Summary

Caiff y gwelliannau y byddwn yn eu sicrhau eu nodi yn ein cynllun. Bwriedir i’r cyhoedd, pleidiau ac ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol a seneddwyr elwa arnynt. Byddwn yn mesur ein heffeithiolrwydd wrth wireddu’r gwelliannau hyn yn ystod  cyfnod ein Cynllun Corfforaethol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddangosyddion ar gyfer Cymru a phob rhan o’r DU. Byddwn yn defnyddio cyfuniad o fesurau meintiol ac ansoddol, gan eu defnyddio i ysgogi gwelliannau parhaus i’n gweithdrefnau a’n sgiliau. Bydd hyn yn cynnwys targedau blynyddol a thargedau pum mlynedd yn erbyn mesurau allweddol.