9. Rheoli ein costau
Summary
Mae ein cyllideb yn amrywio o un flwyddyn i’r llall gan ddibynnu ar y cylch etholiadau. Mae ein cyllideb ar gyfer digwyddiadau yn adlewyrchu’r costau sy’n gysylltiedig â’r etholiadau a gynhelir yn ystod y flwyddyn. Mae’n amrywio’n sylweddol o un flwyddyn i’r llall oherwydd y cylch etholiadau, a bydd yn newid os caiff etholiadau annisgwyl eu hychwanegu, y bydd angen eu cynnal yn effeithiol. Caiff hyn ei gyflwyno fel llinell ar wahân yn y gyllideb er mwyn i ni allu rheoli ein cyllideb graidd a chraffu arni mewn modd mwy effeithiol.
Mae’r gwariant ar gyllidebau craidd yn cynnwys ein gwaith i gefnogi pleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr y tu allan i’r cylch etholiadau, yn ogystal â’n gorbenion corfforaethol. Ni fydd ein cyllideb graidd yn ddim mwy ar ddiwedd y cyfnod, ar ôl chwyddiant, nag yr oedd ar y dechrau (gan ddefnyddio’r dull mesur a ffefrir gan Drysorlys EM ar gyfer tybiaethau am wariant cyhoeddus a chwyddiant lle y byddant ar gael). Er y byddem bob amser yn ceisio rheoli ein costau o fewn y cyllidebau hyn, y prif risgiau i’n cynlluniau gwariant yw cynnydd yn y gyfradd chwyddiant neu newidiadau i’n rhaglen waith er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd y tu allan i’n rheolaeth.
Cyllidebau 2022/23 – 2026/27
£ miliynau | 2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 | 2026/27 |
---|---|---|---|---|---|
Gwariant craidd | 14.04 | 14.06 | 14.51 | 15.10 | 15.22 |
Digwyddiad | 6.08 | 4.21 | 5.52 | 6.64 | 4.94 |
Y Bil Etholiadau | 5.05 | 3.23 | 2.77 | 2.41 | 2.53 |
Gwariant gweithredol | 25.17 | 21.50 | 22.80 | 24.15 | 22.69 |
Grantiau Datblygu Polisi | 2.00 | 2.00 | 2.00 | 2.00 | 2.00 |
Dibrisiant | 1.33 | 1.46 | 1.46 | 1.46 | 1.45 |
Darpariaethau | 0.05 | 0.05 | 0.05 | 0.05 | 0.05 |
Cyfanswm y cynlluniau gwario | 28.55 | 25.01 | 26.31 | 27.66 | 26.19 |
Darpariaethau cyfalaf | 0.10 | 0.10 | 0.14 | 0.10 | 0.10 |
Cyfalaf | 1.42 | 0.49 | 1.63 | 0.53 | 0.53 |
Mae ein cyllidebau cyfalaf yn adlewyrchu anghenion wedi’u cynllunio a’u rhagweld i fuddsoddi mewn caledwedd a meddalwedd TG, sy’n wariant cyfalaf. Mae lefelau’r gwariant cyfalaf yn 2024/25 a 2026/27 yn cynrychioli prydlesau newydd neu wedi’u hadnewyddu ar gyfer ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaeredin. Rydym yn ymrwymedig o hyd i bresenoldeb parhaus ym mhob rhan o’r DU ac, wrth i ni fanteisio ar ffyrdd cynyddol hyblyg o weithio, byddwn yn adolygu ein hanghenion o ran swyddfeydd yn barhaus.
Cyllido
Cawn ein cyllido ar y cyd gan y Senedd, Senedd y DU a Senedd yr Alban. Mae’r blwch isod yn egluro mwy am hyn.
Cyfrannau cyllido datganoledig drafft 2022/23 – 2026/27
2022/23 | 2023/24 | 2024/25 | 2025/26 | 2026/27 | |
---|---|---|---|---|---|
Cyllideb ar sail cyllid (£m) | 22.96 | 21.80 | 23.18 | 24.37 | 22.93 |
Senedd Cymru
£m | 1.42 | 1.25 | 1.25 | 1.65 | 1.79 |
---|---|---|---|---|---|
% | 6.18% | 5.74% | 5.39% | 6.75% | 7.80% |
Senedd y DU
£m | 19.70 | 19.03 | 20.35 | 20.25 | 18.33 |
---|---|---|---|---|---|
% | 85.81% | 87.27% | 87.78% | 83.12% | 79.96% |
Senedd yr Alban
£m | 1.84 | 1.52 | 1.58 | 2.47 | 2.81 |
---|---|---|---|---|---|
% | 8.01% | 6.98% | 6.83% | 10.13% | 12.24% |
Pwyslais ar atebolrwydd a chyllid
Pwyslais ar atebolrwydd a chyllid
Fel rhan o’r broses o ddatganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau, gwnaed darpariaethau yn Neddf Cymru 2017 i’r Comisiwn fod yn atebol i’r Senedd. Ceir darpariaethau yn Neddf yr Alban 2016 hefyd i’r Comisiwn fod yn atebol i Senedd yr Alban, ac rydym yn atebol o hyd i Senedd y DU.
Caiff costau uniongyrchol cyflawni ein swyddogaethau ar gyfer pob senedd eu hariannu gan y senedd honno, gyda gorbenion (gan gynnwys dibrisiant ond ac eithrio cyllidebau neu ddarpariaethau cyfalaf) yn cael eu rhannu yn ôl y boblogaeth. Gall cyfrannau costau amrywio oherwydd newidiadau mewn rhaglenni gwaith neu’r cylch etholiadau.
Yng Nghymru, o ganlyniad i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, mae Pwyllgor y Llywydd yn goruchwylio ein hatebolrwydd cyllidebol a chorfforaethol. Yn yr Alban, caiff y rôl hon ei chyflawni gan Gorff Corfforaethol Senedd yr Alban, ac yn Senedd y DU gan Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol. At ei gilydd, pwyllgorau polisi penodol, fel Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, sy’n sicrhau atebolrwydd ac yn craffu ar agweddau penodol ar ein gwaith.
Bob blwyddyn, yn ystod yr hydref, byddwn yn cyflwyno amcangyfrif o’n hincwm a’n gwariant i’r pwyllgorau, ynghyd â’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod (neu’r pum mlynedd nesaf pan fyddwn yn cyflwyno Cynllun Corfforaethol). Wedyn, bydd y pwyllgorau’n ystyried y rhain yn unol ag amserlenni pob senedd.
Caiff y cynlluniau, cyllidebau ac unrhyw wybodaeth arall y byddwn yn ei chyflwyno i’r pwyllgorau eu paratoi yn unol â gofynion pob pwyllgor. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgorau, swyddogion seneddol a phartneriaid perthnasol eraill i sicrhau atebolrwydd effeithiol.