Canolbwyntiodd ein gwaith yng Ngogledd Iwerddon dros y flwyddyn ddiwethaf ar gynnal etholiadau lleol Gogledd Iwerddon ym mis Mai 2023 a pharatoi ar gyfer etholiad cyffredinol yn y DU. Cynhaliwyd y gwaith hwn yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd, gyda'r broses barhaus o roi'r Ddeddf Etholiadau ar waith a'r Cynulliad yn dychwelyd ym mis Chwefror 2024 yn dilyn ataliad am ddwy flynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom gefnogi'r Prif Swyddog Etholiadol, pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, pleidleiswyr a'r gymuned etholiadol ehangach ledled Gogledd Iwerddon i ddeall y newidiadau yn sgil y Ddeddf Etholiadau a pharatoi ar eu cyfer, a chynnal cynlluniau wrth gefn cyfredol ar gyfer etholiad annisgwyl.

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

  • Gwnaethom helpu i gynnal etholiadau lleol Gogledd Iwerddon ym mis Mai 2023 yn llwyddiannus. Canfu ein hymchwil bod 97% o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses o bleidleisio.
  • Gwnaethom gynnal ymgyrch cofrestru pleidleiswyr yn ystod y cyfnod cyn yr etholiadau lleol, gan ymgymryd â hysbysebion y telir amdanynt, gweithgarwch yn y wasg a gweithgarwch partneriaeth. Roedd cyfanswm o 1,380,372 o bobl wedi'u cofrestru i bleidleisio, a oedd yn gynnydd o 1,305,553 yn yr etholiadau cynghorau lleol diwethaf yn 2019.
  • Yn dilyn yr etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon, gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn adlewyrchu'r data a'r dystiolaeth a gasglwyd ar bleidleisio, ymgyrchu a chynnal yr etholiad. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion i wella'r system ymhellach.
  • Gwnaethom gyhoeddi ein hasesiad o gywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon ym mis Medi 2023.
  • Mewn partneriaeth â'r Swyddfa Etholiadau, gwnaethom gynhyrchu taflen ffeithiau i helpu pleidleiswyr ac ymgyrchwyr i ddeall y newidiadau'r Ddeddf Etholiadau a pharatoi ar eu cyfer.
  • Gwnaethom symud i weithle modern newydd yn Belfast pan ddaeth ein les yn ein swyddfa flaenorol i ben.
  • Gwnaethom ddatblygu adnoddau ymgysylltu democrataidd newydd ar gyfer ysgolion a darparwyr dysgu. Cynhaliwyd Wythnos Croeso i Dy Bleidlais ar ddiwedd mis Ionawr 2024, a chymerodd dros 20 o ysgolion, prifysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Gogledd Iwerddon ran yn yr wythnos honno.
  • Canfu ein hadroddiad ar etholiadau mis Mai 2023 fod ymgeiswyr yng Ngogledd Iwerddon yn parhau i fynegi pryderon am aflonyddu. Gan adeiladu ar y canllawiau ar y cyd a gyhoeddwyd i helpu ymgeiswyr i adnabod ymddygiad bygythiol a throseddol ac ymateb iddo, gwnaethom lunio, mewn partneriaeth â'r Swyddfa Etholiadau, god ymddygiad newydd i ymgyrchwyr. Dechreuodd cyfnod ymgynghori ar y Cod ym mis Mawrth 2024. Pan gaiff ei gyhoeddi, bydd y Cod diwygiedig yn rhoi safonau y cytunwyd arnynt i bleidiau gwleidyddol mewn perthynas ag ymddygiad derbyniol cyn y diwrnod pleidleisio ac yn ystod y diwrnod pleidleisio.
  • Er gwaethaf diffyg Cynulliad gweithredol, parhaodd Panel Pleidiau Gwleidyddol Gogledd Cymru, i gyfarfod yn ystod y flwyddyn. Mae'r panel yn darparu cyswllt pwysig ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng y Comisiwn, y Prif Swyddog Etholiadol a phleidiau gwleidyddol.
  • Cynnal ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr ar ei newydd wedd cyn etholiad cyffredinol disgwyliedig yn y DU.

1.38m nifer y bobl a gofrestrodd i bleidleisio yn ystod ymgyrch y Comisiwn.

Gwaith parhaus ac yn y dyfodol

  • Adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i ddarparu adnoddau addysgol, a cheisio sefydlu partneriaid newydd i hyrwyddo a gwella llythrennedd gwleidyddol ar draws y ddemograffeg sy'n llai tebygol o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
  • Parhau i gefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â'r gyfraith drwy gynnal seminarau arweiniad a chymorthfeydd cynghori.
  • Cefnogi system cyllid gwleidyddol dryloyw drwy gyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol a datganiadau blynyddol o gyfrifon.
  • Mewn partneriaeth â'r Swyddfa Etholiadau, cyhoeddi cod ymddygiad diwygiedig i ymgyrchwyr a fydd yn rhoi safonau y cytunwyd arnynt i bleidiau gwleidyddol mewn perthynas ag ymddygiad derbyniol cyn y diwrnod pleidleisio ac yn ystod y diwrnod pleidleisio.
  • Parhau i roi cymorth ac arweiniad i'r Swyddfa Etholiadol wrth i baratoadau ar gyfer etholiad cyffredinol yn y DU barhau, yn enwedig mewn perthynas
  • Parhau i roi cyngor arbenigol a chynnig argymhellion i wella'r system gyfredol, gan gynnwys cyflwyno'r achos dros ddiwygio'r canfasiad, y Rhif Cofrestru Digidol a'r broses cofrestru etholiadol ehangach yng Ngogledd Iwerddon.

Ymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol yng Ngogledd Iwerddon, ac rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Nod ein rhaglen o bartneriaethau yw gweithio gyda grwpiau sy'n tangofrestru a rhoi gwybod i bleidleiswyr sut i fwrw eu pleidlais yn hyderus.

O dan ddeddfwriaeth newydd, disgwylir i gomisiynwyr iaith ar gyfer Sgoteg Wlster a'r Wyddeleg gael eu penodi gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Iwerddon, a byddant yn gyfrifol am ddatblygu safonau arferion gorau a hyrwyddo'r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau cyhoeddus. Bydd y Comisiwn yn monitro hyn mewn perthynas â'i waith a'i wasanaethau ei hun.