Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar ein gwybodaeth bresennol a nifer o dybiaethau. Rydym yn disgwyl i lywodraethau’r DU gychwyn neu barhau â rhaglenni arwyddocaol o newid deddfwriaethol. Mae’r newidiadau sy’n deillio o hyn yn debygol o effeithio ar sut mae pleidleiswyr, gweinyddwyr, ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr yn cymryd rhan yn ein prosesau etholiadol. Rydym hefyd yn disgwyl i’r rheolau sy’n llywodraethu cyllid gwleidyddol esblygu.

Rhaid cynnal etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU erbyn 15 Awst 2029 fan bellaf – pe bai’n cael ei gynnal yn gynharach o lawer, byddai hyn yn cael effaith gyfatebol ar ein tybiaethau a’n cynlluniau. Os bydd ein tybiaethau’n anghywir, byddwn yn adolygu ein blaenoriaethau a’n gofynion cyllido yn flynyddol.

1. Cefnogi pleidleiswyr a chynyddu cyfranogiad

Yr her 

Mae nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau yn parhau i ostwng, ac mae nifer y bobl sydd wedi ymddieithrio neu’n apathetig ar gynnydd. Er bod diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ac ymgyrchu negyddol yn cyfrannu at y tueddiadau hyn, nid oes gan rai pobl yr hyder na’r wybodaeth i gymryd rhan. I eraill, mae cofrestru a bwrw eu pleidlais yn dal yn heriol, yn enwedig i’r rheini sydd ag anghenion mynediad

Sut byddwn ni’n mynd i’r afael â’r her hon

Gallwn gynyddu ymgysylltiad drwy roi mwy o hyder a gwybodaeth i bobl gymryd rhan, a thrwy ddarparu gwybodaeth wedi’i theilwra i bobl ifanc a grwpiau eraill sydd naill ai wedi’u tan-gofrestru neu sy’n anodd eu cyrraedd. Mae’r sylfaen dystiolaeth yn dangos bod ein gwaith ymgysylltu presennol â phleidleiswyr yn cael effaith gadarnhaol, ond mae angen i ni wneud mwy. Byddwn yn ehangu ein gwaith addysg a phartneriaeth, gan gryfhau’r rhaglenni presennol wedi’u targedu sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig os bydd pleidleisiau i bobl 16 oed yn cael eu cyflwyno ledled y DU. Byddwn yn defnyddio profiad yng Nghymru a’r Alban. Byddwn yn parhau 
i weithio gyda phartneriaid cymdeithas sifil, gan gyd-greu deunyddiau sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion y grwpiau sydd wedi’u tan-gofrestru neu sy’n anodd eu cyrraedd y maent yn eu cefnogi, ac i fynd i’r afael â thwyll etholiadol.

Byddwn yn parhau i gynnal ymgyrchoedd wedi’u targedu i roi gwybod i bleidleiswyr am yr angen i gofrestru ar gyfer etholiadau sydd ar y gweill. Os cyflwynir cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig neu gyda chymorth, byddwn yn edrych o’r newydd ar ein cyfathrebiadau cofrestru a’n hymgyrchoedd i ganfod pa bobl sy’n cael eu cynnwys drwy brosesau awtomatig, a phwy sy’n cael eu gadael ar ôl. Ym mlwyddyn olaf y cynllun hwn, byddwn yn ystyried a oes angen ymgyrchoedd cofrestru neu ymwybyddiaeth o ddulliau adnabod pleidleiswyr, gan sicrhau ein bod yn darparu’r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o ymgysylltu â phleidleiswyr a’u hysbysu.

Byddwn yn cynnal adolygiad o’r system etholiadol bresennol o’r dechrau i’r diwedd i wella canlyniadau i bob pleidleisiwr. Nod y gwaith hwn yw cael gwared ar rwystrau mynediad a chynyddu cyfranogiad grwpiau sydd wedi’i tan-gofrestru ac sy’n anodd eu cyrraedd. Byddwn yn cefnogi pleidleiswyr i ddatblygu sgiliau gwleidyddol a llythrennedd yn y cyfryngau, gan ddiogelu ein democratiaeth drwy feithrin ymddiriedaeth a hyder, a lleihau effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth. Gan weithio gyda chynghorau lleol, byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth hygyrch sy’n benodol i godau post i bob pleidleisiwr yn y DU am etholiadau sydd ar y gweill, a byddwn yn gwella ein hadnoddau digidol i helpu pleidleiswyr.

Byddwn yn gweithredu’r safonau sy’n ymwneud â Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022, gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol rhanbarthol.

Manteision y byddwn yn eu darparu

  •  Bydd ein gwaith yn rhoi mwy o ddealltwriaeth a hyder i bleidleiswyr ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd, yn enwedig grwpiau sydd wedi’u tan-gofrestru neu sy’n anodd eu cyrraedd
  • Bydd yn cynyddu mynediad pleidleiswyr at wybodaeth ddibynadwy a data cyhoeddedig, a fydd yn ei dro yn helpu i lywio eu penderfyniadau.
  • Bydd ein gwaith yn cynyddu nifer y pleidleiswyr sy’n cofrestru, ymwybyddiaeth o ddulliau adnabod pleidleiswyr a’r nifer fydd yn manteisio ar Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr, ac rydym yn disgwyl y bydd hyn yn cyfrannu at fwy o gyfranogiad.
  • Bydd yn helpu pleidleiswyr i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan gynyddu ymddiriedaeth, ymgysylltiad a hyder yn y system ddemocrataidd.
  • Bydd yn lleihau’r rhwystrau rhag cyfranogi, gan gynyddu cynhwysiant ar gyfer y rheini sy’n anodd eu cyrraedd neu sydd ag anghenion mynediad.

2. Moderneiddio’r system etholiadol

Yr her 

Mae’r system etholiadol a’r fframwaith cyfreithiol sy’n sail iddi wedi esblygu mewn ffordd dameidiog. Mae’r system yn gymhleth ac nid yw’n gadarn. Mae hyn yn cyflwyno heriau sylweddol i dimau gwasanaethau etholiadol, sydd dan bwysau cynyddol i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon a mwy effeithiol. Mae’r heriau gweinyddol hyn hefyd yn golygu bod rhai pleidleiswyr yn cael problemau wrth geisio pleidleisio – er enghraifft pleidleiswyr tramor, a’r rheini nad ydynt ar y gofrestr etholiadol yng Ngogledd Iwerddon lle nad oes angen canfasio ond unwaith bob 10 mlynedd.

Sut byddwn ni’n mynd i’r afael â’r her hon

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar ddiwygio deddfwriaeth a byddwn yn parhau i eiriol dros gyfuno, symleiddio a moderneiddio cyfraith etholiadol. Rydym wedi ymrwymo o hyd i gefnogi timau gwasanaethau etholiadol, a byddwn yn arwain galwadau am newid i foderneiddio ymhellach y ffordd y gweinyddir etholiadau. Mae ein profiad o gyflawni ein rhaglen waith bresennol yn dangos yn glir bod angen mwy o gefnogaeth ar weinyddwyr ac ymgyrchwyr etholiadol i lywio drwy’r fframwaith etholiadol cymhleth. Byddwn yn parhau i osod safonau perfformiad heriol, gan helpu gweinyddwyr etholiadol i’w cyrraedd drwy gynyddu’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu a datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu arweiniad. Byddwn yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd a gwelliannau systemig drwy weithio gyda llywodraethau’r DU a chyflenwyr allweddol. Yn y pen draw, bydd y mentrau hyn yn ceisio meithrin mwy o wytnwch a chanlyniadau gwell i bob pleidleisiwr.

Byddwn yn parhau i eiriol dros welliannau i’r prosesau a ddefnyddir gan bleidleiswyr i gofrestru a phleidleisio. Os bydd Llywodraeth y DU yn deddfu i ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl i bobl ifanc 16 a 17 oed, byddwn yn dysgu o brofiad Cymru a’r Alban. Mae cofrestrau etholiadol cyflawn a chywir yn ofyniad angenrheidiol, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod 
diwygio cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl yn dysgu o gynlluniau peilot cofrestru awtomatig cyfredol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol arall. Byddwn yn adolygu’r broses ganfasio yng Ngogledd Iwerddon er mwyn cynnal hyder yn uniondeb y gofrestr etholiadol.

Manteision y byddwn yn eu darparu

  • Nod ein gwaith yw lleihau cymhlethdod y fframwaith cyfreithiol, gan leihau’r rhwystrau cyfreithiol sy’n atal y system rhag ymdopi â newidiadau cymdeithasol-wleidyddol. Bydd cyfuno, symleiddio a moderneiddio cyfraith a phrosesau etholiadol yn symleiddio’r broses o weinyddu etholiadau, yn gwneud etholiadau’n fwy hygyrch i bob pleidleisiwr, ac yn gwella dealltwriaeth a chydymffurfiad ymgyrchwyr â rheoliadau.
  • Bydd darparu mwy o fynediad at arweiniad a chefnogaeth yn cynyddu cydnerthedd gweinyddwyr etholiadol, gan eu helpu i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol sy’n diwallu anghenion ymgeiswyr a phleidleiswyr.
  • Bydd ehangu’r canllawiau a’r cymorth rydyn ni’n eu darparu i’r rheini rydyn ni’n eu rheoleiddio yn arwain at well dealltwriaeth a chydymffurfiaeth, a fydd yn ei dro yn gwella 
    ymddiriedaeth pleidleiswyr mewn cyllido etholiadau.
  • Yn y pen draw, bydd y gwaith hwn yn cynyddu ymgysylltiad, cynhwysiant a chyfranogiad, yn enwedig ar gyfer pleidleiswyr iau, pleidleiswyr tramor, pleidleiswyr ag anghenion mynediad, ac ymgeiswyr

3. Safeguarding and protecting the system

Yr her

Mae’r bygythiadau i’n democratiaeth yn cynyddu ac yn newid. Mae pleidleiswyr yn dod yn fwyfwy agored i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth – tuedd sy’n debygol o barhau – ac mae arferion ymgyrchu amheus yn parhau i danseilio ymddiriedaeth. Soniodd ymgyrchwyr am lefelau annerbyniol o gam-drin a bygythiadau yn etholiad cyffredinol Senedd y DU yn 2024, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ymgysylltu â phleidleiswyr. Mae menywod a rhai ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig yn llawer mwy tebygol o brofi’r gamdriniaeth a’r bygythiadau hyn, gan leihau parodrwydd rhai ymgeiswyr i sefyll am swydd gyhoeddus a chyfyngu ar y dewis i bleidleiswyr. Mae ymyriant tramor ar ffurf ymosodiadau seiber yn peri risg o darfu ar etholiadau neu’r system etholiadol ehangach. Mae angen cryfhau’r rheolaethau presennol ar roddion gwleidyddol i ddiogelu etholiadau rhag dylanwad tramor, i wella tryloywder, ac i roi mwy o hyder i bleidleiswyr yn uniondeb y system.

Sut byddwn ni’n mynd i’r afael â’r her hon

Gan weithio ar y cyd â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, yr heddlu, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), Ofcom ac eraill, rydym yn monitro ac yn cynghori ar y risgiau hyn bob dydd. Ond wrth i’r bygythiadau hyn gynyddu, mae angen i ni gryfhau ein hymateb a chryfhau’r adnoddau sydd ar gael i ni. Byddwn yn herio cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddwyr ar-lein i nodi a chael gwared ar gynnwys digidol 
sydd â’r nod o danseilio ein democratiaeth. Byddwn yn ceisio gwell safonau ymddygiad wrth ymgyrchu i gynnal ymddiriedaeth pleidleiswyr. Byddwn yn gweithio gyda’r heddlu, llywodraethau’r DU, pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i ganfod ac ymateb i achosion ac effaith camdriniaeth a bygythiadau, yn enwedig yng Nghynhadledd y Llefarydd sydd i ddod. Byddwn yn cryfhau amddiffyniadau yn erbyn bygythiadau seiber presennol a rhai 
sy’n dod i’r amlwg. Byddwn yn eiriol dros reolaethau llymach ar roddion gwleidyddol, ac i gau’r bylchau mewn perthynas â chyllid cwmnïau tramor a rhoddion gan gymdeithasau anghorfforedig. 

Byddwn yn parhau i sicrhau bod cyfreithiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn glir ac yn cael eu dilyn, gan sicrhau bod pleidiau ac ymgyrchwyr yn gallu cael gafael ar gymorth i ddeall rheoliadau yn y ffordd ac ar yr adeg sy’n gweithio orau iddyn nhw. Byddwn yn parhau i gyhoeddi data cyllid gwleidyddol cyflawn a chywir. Byddwn yn disodli’r gronfa ddata cyllid gwleidyddol ar-lein a’i ryngwyneb chwilio cyhoeddus, gan sicrhau bod y system newydd yn symleiddio’r profiad i’r rheini rydyn ni’n eu rheoleiddio, a bod data sy’n cael ei gyhoeddi yn rhoi mwy o dryloywder i bleidleiswyr.

Manteision y byddwn yn eu darparu

  • Nod y newidiadau hyn yw gwella hyder y cyhoedd yn uniondeb ein system etholiadol a sut mae ymgyrchoedd gwleidyddol yn cael eu hariannu – bydd ein gwaith yn arwain at fwy o ymddiriedaeth yng nghanlyniadau etholiadau.
  • Bydd ein gwaith yn helpu pleidleiswyr i ganfod camwybodaeth a thwyllwybodaeth, a bydd yn lleihau gweithgarwch sy’n cael effaith negyddol ar eu hyder yn ymddygiad ymgyrchwyr.
  • Drwy ddatblygu mwy o arbenigedd a gallu mewn deallusrwydd artiffisial (AI) ac offer digidol eraill, byddwn yn gallu monitro’r defnydd o dechnolegau sy’n dod i’r amlwg yn fwy effeithiol, gan roi mwy o sicrwydd i’r cyhoedd.
  • Bydd gan ymgeiswyr, asiantau a gweinyddwyr etholiadol fwy o hyder y bydd camau’n cael eu cymryd pan fyddant yn cael eu cam-drin neu eu bygwth, sydd yn ei dro yn debygol 
    • arwain at fwy o amrywiaeth o ymgeiswyr a mwy 
    • ddewis i bleidleiswyr.Bydd ein gwaith yn arwain at system etholiadol fwy 
      cadarn sy’n cael ei diogelu rhag ymyriant tramor.
  • Bydd pwerau cryfach, a chefnogaeth a monitro rheoleiddiol mwy rhagweithiol, yn gwella cydymffurfiad ac yn rhoi mwy 
    •  oruchwyliaeth ar y gyfundrefn cyllid gwleidyddol.
  • Drwy roi mwy o eglurder ynghylch caniatáu rhoddion a benthyciadau, bydd gan ymgyrchwyr fwy o hyder eu bod yn gweithredu mewn amgylchedd o degwch.
  • Bydd ein cronfa ddata cyllid gwleidyddol ar-lein newydd a’n rhyngwyneb chwilio yn rhoi mwy o dryloywder ynghylch ariannu ymgyrchoedd gwleidyddol.
     

4. Arwain dadl wybodus am ddyfodol etholiadau

Yr her

Rydym yn monitro iechyd ein democratiaeth, ac yn defnyddio ein hadroddiadau etholiadol, canfyddiadau ymchwil a dadansoddiad polisi i wneud argymhellion annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ond mae cyflymder y newid yn cynyddu, yn ogystal â’r risgiau i’r system yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Mae angen i ni sicrhau bod yr heriau a’r cyfleoedd tymor canolig a thymor hir ar gyfer etholiadau yn y DU yn cael eu cydnabod a’u deall yn dda ac y gweithredir arnynt yn gyflym gan lunwyr polisïau a’r gymuned etholiadol ehangach.

Sut byddwn ni’n mynd i’r afael â’r her hon

Byddwn yn adeiladu ar y dystiolaeth a’r data rydym wedi’u casglu dros fwy nag 20 mlynedd i ddatblygu set gadarn o ddangosyddion i asesu iechyd system etholiadol 
y DU. Rhestrir ein dangosyddion presennol yn Atodiad A, Tabl 1. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu ein dealltwriaeth o pam mae gwahanol grwpiau o bobl yn cael profiadau gwahanol iawn wrth gymryd rhan mewn etholiadau, boed fel pleidleiswyr neu fel ymgeiswyr. Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth i gyhoeddi archwiliadau iechyd rheolaidd ar y system etholiadol, gan nodi lle mae angen newidiadau i ddiwallu anghenion a disgwyliadau pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol

Byddwn yn defnyddio ein tystiolaeth a’n dadansoddiad i gynnull ac arwain y gwaith o feddwl am ddyfodol etholiadau. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydweithio ag eraill i ddatblygu syniadau newydd ynghylch sut y gellir gwella etholiadau, er enghraifft drwy gyd-greu opsiynau ar gyfer sut y gellid rheoli a chael mynediad at gofrestrau etholiadol yn y dyfodol. Byddwn yn datblygu ymhellach ein cysylltiadau â chomisiynau etholiadol mewn democratiaethau tebyg ledled y byd, er mwyn i ni allu nodi a mynd i’r afael â heriau cyffredin yn fwy effeithiol gyda’n gilydd.

Byddwn yn parhau i weithredu’n annibynnol yn ein gwaith. Mae gallu Llywodraeth y DU i ddynodi Datganiad Polisi a Strategaeth yn anghyson â rôl comisiwn etholiadol annibynnol mewn democratiaeth iach, a byddwn yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd cael gwared ar y pŵer hwnnw

Manteision y byddwn yn eu darparu 

  • Bydd gan lywodraethau, seneddau a llunwyr polisi’r DU well mynediad at dystiolaeth a chyngor annibynnol am yr heriau tymor canolig a thymor hir sy’n wynebu etholiadau yn y DU.
  • Bydd cynigion polisi i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn am brofiadau pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol, a byddant yn galluogi’r system i ddiwallu eu hanghenion a’u disgwyliadau yn well.
  • Bydd cynigion polisi yn weithredol ymarferol ac yn ymarferol i ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol eu cyflawni.

5. Cryfhau’r Comisiwn Etholiadol

Yr her

Wrth i’n system etholiadol esblygu ac mae mwy o wahaniaethau rhwng systemau ac arferion etholiadol gwledydd y DU, rhaid inni ymateb i heriau cynyddol a mwy cymhleth. Mae angen i ni addasu i ddiwallu anghenion a disgwyliadau pleidleiswyr, llywodraethau, ymgyrchwyr a thimau gwasanaethau etholiadol y DU. Mae ein systemau presennol a’n gwasanaethau cymorth angen buddsoddiad, nid yn unig i gyflawni ein gwaith presennol, ond hefyd i gyflawni’r rhaglen waith uchelgeisiol a hanfodol bwysig hon. 

Sut byddwn ni’n mynd i’r afael â’r her hon

Byddwn yn buddsoddi yn ein systemau gan sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cynrychioli gwerth am arian. Byddwn yn datblygu mwy o arbenigedd digidol, a byddwn yn archwilio’r potensial i harneisio technolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol i gyflawni mwy o effeithlonrwydd a gwelliannau ar gyfer defnyddwyr. Byddwn yn buddsoddi yn ein gallu i gyflawni prosiectau ac yn sicrhau ein bod yn dilyn yr arferion gorau yn y sector cyhoeddus. Byddwn yn sicrhau bod ein holl staff yn cael yr hyfforddiant, yr asesiadau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gyflawni, a byddwn yn cynnig cyflogau cystadleuol iddynt am eu gwaith. Byddwn yn 
buddsoddi mewn datblygu talent. Byddwn hefyd yn datblygu ein gallu rheoleiddiol ymhellach, i gefnogi ein rhanddeiliaid i gyflawni eu rhwymedigaethau’n llwyddiannus a llywio’r dirwedd etholiadol sy’n fwyfwy cymhleth. Byddwn yn gwella ein systemau TG a’n hamddiffynfeydd seiber.

Manteision y byddwn yn eu darparu

  •  Bydd buddsoddi yn ein systemau yn lleihau’r risg weithredol wrth drin gwybodaeth, a bydd yn rhoi mwy o allu i ni ddefnyddio’r wybodaeth rydym yn ei chadw 
    a’i chasglu er budd y sefydliad a’r cyhoedd.
  • Bydd ein gwaith arfaethedig yn lleihau’r tebygolrwydd o dor diogelwch data neu ymosodiadau seiber. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau’r posibilrwydd y bydd data personol yn cael ei beryglu.
  • Bydd ein cronfa ddata cyllid gwleidyddol ar-lein newydd yn lleihau’r baich gweinyddol ar ymgyrchwyr ac yn gwella cydymffurfiad. Bydd awtomeiddio data a defnyddio offer digidol newydd yn gwella hygyrchedd ein data, a bydd yn 
    ein galluogi i gydweithio’n fwy effeithiol â phartneriaid allanol. Rydym yn cael ein hariannu ac yn atebol i Senedd y DU, Senedd yr Alban a’r Senedd, a bydd ein cynlluniau’n sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian.
  • Bydd ein gwaith yn sicrhau bod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u bod wedi’u harfogi i gyflawni. 
  • Bydd y cynllun hwn, adroddiadau rheolaidd a thryloywder yn ein gwaith yn galluogi atebolrwydd drwy graffu effeithiol – gan ein cyllidwyr ac yn ehangach.