Ein pobl

Cysylltiadau staff ac ymgysylltu â nhw

Mae staff ymroddedig ac arbenigol y Comisiwn wedi'u lleoli ar draws ein pedair swyddfa neu'n gweithio gartref. Mae cylchlythyrau wythnosol a diweddariadau gan y Prif Weithredwr, digwyddiadau i'r holl staff, sesiynau ‘dysgu dros ginio’ a'r fewnrwyd yn galluogi'r staff i gadw mewn cysylltiad a rhannu diweddariadau corfforaethol.

Mae grŵp ymgysylltu â staff yn cyfarfod bob chwe wythnos i drafod materion corfforaethol a diwylliant y Comisiwn, gan geisio casglu safbwyntiau a gwybodaeth gan bob tîm a lefel. Ategir hyn gan gyfarfodydd prosiect rheolaidd â thimau gwahanol, cyfarfodydd tîm, a sesiynau dal i fyny â rheolwyr llinell.

Ym mis Mehefin 2023, cynhaliodd y Comisiwn ddigwyddiad i'r holl staff, a roddodd gyfle i'r sefydliad gyfarfod a thrafod ei nod a'i flaenoriaethau a dathlu llwyddiannau.


Mae gan y Comisiwn undeb gweithgar. Er y cafwyd anghydfod masnach swyddogol mewn perthynas â setliadau cyflog eleni, roedd deialog reolaidd â'r rheolwyr am faterion sy'n bwysig i'r staff ac aelodau.

Gwnaethom gwblhau ein harolwg staff diweddaraf ym mis Tachwedd 2023 ac ymatebodd 85% o gyflogeion iddo. Ein sgôr ymgysylltu â chyflogeion oedd 63 (allan o 100), sydd ychydig yn is na'r llynedd ond yn unol â chyfartaledd y Gwasanaeth Sifil (61). Roedd ein sgoriau yn cymharu'n ffafriol â meincnod y Gwasanaeth Sifil (2022) mewn meysydd lle roedd ein pobl yn cytuno â'r canlynol:

  • eu bod yn falch o ddweud wrth eraill eu bod yn gweithio i'r Comisiwn (71% o gymharu â 60%)
  • y byddent yn argymell y Comisiwn fel lle i weithio (68% o gymharu â 56%).

Ymhlith y meysydd lle nad oedd ein sgoriau'n cymharu gystal â meincnod y Gwasanaeth Sifil a lle y mae angen i ni wneud gwelliannau roedd y rheini lle roedd pobl yn cytuno â'r canlynol:

  • eu bod yn credu bod y Comisiwn yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol (65% o gymharu â 78%)
  • maent yn credu bod cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa yn y Comisiwn (46% o gymharu â 57%)

Dangosyddion perfformiad

DangosyddTarged2023-34
Cynnal y sgôr llesiant staff yn yr arolwg staff77%77%
Cynnal y sgôr ymgysylltu â staff yn yr arolwg staff67%66%

Iechyd a diogelwch galwedigaethol

Caiff ein polisi iechyd a diogelwch ei adolygu'n flynyddol. Mae gennym weithdrefnau, canllawiau ac asesiadau risg ar waith hefyd i gwmpasu ein gweithgareddau craidd. Mae grŵp iechyd a diogelwch yn goruchwylio ein trefniadau. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd i'r uwch-grŵp arwain. Fodd bynnag, rheolwyr pobl sy'n bennaf cyfrifol am iechyd a diogelwch.

Rydym yn cychwyn archwiliadau iechyd a diogelwch annibynnol o'n safleoedd bob blwyddyn, sy'n cynnwys archwilio amgylcheddau gwaith ac adolygu systemau rheoli diogelwch. Mae'r archwiliadau hyn yn dweud wrthym a yw ein trefniadau yn addas ac yn tynnu sylw at unrhyw welliannau y mae angen i ni eu gwneud. Yn 2023/24, gwnaethom y canlynol:

  • gosod dyfeisiau newydd i amddiffyn rhag ymchwydd pŵer yn y swyddfa yn Llundain
  • cynnal tridiau o brofion dyfeisiau cludadwy ar geblau gliniaduron staff yn Llundain
  • gosod goleuadau LED a system aerdymheru newydd yn y swyddfeydd newydd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
  • darparu cadeiriau orthopedig i aelodau o staff yn dilyn asesiadau gan yr adran Iechyd Galwedigaethol
  • nodi ystafelloedd yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Belfast i aelodau benywaidd o staff fwydo ar y fron/tynnu llaeth yn breifat
  • gosod bleinds newydd yn y swyddfa yn Llundain sydd wedi'u dylunio i adlewyrchu golau'r haul tuag allan er mwyn helpu i ostwng y tymheredd yn y swyddfa.