2. Y Comisiwn Etholiadol
Table summary
Mae’r tabl isod yn crynhoi’r ffactorau allweddol sy’n cyfarwyddo ac yn llunio gwaith y Comisiwn Etholiadol:
Table
Gweledigaeth | Mae gan bobl ffydd mewn etholiadau, maent yn rhoi gwerth arnynt ac yn cymryd rhan ynddynt |
---|---|
Diben |
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y system etholiadol a sicrhau ei huniondeb. |
Buddion allweddol |
Cynyddu ymddiriedaeth Cynyddu gwerth Cynyddu cyfranogiad |
Amcanion strategol |
Amcanion:
Bydd tri ffactor allweddol yn ein helpu ni i gyflawni ein hamcanion:
|
Gwerthoedd |
Ymrwymedig Awdurdodol Cael effaith Tryloyw Annibynnol |
Ein diben
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU.
Rydym yn gweithio i ennyn hyder y cyhoedd yn y system etholiadol a sicrhau ei huniondeb
Ein hamcanion strategol
Dyma ein pum amcan strategol ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2027:
1. Systemau cofrestru a phleidleisio hawdd eu defnyddio
Er mwyn cael etholiadau rhydd a theg, mae’n rhaid bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio ac yn dymuno pleidleisio yn gallu gwneud hynny. Byddwn yn gweithio i sicrhau’r canlynol:
- cynnydd yn y nifer sy’n cofrestru i bleidleisio, yn enwedig ymhlith grwpiau sy’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu â’r broses ar hyn o bryd
- dymchwel rhwystrau, yn enwedig y rhai sy’n effeithio ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd bwrw eu pleidlais ar hyn o bryd
Byddwn yn cyflawni’r canlyniadau hyn drwy gydweithio â llunwyr polisïau a phartneriaid eraill i nodi’r ffactorau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan, a chynnig atebion. Byddwn yn cynnig cymorth uniongyrchol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd ymgysylltu â’r broses, drwy gynnig gwybodaeth ac adnoddau dysgu hygyrch sydd wedi’u teilwra, a gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd sydd wedi’i dargedu. Rydym yn amlinellu ein cynlluniau i gefnogi systemau cofrestru a phleidleisio hawdd eu defnyddio yn Adran 3 o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
2. Ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy’n cydymffurfio â’r rheolau
Dylai pleidiau ac ymgyrchwyr eraill allu ymgyrchu heb wynebu rhwystrau gwirioneddol na chanfyddedig diangen, wrth i ni barhau i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Bydd hyn yn helpu pleidleiswyr i glywed amrywiaeth o leisiau yn ystod ymgyrchoedd er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau wrth bleidleisio. Byddwn yn gweithio i sicrhau’r canlynol:
- cynnydd yn hyder ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr eraill yn eu gallu i ddeall, cymhwyso a chydymffurfio â’r gyfraith ar ymgyrchu a chyllid gwleidyddol
- lefelau uchel o gydymffurfiaeth â systemau cofrestru ac adrodd, a chyfreithiau cyllid gwleidyddol eraill
Byddwn yn cyflawni’r nodau hyn drwy gadw’r cofrestrau swyddogol ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr, a thrwy sicrhau bod data cyllid gwleidyddol yn hygyrch, yn dryloyw ac yn gyflawn. Byddwn yn darparu canllawiau a chymorth i ymgyrchwyr o bob math ac yn gwneud penderfyniadau rheoleiddiol sy’n ennyn hyder ymgeiswyr, pleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr. Rydym yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer trefniadau ymgyrchu gwleidyddol tryloyw a chyllid gwleidyddol sy’n cydymffurfio â’r rheolau yn Adran 4 o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
3. Gwasanaethau etholiadol lleol cadarn
Mae angen i wasanaethau etholiadol lleol allu ymateb i bwysau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynyddol heriol. Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol a gweinyddwyr etholiadol i ddarparu gwasanaethau etholiadol effeithiol, cynaliadwy a chadarn, gan sicrhau bod pleidleiswyr yn derbyn y gwasanaeth y dylent allu ei ddisgwyl. Byddwn yn gweithio i sicrhau’r canlynol:
- perfformiad uchel parhaus a chyson wrth gynnal etholiadau yn effeithiol
- cynnydd yn hyder gweinyddwyr etholiadol yng nghadernid y system etholiadol
Byddwn yn cyflawni’r nodau hyn drwy bennu safonau heriol i weinyddwyr etholiadol, a rhoi canllawiau a chymorth i sicrhau y cânt eu cyrraedd. Byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol, cyrff cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r Senedd, a llywodraethau a seneddau eraill y DU, i feithrin cadernid y system etholiadol. Rydym yn amlinellu ein cynlluniau i sicrhau gwasanaethau etholiadol lleol cadarn yn Adran 5 o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
4. Cyfraith etholiadol deg ac effeithiol
Mae’n hanfodol i’r system etholiadol fod y cyfreithiau sy’n ei hategu yn deg, yn effeithiol ac yn cael eu deall yn dda. Mae’n rhaid i gyfraith etholiadol hefyd ddilyn datblygiadau eraill yn ein cymdeithas, gan fanteisio ar dechnoleg a mynd ati’n barhaus i foderneiddio. Byddwn yn gweithio i wneud y canlynol:
- cefnogi Llywodraeth Cymru a’r Senedd, a llywodraethau a seneddau eraill y DU, i ddiwygio cyfraith etholiadol er mwyn ei gwneud yn llai cymhleth
- lleihau’r risgiau a’r aneffeithlonrwydd sy’n gysylltiedig â chyfraith etholiadol sy’n effeithio ar ein system etholiadol
Byddwn yn cyflawni’r nod hwn drwy barhau i ymchwilio i’r ffordd y gellid diwygio cyfraith etholiadol er mwyn helpu pleidleiswyr, ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol a sefydliadau eraill, ynghyd â deall hynny. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cyngor arbenigol ar ymarferoldeb ac effaith unrhyw newidiadau i wella’r system etholiadol. Rydym yn amlinellu ein cynlluniau i weithio tuag at gyfraith etholiadol deg ac effeithiol yn Adran 6 o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
5. System etholiadol fodern a chynaliadwy
Mae angen i’r system etholiadol allu gwrthsefyll yr heriau sy’n ei hwynebu yn ystod cyfnod y cynllun hwn a thu hwnt. Mae angen iddi foderneiddio er mwyn cynnal a gwella gwerth am arian, tryloywder, ymddiriedaeth a chydymffurfiaeth. Ac, mae angen iddi hefyd leihau ei heffaith amgylcheddol er mwyn bod yn gynaliadwy. Byddwn yn gweithio i sicrhau’r canlynol:
- y manteisir ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol
- y deellir y risgiau newidiol i’r system etholiadol sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio data a thechnoleg, ac y gweithredir arnynt
- y meithrinir cydberthnasau cadarn ac arferion gwaith wedi’u symleiddio â phob corff sy’n rhan o’r system etholiadol
- y caiff Llywodraeth Cymru, llywodraethau eraill y DU a’r gymuned etholiadol ehangach eu cefnogi i fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu sy’n lleihau effaith amgylcheddol ein system etholiadol
Byddwn yn cyflawni’r nodau hyn drwy weithio gydag eraill i ystyried ffyrdd newydd o ddefnyddio data a thechnoleg ar draws y system etholiadol a’u rhoi ar waith. Byddwn hefyd yn parhau i fonitro achosion o gamddefnyddio data a thechnoleg, darparu cyngor ynghylch hynny a gweithredu arno. Byddwn yn datblygu strategaeth a chynllun gweithredu sy’n lleihau effaith amgylcheddol y system etholiadol, i gynnwys atebion arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn amlinellu ein cynlluniau i weithio tuag at system etholiadol fodern a chynaliadwy yn Adran 7 o’r Cynllun Corfforaethol hwn. Rydym hefyd yn amlinellu ein cynlluniau i sicrhau bod ein sefydliad yn garbon niwtral, yn gyson â thargedau llywodraethau, yn Adran 8.
Ategu’r gwaith hwn
Bydd tri ffactor allweddol yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd y byddwn yn cyflawni’r amcanion strategol hyn:
1. Byddwn yn ymddwyn ag uniondeb ac yn annibynnol
Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau, mae’n hanfodol bod comisiwn etholiadol yn parhau’n annibynnol ar lywodraethau, ac yn gweithredu’n ddiduedd ac ag uniondeb. Byddwn yn parhau i ddangos sut rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:
- gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny
- seilio ein safbwyntiau polisi a’n hargymhellion ar ddadansoddiad o’r dystiolaeth
- cyfleu ein gwaith a’n barn yn effeithiol
- darparu gwasanaethau ymatebol i’r rhai rydym yn eu cefnogi
- cynnal trefniadau llywodraethu effeithiol
2. Rydym yn sefydliad medrus sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein pobl yn teimlo’n rhan o weithle amrywiol, cynhwysol a chefnogol. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gwneud y canlynol:
- rhoi arferion gwaith wedi’u hadnewyddu ar waith i adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a’n diwylliant
- denu, cadw a datblygu’r bobl sydd eu hangen arnom
- cynnal a gwella safonau rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl
- ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwait
3. Rydym yn sefydliad sy’n dysgu, yn gwella’n barhaus ac yn defnyddio adnoddau’n effeithlon
Rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio technoleg, cyllid, amser ac adnoddau i gynnig y gwerth mwyaf am arian. Byddwn yn buddsoddi yn ein systemau ac yn mynd ati i leihau ein heffaith amgylcheddol. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gwneud y canlynol:
- caffael technoleg sy’n sicrhau gwerth am arian ac sy’n gwella’r gwasanaethau a ddarperir, a’i rhoi ar waith, fel sy’n briodol
- cynnal strategaeth ariannol ddarbodus gadarn
- parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol
- datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a gofynion polisi