4. Sicrhau bod ymgyrchwyr yn cydymffurfio â’r gyfraith a’u cefnogi i wneud hynny
Summary
Mae galluogi ymgyrchwyr i gyfleu eu negeseuon i bleidleiswyr yn rhan sylfaenol o’r broses ddemocrataidd. Rhaid i ymgyrchwyr, gan gynnwys pleidiau, allu cyfathrebu â’r pleidleiswyr i esbonio eu safbwyntiau a’u polisïau, fel bod gan bleidleiswyr y wybodaeth angenrheidiol pan fyddant yn pleidleisio. Ac mae’n bwysig bod pleidleiswyr yn clywed gan amrywiaeth eang o ymgyrchwyr.
Felly mae’n rhaid i ymgyrchwyr allu ymgyrchu heb wynebu rhwystrau gwirioneddol na chanfyddedig diangen, a byddwn yn parhau i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn dryloyw. Byddwn yn gwella tryloywder ymgyrchu gwleidyddol, ac yn helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i gydymffurfio â’r gyfraith, drwy:
- sicrhau y gall ymgyrchwyr gael gafael ar gymorth i ddeall y gyfraith yn y ffordd ac ar yr adeg sy’n gweithio orau iddynt
- sicrhau y caiff cyfreithiau cyllid gwleidyddol eu gorfodi’n deg, gan weithio gyda chyrff gorfodi’r gyfraith a rheoleiddwyr eraill
- cyhoeddi data cyllid gwleidyddol cyflawn a chywir
- ‘helpu ymgyrchwyr a seneddau i ddeall y ffordd y mae dulliau ymgyrchu’n effeithio’n uniongyrchol ar hyder pleidleiswyr mewn etholiadau
Sicrhau y gall ymgyrchwyr gael gafael ar gymorth i ddeall y gyfraith yn y ffordd ac ar yr adeg sy’n gweithio orau iddynt
Mae cyfraith etholiadol yn gymhleth, ond ni ddylai ei deall a’i chymhwyso fod yn rhwystr sy’n atal y rhai sydd am ymgyrchu. Byddwn yn gweithio i sicrhau y gall ymgyrchwyr fynd ati i ymgyrchu, ac yn ystyried rhwystrau – boed yn rhai gwirioneddol neu ganfyddedig – sy’n atal y bobl sydd am ymgyrchu rhag gwneud hynny. Byddwn yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon i sicrhau bod ein canllawiau a’n hadnoddau cymorth eraill yn gweithio’n dda i bob ymgyrchydd ni waeth faint o arian neu brofiad sydd ganddo.
Byddwn hefyd yn cwblhau ac yn atgyfnerthu’r newid strategol yn ein dull o reoleiddio, a amlinellwyd yn ein Cynllun Corfforaethol Dros Dro diwethaf, gan roi mwy o bwyslais ar adnoddau i sicrhau cydymffurfiaeth. Byddwn yn lansio ein cronfa ddata Cyllid Gwleidyddol Ar-lein newydd, yn parhau i ddatblygu ein cymorth rhagweithiol i ymgyrchwyr, yn trosglwyddo i ddull monitro seiliedig ar wybodaeth, ac yn ymgorffori dealltwriaeth reoleiddiol effeithiol a phroses sganio’r gorwel. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu cyngor ar seiberddiogelwch i bleidiau ac ymgyrchwyr.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r Codau Ymarfer statudol ar wariant ar etholiadau cyn etholiad y Senedd yn 2026, lle bo angen. Byddwn yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu unrhyw newidiadau a wneir i’r gyfraith. Byddwn hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ystyried newidiadau eraill i’r gyfraith yn y dyfodol, megis y posibiliad o gyflwyno argraffnodau digidol.
Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda swyddogion y Senedd wrth iddynt ddrafftio’r prosesau a’r rheolau adrodd newydd er mwyn i’r rheolau gael eu mabwysiadu ac i adrodd deuol ddod i ben. Cytunodd y Pwyllgorau Safonau a Busnes yn y Pumed Senedd y byddai adrodd deuol yn dod i ben yng Nghymru ac y byddai ond angen i aelodau etholedig adrodd i’r Senedd.
Sicrhau y caiff cyfreithiau cyllid gwleidyddol eu gorfodi’n deg, gan weithio gyda chyrff gorfodi’r gyfraith a rheoleiddwyr eraill
Mae pleidiau, ymgyrchwyr eraill a phleidleiswyr am fod yn hyderus bod cyfreithiau cyllid gwleidyddol yn cael eu gorfodi mewn modd cymesur, cyson a diduedd. Byddwn yn parhau i gynnal ymchwiliadau a bod yn dryloyw ynghylch canlyniadau ein holl waith.
Byddwn yn sicrhau bod ein dull o ymateb i dwyll etholiadol mor effeithiol â phosibl, a byddwn yn darparu cymorth a chyngor i reoleiddwyr a chyrff gorfodi’r gyfraith.
Cyhoeddi data cyllid gwleidyddol cyflawn a chywir
Mae’r gyfradd gydymffurfio â chyfreithiau adrodd cyllid gwleidyddol eisoes yn uchel. Byddwn yn gweithio i sicrhau cyfraddau cydymffurfio uwch fyth, drwy gyflwyno adnoddau cydymffurfio a fydd yn addas i amrywiaeth o ymgyrchwyr, a thrwy orfodi’r gyfraith mewn modd cymesur a diduedd.
Yn Adran 3, gwnaethom nodi ein cynlluniau i wneud data cyllid gwleidyddol yn fwy hygyrch i bleidleiswyr. Bydd ein cronfa ddata Cyllid Gwleidyddol Ar-lein newydd yn adnodd pwysig i ymgyrchwyr hefyd, gan sicrhau bod y broses adrodd yn haws ac yn gyflymach. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod data ariannol gan bleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn cael eu cyhoeddi’n amserol bob amser.
Helpu ymgyrchwyr a seneddau i ddeall y ffordd y mae dulliau ymgyrchu’n effeithio’n uniongyrchol ar hyder pleidleiswyr mewn etholiadau
Yn Adran 3, gwnaethom nodi ein cynlluniau i helpu pleidleiswyr i ddeall y rheolau ar ymgyrchu, gyda’r nod o gynyddu hyder mewn etholiadau. Rydym hefyd yn bwriadu cynyddu hyder pleidleiswyr drwy gynnig dealltwriaeth yn seiliedig ar dystiolaeth i ymgyrchwyr a seneddau er mwyn gwella eu dealltwriaeth o’r effaith a gaiff dulliau ymgyrchu gwahanol ar ganfyddiad pleidleiswyr o etholiadau a’u canlyniadau. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor a chymorth ar ddulliau ymgyrchu newydd a datblygol.