6. Sicrhau bod cyfraith etholiadol yn deg ac yn effeithiol
Summary
Caiff ein system etholiadol ei hategu gan fframwaith cyfreithiol sy’n pennu sut y caiff etholiadau eu cynnal. Mae’n nodi pwy gaiff bleidleisio a’r amryw ffyrdd y gallant fwrw eu pleidlais. Mae’n nodi pwy gaiff sefyll etholiad, pwy gaiff ymgyrchu, a faint y gallant ei wario. Ac mae’n nodi sut y dylai gweinyddwyr etholiadol gynnal etholiadau, gan gynnwys cyfrif a datgan y canlyniadau.
O ystyried ei effaith drawsbleidiol, rydym am weithio gyda seneddwyr a llywodraethau i wella cyfraith etholiadol fel ei bod yn addas at y diben, yn lleihau cymhlethdod, aneffeithlonrwydd a risg, ac yn hwyluso arloesedd. Byddwn yn gweithio gydag eraill i ddiwygio cyfraith etholiadol drwy:
- gefnogi proses effeithiol o ystyried deddfwriaeth a’i rhoi ar waith yn y Senedd, Senedd y DU a Senedd yr Alban
- ymgysylltu ag agendâu diwygio cyfraith etholiadol presennol llywodraethau, gan barhau i wneud achos dros ddiwygio pellach
- parhau i roi cyngor arbenigol ar ymarferoldeb ac effaith unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i wella’r system etholiadol
Cefnogi proses effeithiol o ystyried deddfwriaeth a’i rhoi ar waith yn y Senedd, Senedd y DU a Senedd yr Alban
Byddwn yn parhau i graffu ar ddeddfwriaeth etholiadol newydd a darparu briffiadau arbenigol i Lywodraeth Cymru a’r Senedd, ac i lywodraethau a seneddau eraill y DU, ar gynigion deddfwriaethol. Byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu dadansoddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o unrhyw newidiadau arfaethedig i gyfraith etholiadol, er mwyn helpu i sicrhau yr ystyrir unrhyw newidiadau ar sail gwybodaeth.
Byddwn hefyd yn gweithio i helpu i roi unrhyw ddeddfwriaeth newydd ar waith yn effeithiol, gan sicrhau bod pleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol ac ymgyrchwyr yn deall yr hyn y mae’n ei olygu iddynt ym mhob achos.
Byddwn yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a’r Senedd wrth i ddeddfwriaeth gael ei datblygu ar gyfer etholiadau yng Nghymru. Gall hyn gynnwys diwygio cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ym mis Mai 2022, Bil ehangach ar etholiadau llywodraeth leol a diwygio etholiadau’r Senedd cyn etholiadau 2026. Byddwn yn rhoi cyngor ar roi cynigion ar waith yn ymarferol, a fydd yn adlewyrchu barn y gymuned etholiadol.
Drwy ein rôl yn dylunio ffurflenni a’n gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, byddwn hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth roi unrhyw newidiadau ar waith, er enghraifft gwneud y system pleidleisio drwy’r post yn fwy hygyrch. Rydym hefyd yn disgwyl chwarae rôl allweddol wrth werthuso a chyhoeddi adroddiad ar dreialu unrhyw fesurau diwygio, a all gynnwys canolfannau pleidleisio cynnar, gorsafoedd pleidleisio symudol a phleidleisio mewn sefydliadau addysg.
Ymgysylltu ag agendâu diwygio cyfraith etholiadol presennol llywodraethau, gan barhau i wneud achos dros ddiwygio pellach
Mae angen i Lywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y DU fynd ati ar frys i symleiddio a moderneiddio cyfraith etholiadol. Mae’n gynyddol gymhleth, ac nid dim ond problem dechnegol neu gyfreithiol ydyw. Mae costau a chanlyniadau gwirioneddol i bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol, yn ogystal â’r rheoleiddwyr a’r cyrff gorfodi sy’n ei chael hi’n anodd cynnal a gorfodi’r gyfraith. Mae Comisiynau’r Gyfraith y DU wedi llunio glasbrint ar gyfer cyfraith etholiadol wedi’i symleiddio a’i moderneiddio, a gefnogir gennym ni, pwyllgorau dethol seneddol, gweinyddwyr etholiadol, cyfreithwyr etholiadol ac academyddion. Byddwn yn parhau i wneud yr achos dros ddiwygio cyfraith etholiadol, gan gefnogi seneddwyr a llywodraethau pan fydd hyn yn digwydd.
Parhau i roi cyngor arbenigol ar ymarferoldeb ac effaith unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i wella’r system etholiadol
Rydym am gynnal lefelau uchel o hyder y cyhoedd yn y broses etholiadol, gan gynnwys canfyddiadau o ddilysrwydd y canlyniadau. Byddwn yn parhau i ymchwilio i agweddau’r cyhoedd er mwyn deall sut y gellid gwella’r system etholiadol er mwyn diwallu anghenion pleidleiswyr. Byddwn hefyd yn parhau i wneud gwaith ymchwil ar gynnal etholiadau a refferenda a chymryd rhan ynddynt, ac yn defnyddio’r gwaith ymchwil hwn i nodi pa ddiwygiadau i gyfraith a phrosesau etholiadol fyddai’n eu gwella. Byddwn yn parhau i gefnogi llywodraethau i roi newidiadau i gyfraith etholiadol ar waith yn llwyddiannus, a byddwn yn darparu argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth, arbenigedd a chyngor ymarferol.
Mae datblygiadau technolegol mewn ymgyrchu digidol yn creu heriau newydd, a gwyddom fod diffyg tryloywder yn bryder i bleidleiswyr eisoes. Mae canlyniadau ein harolwg olrhain barn y cyhoedd yn 2021 yn dangos bod 33% o’r bobl yng Nghymru o’r farn na allant gael gwybod pwy sydd wedi cynhyrchu’r wybodaeth wleidyddol y maent yn ei gweld ar-lein (37% ledled y DU). Ac mae sut neu pam y mae hysbysebion gwleidyddol ar-lein yn cael eu targedu atynt yn destun pryder i 37% ohonynt (40% ledled y DU). O ganlyniad, byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru a llywodraethau eraill y DU i roi ein hargymhellion ar ymgyrchu digidol ar waith, wrth annog gwelliannau pellach.