Mae'r Comisiwn Etholiadol yn ymrwymedig i egwyddor cyfle cyfartal, gwerth amrywiaeth a buddion cynhwysiant

Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant oherwydd bod arloesedd, dawn a gweithluoedd creadigol yn ffynnu mewn timau amrywiol a gaiff eu harwain yn dda. Bydd gwneud y Comisiwn yn fwy amrywiol yn dangos y gallwn ddatblygu i fodloni gofynion byd sy'n newid wrth barhau i gynrychioli'r gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu. Rydym hefyd yn gwasanaethu democratiaeth amrywiol ledled y DU, ac yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn yr holl weithgareddau a gynhelir gennym gyda phleidleiswyr a rhanddeiliaid eraill.

Fel unrhyw sefydliad, mae gennym amrywiaeth o rwymedigaethau statudol i sicrhau ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn unol â'n cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998, sy'n gwahardd gwahaniaethu ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da ar draws amrywiaeth o nodweddion gwarchodedig. Ond nid dim ond materion cydymffurfiaeth yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gwyddom fod mwy y gallwn ei wneud bob amser i adlewyrchu amrywiaeth yr etholaeth yn llawn yn ein gwaith i gefnogi democratiaeth, ac rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu'r nodau hynny.

Yr hyn rydym yn gweithio i'w gyflawni

Rydym am i'n gweithlu deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi i wireddu ei botensial. Rydym yn gweithio i gyflawni'r canlynol:

  • rhoi arferion gwaith wedi'u hadnewyddu ar waith i adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a'n diwylliant
  • denu, cadw a datblygu'r bobl sydd eu hangen arnom
  • cynnal a gwella safonau rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl
  • ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwaith

Gwaith a wnaed i gyflawni'r nod hwn

  • Gwnaethom barhau i roi ein Strategaeth Pobl ar waith, sy'n sail i'n Cynllun Corfforaethol ac yn nodi ffyrdd cynhwysol o weithio sy'n berthnasol i bawb. Roedd hyn yn cynnwys symleiddio ein dull recriwtio, gwella ein proses sefydlu, a chynnig mwy o gyfleoedd datblygu i staff ac oriau dysgu a gaiff eu cynnal yn fewnol.
  • Gwnaethom adnewyddu ein cynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel ei fod yn canolbwyntio mwy ar gamau gweithredu a chanlyniadau ac yn fwy seiliedig ar dystiolaeth. Drwy'r cynllun, ein nod yw ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn.
  • Byddwn yn chwilio am ffyrdd o godi ymwybyddiaeth pleidleiswyr anabl o'r cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael, yn enwedig mewn gorsafoedd pleidleisio, ac yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n polisïau, megis y Strategaeth Ymgysylltu â Phleidleiswyr.
  • Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyflogwyr Cynhwysol, gan roi mynediad i staff at weminarau ar-lein, blogiau, taflenni ffeithiau a llawer mwy. Rydym hefyd yn ymrwymedig i'r Siarter Hil yn y Gwaith a'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
  • Gwnaethom gynnal adolygiad ar ôl gweithredu o'n canllawiau a'n templed ar gyfer sgrinio cydraddoldeb, er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben o hyd a byddwn yn cyflwyno hyfforddiant ychwanegol er mwyn rhoi prosesau sgrinio cydraddoldeb ar waith ymhellach.
  • Rydym wedi cyflwyno calendr cynhwysiant, yn dathlu digwyddiadau pwysig i'n staff, mae enghreifftiau yn cynnwys Diwali, Ramadan, mis hanes LHDT+ a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
  • Mae staff wedi cael hyfforddiant ar bynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, megis y menopos, data amrywiaeth, recriwtio cynhwysol a rhagfarn ddiarwybod.

Dangosyddion perfformiad

DangosyddTarged2023-24
Cyfradd cwblhau ar gyfer data monitro cydraddoldeb85%91.18%

Data ar ethnigrwydd y gweithlu

Gwaith parhaus a gwaith yn y dyfodol i gyflawni'r nod hwn

  • Parhau i gefnogi staff i ymgymryd â hyfforddiant sy'n berthnasol i'w set sgiliau a'u profiad.
  • Cynnal sgyrsiau am ddoniau a chynllunio ar gyfer olyniaeth er mwyn llywio dyfodol ein llif doniau, gan sicrhau parhad busnes a bod timau ac unigolion yn barod i gamu ymlaen pan fo angen.
  • Rhoi hyfforddiant i ‘reolwyr newydd’ ar waith, gan sicrhau bod gan reolwyr sydd newydd eu recriwtio a rheolwyr presennol y sgiliau sydd eu hangen arnynt i arwain tîm.
  • Cyflwyno cynlluniau mentora a hyfforddi, wedi'u teilwra i anghenion y Comisiwn, gan ganolbwyntio'n arbennig ar fentora o chwith, hyfforddiant ‘paratoi i gamu i fyny’ a hyfforddiant dychwelyd i'r gwaith i unrhyw un sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb hirdymor, megis mamolaeth, tadolaeth neu salwch.
  • Lansio system Adnoddau Dynol ac olrhain ymgeiswyr newydd er mwyn cryfhau ein gallu i olrhain a monitro ceisiadau a gwella llwyddiant ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Parhau i weithio'n agos gyda'n hasiantaethau recriwtio a chwmnïau chwilio am swyddogion gweithredol er mwyn sicrhau bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar frig eu chwiliad, ac mai dim ond rhestrau byr amrywiol a chynhwysol gaiff eu derbyn.
  • Parhau gyda'n hymrwymiad i recriwtio dienw, lle caiff unrhyw ddata personol y gellir adnabod rhywun ohonynt – megis enw, rhywedd, dyddiadau addysgol gorfodol – eu dileu o'r cais cyn cael ei anfon at y rheolwr cyflogi.
  • Ei gwneud yn ofynnol i unrhyw reolwr sy'n ymwneud â recriwtio ymgymryd â hyfforddiant newydd ar recriwtio a hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod.
  • Byddwn yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn ein hymrwymiadau o dan y Siarter Hil yn y Gwaith a'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.
  • Byddwn yn lansio hwb gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar dudalennau'r fewnrwyd – gan roi gwybodaeth ac adnoddau ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys deddfwriaeth Cydraddoldeb y DU, nodweddion gwarchodedig, prosesau sgrinio cydraddoldeb, straeon personol a llawer mwy.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y broses ddemocrataidd

Rydym yma i sicrhau y gall pawb sy'n gymwys gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd – boed hynny fel pleidleisiwr , ymgyrchydd neu ymgeisydd. Felly mae cydnabod anghenion poblogaeth ac etholaeth amrywiol, ac ymateb iddynt, wrth wraidd ein gwaith ac rydym yn ymrwymedig i wneud hyn.

Gwnaethom barhau i wasanaethu democratiaeth amrywiol yn ein gweithgarwch allanol ar gyfer pleidleiswyr, gan gynnwys:

  • Mae ein gwaith cyhoeddus i ymgysylltu â phleidleiswyr yn cynnwys cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cymunedau gwahanol ledled y DU, a hynny'n uniongyrchol a thrwy bartneriaid. Ar y cyd ag awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil partner, rydym wedi gweithio i gyrraedd ystod amrywiol o bleidleiswyr er mwyn sicrhau eu bod wedi cael y wybodaeth wedi'i theilwra yr oedd ei hangen arnynt i gymryd rhan, yn y fformatau a'r ieithoedd y gallant eu deall.
  • ae hyn wedi cynnwys gwaith parhaus gyda phartneriaid sy'n cynrychioli grwpiau nad yw llawer ohonynt yn berchen ar ID er mwyn helpu eu cynulleidfaoedd i ddeall y gofyniad ID pleidleiswyr, megis cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl draws ac anneuaidd.
  • Rydym hefyd wedi gweithio gydag elusennau anabledd partner i ymchwilio i'r rhwystrau y mae eu cynulleidfaoedd yn eu hwynebu ac i nodi camau y gallwn eu cymryd i'w dileu drwy ein negeseuon a'n gwaith addysg. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy'n ystyried anghenion pobl â salwch meddwl (gyda'r Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl), pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth (gyda Mencap), a phobl ddal a rhannol ddall (gyda Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion).
  • Rydym wedi gweithio i sicrhau bod deunyddiau ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn adlewyrchu amrywiaeth y cynulleidfaoedd rydym yn eu cynrychioli, a'u bod mor gynrychioliadol a chynhwysol â phosibl. Mae hyn yn cynnwys ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr ar ei newydd wedd ac adnoddau sy'n dangos aelodau o'r cyhoedd yn cynrychioli grwpiau y gwyddom eu bod wedi'u tangofrestru'n aml a/neu 42 sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i gymryd rhan, gan gynnwys pobl sy'n ddigartref a phobl ag anabledd dysgu.
  • Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein gwefan a'n cyhoeddiadau mor hygyrch â phosibl.