Mae gwasanaethau etholiadol lleol yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol y mae perygl y byddant yn effeithio ar eu gallu i gynnal etholiadau a refferenda effeithiol

Rydym yn helpu awdurdodau lleol a gweinyddwyr etholiadau i ymateb i'r pwysau hyn. Rydym hefyd yn helpu i ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel i bleidleiswyr, ac i ddatblygu gwasanaethau etholiadol lleol cadarn drwy wneud y canlynol:

  • pennu safonau perfformiad ar gyfer gwasanaethau etholiadol lleol
  • darparu canllawiau a chymorth hygyrch i weinyddwyr etholiadau
  • helpu gwasanaethau etholiadol lleol i fod yn fwy cadarn
  • sicrhau bod y system etholiadol yn gweithio'n effeithiol.

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

  • Gwnaethom gasglu data gan awdurdodau lleol am y broses o roi ID pleidleiswyr ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio ac arolygu'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu etholiadau er mwyn deall eu profiad. Gwnaeth y data hyn lywio'r argymhellion a gyflwynwyd gennym i Lywodraeth y DU fel rhan o'n hadroddiadau ar ôl etholiadau mis Mai 2023 er mwyn gwneud prosesau etholiadol yn fwy hygyrch ac yn fwy ymarferol.
  • Gwnaeth y broses o roi'r Ddeddf Etholiadau ar waith barhau i gael effaith sylweddol ar weinyddwyr etholiadau, a gwnaethom weithio i'w helpu i ddeall y newidiadau hyn a pharatoi ar eu cyfer. Roedd hyn yn cynnwys diweddaru canllawiau er mwyn adlewyrchu newidiadau i reolau pleidleisio drwy'r post, drwy ddirprwy ac o dramor.
  • Gwnaethom lunio canllawiau cynhwysfawr ar baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai 2024 a'u cynnal, gyda'r nod o gefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadau. Datblygwyd adnoddau hefyd i helpu awdurdodau lleol i gyfleu newidiadau'r Ddeddf Etholiadau i'w preswylwyr.
  • Cynigiwyd cymorth, adnoddau a chyngor rhagweithiol wrth i’r gymuned etholiadol baratoi ar gyfer yr etholiadau a drefnwyd ym mis Mai 2024 a’r etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024, yn enwedig mewn perthynas â newidiadau i’r Ddeddf Etholiadau.
  • Diweddarwyd canllawiau ar gyfer yr etholiadau a drefnwyd ym mis Mai 2024 a’r etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf 2024, cyflwynwyd y rhain mewn fformat HTML ar gyfer hygyrchedd, i weinyddwyr, ymgeiswyr ac asiantiaid.
  • Gwnaethom sefydlu gweithgor gydag awdurdodau lleol i drafod cydweithredu ar gyfleu newidiadau i'r cyhoedd, a'r ffordd orau o gydweithio.
  • Gwnaethom gynnal gweminar i Swyddogion Canlyniadau ledled Lloegr ym mis Tachwedd, gan ddarparu gwybodaeth am eu cyfrifoldebau a'r heriau sy'n wynebu'r sector yn ystod y cyfnod cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf.
  • Gwnaethom barhau i ddefnyddio'r safonau perfformiad i gefnogi a herio'r rhai sy'n cynnal etholiadau, er mwyn helpu i sicrhau bod gwasanaethau etholiadol o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n gyson i bleidleiswyr, ac i ymdrin â'r heriau hysbys o ran cadernid.
  • Gwnaethom weithio'n agos gyda'r Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadol dros y flwyddyn er mwyn nodi heriau yn ymwneud â chadernid a chapasiti a helpu i fynd i'r afael â nhw, gan gynnwys mewn perthynas â lefelau staffio gorsafoedd pleidleisio a chyflenwyr.

Survey responses

24% nifer yr awdurdodau lleol a ymatebodd i'n harolwg a ddywedodd eu bod wedi cael cryn anawsterau wrth recriwtio staff gorsafoedd pleidleisio.

Electoral administrator

Aeth yr etholiad rhagddo'n ddidrafferth iawn i ni, er mai nifer isel a bleidleisiodd gyda chyfraddau eithaf uchel yn pleidleisio drwy'r post. Yr hyn sy'n fwy ansicr yw sut y byddem wedi ymdrin â niferoedd sylweddol uwch ar gyfer etholiad lle bydd llawer mwy yn pleidleisio, megis etholiad cyffredinol.

Gweinyddwr etholiadau

Performance indicators

DangosyddTarged2023-24
Cyngor cywir i Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac ymgeiswyr ac asiantiaid o fewn tri diwrnod (Prydain Fawr)100%98.63%
Cyhoeddi cynhyrchion canllawiau cywir ac amserol ar gyfer gweinyddwyr etholiadau100%100%

Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn

  • Ceisio adborth ar ganllawiau a gyhoeddwyd ar gyfer mis Mai 2024 a nodi gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu adnoddau i gefnogi gweinyddwyr yn y ffordd orau.
  • Casglu data gan weinyddwyr etholiadau yn ein hymchwil ar ôl etholiadau er mwyn deall eu profiadau fel y gellir adlewyrchu'r rhain mewn argymhellion ac adnoddau yn y dyfodol.
  • Parhau i ddefnyddio safonau perfformiad i gefnogi darpariaeth gyson gan weinyddwyr etholiadau.
  • Creu tudalennau gwe newydd ar gyfer y cyhoedd sy'n darparu gwybodaeth am weithio mewn gorsafoedd pleidleisio, ynghyd ag adnoddau i gefnogi timau gwasanaethau etholiadol i recriwtio staff.
  • Parhau i gynnull y rhai sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi cadernid gweinyddwyr, gan gynnwys cyrff llywodraethu.
  • Parhau i ddarparu cyfleuster canfod gorsafoedd pleidleisio gyda gwybodaeth am etholiadau, a sicrhau bod y rhain ar gael i gyfryngau allweddol, er mwyn lliniaru'r pwysau ar dimau gwasanaethau cwsmeriaid cynghorau lleol.