amlwg yn yr hyn a wnawn.