Mae’r system etholiadol yn hwyluso democratiaeth yng ngwledydd, rhanbarthau ac ardaloedd lleol y DU drwy:
ennog pobl i gofrestru i bleidleisio, ac i ymddiried mewn etholiadau a refferenda a’u gwerthfawrogi
sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth â phrosesau cofrestru ac adrodd, a chyfreithiau cyllid gwleidyddol eraill
sicrhau y cynhelir etholiadau a refferenda rhydd a theg
Mae amrywiaeth o gyrff yn rhan o’r system etholiadol er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol. Ymhlith y rhain mae:
Y Senedd a Llywodraeth Cymru
Senedd a Llywodraeth y DU
ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr
gwasanaethau etholiadol lleol a arweinir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau, sy’n gyfrifol am gynnal etholiadau yn uniongyrchol ledled Cymru a’r DU, a Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru
mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswyddau penodol yn ymwneud â goruchwylio etholiadau, cynnal refferenda a rheoleiddio cyllid gwleidyddol, ynghyd â chyrff eraill sydd â chyfrifoldebau rheoleiddio a gorfodi’r gyfraith yn ymwneud ag etholiadau
Etholiadau sydd wedi’u trefnu yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2027