3. Rhoi pleidleiswyr yn gyntaf
Summary
Er mwyn cael democratiaeth iach, mae angen i bleidleiswyr ymgysylltu â’n proses etholiadol, a bod yn hyderus bod etholiadau’n rhydd ac yn deg. Byddwn yn gweithio i wella ymgysylltiad a hyder pleidleiswyr yng Nghymru a’r DU yn ehangach drwy:
- godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r broses etholiadol
- dymchwel rhwystrau i gofrestru a phleidleisio
- sicrhau bod cyfreithiau yn glir i bleidiau ac ymgyrchwyr ac yn cael eu dilyn
- sicrhau bod y system etholiadol yn gweithio’n effeithiol
Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd
Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r system etholiadol – gan gynnwys sut i gofrestru a phleidleisio – yn hanfodol o ran ymgysylltiad a hyder pleidleiswyr. Mae ein hymchwil yn dangos bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut i gofrestru a phleidleisio yn uchel ar hyn o bryd. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd 93% o’r rhai a arolygwyd (yng Nghymru a ledled y DU) fel rhan o’n harolwg blynyddol i olrhain barn y cyhoedd eu bod yn gwybod sut i gofrestru i bleidleisio, ac roedd 92% yn hyderus eu bod yn gwybod sut i fwrw eu pleidlais. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chodi’r ymwybyddiaeth hon, a byddwn yn parhau i fireinio a chyflawni gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd effeithiol cyn etholiadau yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU. Byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth a ddarparwn i bleidleiswyr yn hygyrch ac yn dryloyw, yn dilyn datblygiadau ym maes cyfathrebu digidol, ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau gwybodaeth i’r cyhoedd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion pleidleiswyr.
Byddwn yn datblygu ac yn ehangu ein gwaith dysgu, gan gynhyrchu adnoddau llythrennedd gwleidyddol er mwyn helpu pobl i ddeall sut i gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd. Byddwn yn parhau i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithio gyda’r gymuned etholiadol ehangach a sefydliadau partner. Yn sgil ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed ac i wladolion tramor sy’n byw yng Nghymru, byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod pleidleiswyr newydd yn deall eu cymhwysedd a’u bod yn gallu cymryd rhan yn hyderus yn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac etholiad y Senedd 2026.
Byddwn hefyd yn gweithio ochr yn ochr â phob partner perthnasol i hyrwyddo mwy o gysondeb mewn addysg wleidyddol, a meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth wleidyddol ymhlith pobl ifanc er mwyn sicrhau y gallant ymgysylltu’n llawn â’n system ddemocrataidd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu’r gwaith da a wnaed eisoes wrth gyhoeddi adnoddau addysgol a datblygu rhaglen addysg a dysgu ymhellach yng Nghymru.
Dymchwel rhwystrau i gofrestru a phleidleisio
Mae ein hymchwil yn dangos bod lle i wella’r system etholiadol bresennol i ddiwallu anghenion yr holl bleidleiswyr cymwys. Mae canlyniadau ein harolwg olrhain barn y cyhoedd a gynhaliwyd ledled y DU yn 2021 yn dangos bod pobl ag anabledd yn fwy tebygol o fod yn anfodlon ar y broses bleidleisio (10%) na phobl heb anabledd (6%). Rydym eisoes yn gwybod llawer o’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, ond byddwn yn gwneud mwy o waith i nodi problemau wrth gofrestru a phleidleisio, a byddwn yn gweithredu i fynd i’r afael â nhw. Byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth ehangach o sefydliadau yn y trydydd sector er mwyn deall yr heriau, ac yn cydweithio â llunwyr polisïau a phartneriaid eraill i nodi atebion. Mae hyn yn cynnwys dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisïau newydd, er mwyn sicrhau na chaiff rhwystrau ychwanegol eu cyflwyno. Byddwn yn targedu gweithgareddau ymwybyddiaeth pleidleiswyr effeithiol at y grwpiau a nodir, ac yn mynd ati’n benodol i gefnogi grwpiau nad ydynt yn cofrestru ar raddfa ddigonol i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd. Byddwn hefyd yn parhau i ystyried dichonoldeb moderneiddio’r broses bleidleisio ei hun, gan gadw anghenion newidiol pleidleiswyr yn ein hoes ddigidol mewn cof.
Sicrhau bod cyfreithiau yn glir i bleidiau ac ymgyrchwyr ac yn cael eu dilyn
Mae dilysrwydd etholiadau yn dibynnu ar gyfreithiau clir a gaiff eu deall a’u parchu gan bleidiau ac ymgyrchwyr. Byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth hygyrch ar gael i bleidleiswyr am bleidiau ac ymgyrchwyr sy’n cymryd rhan mewn etholiadau, gan gynnwys tryloywder o ran y ffordd y cânt eu hariannu a’r hyn maent yn ei wario. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r rheolau ynghylch cofrestru pleidiau ac ymgyrchwyr, rhoddion a gwariant ar ymgyrchu, ac yn helpu pleidleiswyr i weithredu os byddant yn gweld rhywbeth sy’n peri pryder iddynt. Byddwn yn parhau i gynnal cofrestrau swyddogol o bleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, ac yn ceisio dymchwel rhwystrau i ymgyrchu er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yn clywed gan amrywiaeth eang o ymgyrchwyr. Byddwn yn gwella mynediad pleidleisiwr at ein cronfa ddata, Cyllid Gwleidyddol Ar-lein, drwy ddiweddaru ac uwchraddio’r cyfleuster chwilio. Lle bydd data cyllid gwleidyddol yn anghyflawn, byddwn yn parhau i orfodi’r gyfraith er mwyn sicrhau tryloywder a chynyddu hyder pleidleiswyr yn y system. Mae mwy o fanylion am ein dulliau o gefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r gyfraith yn Adran 4 o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
Sicrhau bod y system etholiadol yn gweithio’n effeithiol
Mae system etholiadol sy’n gweithio’n effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau hyder pleidleiswyr. Dylai pobl fod yn hyderus bod etholiadau’n cael eu cynnal yn effeithiol, a dylent ymddiried yn nilysrwydd y canlyniadau. Dangosodd ein harolwg olrhain barn y cyhoedd yn 2021 fod 75% o’r bobl yng Nghymru yn hyderus bod etholiadau’n cael eu cynnal yn effeithiol (o gymharu ag 80% ledled y DU). Byddwn yn parhau i gynnal ymchwil sylweddol er mwyn adrodd ar y ffordd y mae etholiadau wedi’u cynnal, gan gynnwys dealltwriaeth fanwl o brofiad pleidleiswyr. Bydd hyn yn ein galluogi i godi pryderon a gwneud argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth lle y bo’n briodol, gyda’r nod pennaf o gynnal hyder y cyhoedd yn y system etholiadol. Rydym yn amlinellu ein cynlluniau i sicrhau y cynhelir etholiadau rhydd a theg yn Adran 5, gan gynnwys ein gwaith i gefnogi gwasanaethau etholiadol lleol cadarn.