Amcan pedwar: Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
Caiff ein system etholiadol ei hategu gan fframwaith cyfreithiol sy'n pennu sut y caiff etholiadau eu cynnal. Mae'n nodi pwy gaiff bleidleisio a'r amryw ffyrdd y gallant fwrw eu pleidlais
Mae'r fframwaith yn nodi pwy all sefyll etholiad, pwy all ymgyrchu a faint y gallant wario, ac mae'n nodi sut y dylai gweinyddwyr etholiadau gynnal etholiadau, gan gynnwys cyfrif a datgan y canlyniadau.
O ystyried ei heffaith drawsbleidiol, rydym am weithio gyda seneddwyr a llywodraethau i wella cyfraith etholiadol fel ei bod yn addas at y diben; yn lleihau cymhlethdod, aneffeithlonrwydd a risg; ac yn hwyluso arloesedd. Byddwn yn gweithio gydag eraill i ddiwygio cyfraith etholiadol drwy wneud y canlynol:
- cefnogi proses effeithiol o ystyried deddfwriaeth a'i rhoi ar waith yn seneddau'r DU
- ymgysylltu ag agendâu diwygio cyfraith etholiadol llywodraethau er mwyn sicrhau bod diwygiadau wedi'u cynllunio'n dda ac yn cael eu rhoi ar waith yn dda
- rhoi cyngor arbenigol ar ymarferoldeb ac effaith unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i wella'r system etholiadol.
- cyflwyno'r achos dros ddiwygiadau yn y dyfodol, yn seiliedig ar dystiolaeth glir o farn ac anghenion rhanddeiliaid, ac o'r manteision y byddai'r newidiadau arfaethedig yn eu cyflwyno.
Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn
- Gwnaethom barhau i gyflwyno'r achos i lywodraethau a seneddau'r DU dros ddiwygio cyfraith etholiadol er mwyn ei gwneud yn llai cymhleth, a lleihau'r aneffeithlonrwydd a'r risgiau i'n system etholiadol.
- Gwnaethom gefnogi seneddwyr i ystyried ystod o faterion sy'n ymwneud â'r broses ddemocrataidd, gan gynnwys newid deddfwriaethol. Gwnaethom ddarparu briffiau ysgrifenedig, briffiau un i un ac i grwpiau, a rhoi tystiolaeth i bwyllgorau dethol seneddol.
- Yn dilyn etholiadau mis Mai 2023 yng Ngogledd Iwerddon, gwnaethom argymhellion ar y rhif cofrestru digidol, sy'n parhau i beri problemau i'r rhai sydd am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Yn Lloegr, gwnaethom argymhellion penodol i Lywodraeth y DU ar gyfer gwella hygyrchedd y gofyniad ID pleidleiswyr.
- Gwnaethom gyflwyno cynigion polisi ar gyfer gwelliannau i gyfraith etholiadol a gweithdrefnau rheoleiddio cyllid gwleidyddol i bleidiau eu hystyried wrth iddynt ddatblygu eu hagendâu cyn etholiad cyffredinol yn y DU.
- Gwnaethom adrodd ar ddeisebau adalw ac is-etholiadau, gan eirioli dros welliannau i'r broses.
- Wrth i'r gyfres olaf o fesurau'r Ddeddf Etholiadau fynd drwy Senedd y DU, gwnaethom adolygu a chynghori ar yr offerynnau statudol er mwyn sicrhau eu bod mor glir ac effeithiol â phosibl.
- Gwnaethom hefyd gyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Ffyniant Bro i gofrestru etholiadol, gan roi argymhellion ar foderneiddio'r system drwy brosesau mwy awtomataidd er mwyn gwneud y cofrestrau yn fwy cywir a chyflawn.
- Gwnaethom roi tystiolaeth ar lafar a thystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Cyd-bwyllgor ar y Strategaeth Diogelwch Gwladol i ‘Amddiffyn Democratiaeth’. Nododd ein tystiolaeth faterion pwysig y mae angen i'r rhai sy'n gysylltiedig ag uniondeb etholiadau eu monitro a mynd i'r afael â nhw, megis ymgeiswyr sy'n dioddef achosion o gam-drin a bygylu, a phryderon ynglŷn â thryloywder a chywirdeb ymgyrchu gwleidyddol, yn enwedig ar-lein.
Chair of the Levelling Up, Housing and Communities Committee
Etholiadau yw conglfaen ein democratiaeth ac, eto i gyd, rydym wedi'n llethu gan system aneffeithiol ac aneffeithlon, lle caiff miliynau o bobl eu difreinio oherwydd eu bod wedi'u cofrestru'n anghywir neu am nad ydynt ar y gofrestr etholiadol.
Dangosyddion perfformiad
| Dangosydd | Targed | 2023-24 |
|---|---|---|
| Cyhoeddi adroddiadau amserol ar etholiadau/refferenda | 100% | 100% |
| Ymatebion amserol i gynigion polisi ac ymgynghoriadau deddfwriaethol | 100% | 100% |
| Ymateb i ohebiaeth gan randdeiliaid etholedig (Aelod o'r Senedd, Aelod Seneddol, Aelod o Senedd yr Alban ac Aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol) o fewn 10 diwrnod gwaith | 100% | 98.44% |
Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn
- Parhau i gyflwyno'r achos dros ddiwygio etholiadol, gan gynnwys gyda phleidiau a Llywodraeth a Senedd newydd i'r DU, er mwyn sicrhau eu bod yn deall yr heriau sy'n wynebu'r system bresennol a'r cyfleoedd ar gyfer gwella.
- Cefnogi seneddwyr i ystyried diwygiadau i'r system etholiadol, gan gynnwys drwy friffiau a chyfarfodydd.
- Adrodd ar etholiadau, is-etholiadau a deisebau adalw yn y dyfodol, gan wneud argymhellion ar y system fel y bo'n briodol.
- Adolygu'r broses o roi mesurau'r Ddeddf Etholiadau ar waith a gwneud argymhellion yn ôl yr angen.