5. Cefnogi’r broses o gynnal gwasanaethau etholiadol lleol a’u cadernid
Summary
Mae gwasanaethau etholiadol lleol yn wynebu heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol y mae perygl y byddant yn effeithio ar eu gallu i gynnal etholiadau a refferenda effeithiol. Byddwn yn helpu awdurdodau lleol a gweinyddwyr etholiadol yng Nghymru a’r DU yn ehangach i ymateb i’r pwysau hyn. Byddwn yn gweithio i helpu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bleidleiswyr yn gyson, a datblygu gwasanaethau etholiadol lleol cadarn drwy:
- bennu safonau perfformiad ar gyfer gwasanaethau etholiadol lleol
- darparu canllawiau a chymorth hygyrch i weinyddwyr etholiadol
- helpu gwasanaethau etholiadol lleol i fod yn fwy cadarn
- sicrhau bod y system etholiadol yn gweithio’n effeithiol
Pennu safonau perfformiad ar gyfer gwasanaethau etholiadol lleol
Byddwn yn parhau i helpu Swyddogion Canlyniadau i gynnal yr etholiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer cyfnod y Cynllun Corfforaethol hwn, a byddwn yn parhau i fod yn barod i ymateb i etholiadau annisgwyl os bydd angen. Byddwn hefyd yn cefnogi Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynnal gwasanaethau cofrestru etholiadol, gan gynnwys y canfasiad blynyddol yng Nghymru, ar gyfer pob blwyddyn o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
Byddwn yn pennu ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau perfformiad heriol. Byddwn yn darparu canllawiau a chyngor i helpu gweinyddwyr etholiadol i gyrraedd y safonau a’u herio pan fyddwn yn nodi meysydd i’w gwella. Byddwn yn adolygu’r fframwaith safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau er mwyn gwella ei rôl wrth nodi ac ysgogi gwelliannau mewn perfformiad, ac yn darparu atebolrwydd ar gyfer yr etholiadau a gynhelir ganddynt.
Darparu canllawiau a chymorth hygyrch i weinyddwyr etholiadol
Ym mis Mai 2021, gwnaethom gyhoeddi canllawiau digidol hygyrch i Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gefnogi’r dasg o gynnal y canfasiad blynyddol diwygiedig cyntaf yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain Fawr. Rydym yn gweithio i sicrhau bod yr holl ganllawiau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn cael eu cyhoeddi yn y fformat hygyrch hwn ar ein gwefan, a byddwn yn parhau i ddiwygio’r canllawiau hyn ar sail etholiadau unigol. Rydym yn ceisio barn gweinyddwyr etholiadol ar ôl pob cyfres o etholiadau, a dywedodd dros dri chwarter o’r gweinyddwyr a ymatebodd i’n harolwg ar ôl etholiadau mis Mai 2021 fod ein canllawiau, yn eu barn nhw, yn ddefnyddiol iawn neu’n eithaf defnyddiol. Byddwn yn parhau i geisio adborth gan weinyddwyr etholiadol ac yn ymgynghori â nhw i sicrhau bod ein canllawiau yn diwallu eu hanghenion. Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb a dros y ffôn, er mwyn helpu gweinyddwyr etholiadol yn eu gwaith.
Helpu gwasanaethau etholiadol lleol i fod yn fwy cadarn
Drwy ein gwaith ymchwil a’r adborth a gawn gan weinyddwyr etholiadol ar ôl pob cyfres o etholiadau, cawn wybod am y pwysau presennol sydd ar y system etholiadol ar lefel leol. Mewn ymateb, byddwn yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen gweithgarwch i gefnogi gwasanaethau etholiadol cadarn. Byddwn yn cydweithio â gweinyddwyr etholiadol i ddeall yr heriau maent yn eu hwynebu a nodi atebion i fynd i’r afael â nhw. Byddwn yn rhoi mesurau y cytunir arnynt ar waith i feithrin cadernid, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’r gymuned etholiadol ehangach er mwyn sicrhau y cânt yr effaith fwyaf bosibl. Byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir casglu data ar gostau gwasanaethau etholiadol a’u defnyddio i nodi ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd wrth gynnal prosesau etholiadol.
Sicrhau bod y system etholiadol yn gweithio’n effeithiol
Mae angen i weinyddwyr etholiadol fod yn hyderus bod y system etholiadol yn gweithio’n effeithiol. Byddwn yn parhau i gynnal ymchwil er mwyn adrodd ar y ffordd y mae etholiadau wedi’u cynnal, gan gynnwys sicrhau dealltwriaeth fanwl o brofiad gweinyddwyr etholiadol. Bydd hyn yn ein galluogi i godi pryderon a gwneud argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth lle y bo’n briodol, gan sicrhau bod gan weinyddwyr etholiadol hyder yn y system etholiadol yn ei chyfanrwydd.
Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru a chefnogi ei waith. Mae’r Bwrdd mewn sefyllfa allweddol i arwain y gwaith o gynnal digwyddiadau a gweithgarwch etholiadol yng Nghymru. Rydym yn dal i argymell y dylai’r grŵp hwn gael ei wneud yn fwrdd statudol, yn debyg i’r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn yr Alban. Credwn y bydd hyn nid yn unig yn helpu i sicrhau y caiff digwyddiadau etholiadol yng Nghymru eu cynllunio’n effeithiol, ond y bydd hefyd yn sicrhau mwy o gadernid yn y system etholiadol.