Rheoli ein costau a’n risgiau
Rheoli ein costau
Rydym yn rhagweld y byddwn yn cyflawni’r prosiectau newid sy’n sail i’n Cynllun Corfforaethol am gost amcangyfrifiedig o lai na £9m y flwyddyn dros bum mlynedd. Mae hyn yn cyfateb i 14c fesul pleidleisiwr cymwys. Mae amcangyfrif o broffil costau’r prosiect yn ôl blaenoriaeth strategol wedi’i gynnwys yn Atodiad A (Ffigur 1). Mae hyn yn dangos y bydd y costau amcangyfrifiedig ar gyfer 2025/26 (Blwyddyn 1) yn is, oherwydd bydd nifer o brosiectau allweddol yn dechrau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Er mwyn sicrhau bod gwerth am arian yn rhan annatod o’n holl weithgarwch, rydym yn cryfhau ein galluoedd ariannol, caffael a rheoli prosiectau. Mae ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys buddsoddiad sylweddol yn ein systemau TG allweddol, yn ogystal â datblygu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) i sicrhau arbedion effeithlonrwydd o ran swyddfa gefn a phrosesu. Mae’r manteision sy’n gysylltiedig â buddsoddi yn erbyn pob blaenoriaeth strategol yn cael eu disgrifio uchod.
Fodd bynnag, dim ond pan fydd achos clir ac argyhoeddiadol o ran manteision y byddwn yn cychwyn prosiectau unigol, a byddwn yn monitro’r gwaith o gyflawni’r manteision hynny’n ofalus. Mae’r prosiectau rydym yn ymgymryd â nhw i gyflawni’r cynllun hwn wedi’u dylunio i greu manteision ariannol, cyflawni a/neu enw da yn dibynnu ar eu cwmpas a’u natur. Er enghraifft, y nod o fuddsoddi mewn gwaith cwmpasu ar AI yw ein galluogi i ganfod arbedion effeithlonrwydd posibl yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau, fel cyfieithu. Byddwn yn nodi’r manteision hyn ac yn cadw golwg ar sut cânt eu cyflawni. Mae ein costau ‘Digwyddiadau’ sy’n ymwneud â gweinyddu etholiadau a drefnwyd yn cael eu hariannu’n flynyddol cyn etholiadau. Mae ein costau ‘Craidd’ (cynnal) hefyd yn cael eu hariannu’n flynyddol. Fodd bynnag, rydym yn rhagweld y bydd buddsoddi cynnar mewn systemau TG a deallusrwydd artiffisial yn ysgogwyr sylweddol o ran arbedion effeithlonrwydd craidd. Mae amcangyfrif blynyddol o gostau Digwyddiadau a Chraidd hefyd wedi’u cynnwys yn Atodiad A (Ffigur 3), yn ogystal â’r
tybiaethau allweddol sy’n sail i’r amcangyfrifon hynny. Disgwylir i gyfanswm ein costau Prosiectau, Digwyddiad a Chraidd fod yn £1.14 fesul pleidleisiwr cymwys yn 2025/26. Mae costau (ac felly) cyllid yn cael eu rhannu rhwng y tair senedd fel a ganlyn:
| Costau Uniongyrchol: | Bydd costau y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i etholiadau, a chostau gweithgareddau adnabyddadwy ar wahân o dan bwerau pob corff, yn cael eu dyrannu’n llawn i Senedd y DU, Senedd yr Alban neu’r Senedd fel y bo’n briodol. |
|---|---|
| Dyrennir costau cyfalaf | Grantiau Datblygu Polisi ac incwm i Senedd y DU. |
| Bydd costau a rennir | Gan gynnwys costau staff a chefn swyddfa, yn cael eu dyrannu yn unol â dosbarthiad poblogaeth y DU. Mae cyfanswm y costau a ddyrannwyd gan y senedd wedi’u cynnwys yn Atodiad A (Ffigur 2). |
Mae tybiaethau ariannol allweddol wedi’u cynnwys yn Atodiad A.
Rheoli ein risgiau
Rydym wedi nodi ein risgiau strategol a gweithredol, sy’n cael eu rheoli’n barhaus. Yn yr un modd â manteision, bydd risgiau prosiect y Cynllun Corfforaethol yn cael eu nodi a’u rheoli drwy gydol oes y prosiect.