7. System etholiadol fodern a chynaliadwy
Summary
Mae angen i ni sicrhau bod ein system etholiadol yn dilyn datblygiadau digidol. Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd i sicrhau mwy o gydymffurfiaeth, tryloywder a’r arbedion ariannol y mae technoleg yn eu cynnig, gan weithio i gynnal hyder pleidleiswyr yn y system etholiadol. Mae angen i ni hefyd foderneiddio’r system etholiadol er mwyn sicrhau ei bod yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Byddwn yn gweithio tuag at gyflawni system etholiadol fodern a chynaliadwy drwy:
- fanteisio ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol
- deall y risgiau newidiol i’r system etholiadol sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio data a thechnoleg, galw am weithredu arnynt, a gweithredu arnynt ein hunain
- parhau i feithrin cydberthnasau cadarn a symleiddio arferion gwaith gyda phob corff sy’n rhan o’r system etholiadol
- cefnogi llywodraethau a’r gymuned etholiadol ehangach i fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu sy’n cyrraedd y safonau amgylcheddol sy’n ofynnol gan ein system etholiadol
Manteisio ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol
Mae data a thechnoleg yn cynnig cyfleoedd i ddemocratiaeth. Gan gydweithio ag eraill, byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio data a thechnoleg i sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn y system etholiadol, er mwyn cynyddu cydymffurfiaeth â chyfraith etholiadol a darparu gwybodaeth hygyrch i bleidleiswyr. Byddwn yn gwneud gwaith ymchwil i ddarparu sail dystiolaeth ar gyfer manteisio ar ddata a thechnoleg. Byddwn yn datblygu cynlluniau a’u rhoi ar waith er mwyn manteisio ar ddata a thechnoleg i ddiwallu anghenion pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol. Byddwn yn cydweithio ag eraill i roi arferion newydd ar waith wrth ddefnyddio data a thechnoleg ar draws y system etholiadol.
Deall y risgiau newidiol i’r system etholiadol sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio data a thechnoleg, galw am weithredu arnynt, a gweithredu arnynt ein hunain
Mae data a thechnoleg hefyd yn cyflwyno risgiau sylweddol i ddemocratiaeth. Byddwn yn cydweithio ag eraill i ystyried a rhoi arferion newydd ar waith wrth ddefnyddio data a thechnoleg yn y system etholiadol, er mwyn gwella hygyrchedd, diogelwch ac effeithlonrwydd etholiadau yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU. Byddwn hefyd yn gwneud gwaith ymchwil i ddeall sut mae data a thechnoleg yn bygwth uniondeb etholiadau, gan roi sylw penodol i ymddiriedaeth pleidleiswyr yn y system etholiadol yn ei chyfanrwydd.
Parhau i feithrin cydberthnasau cadarn a symleiddio arferion gwaith gyda phob corff sy’n rhan o’r system etholiadol
Rydym yn cydweithio’n agos â chyrff eraill sy’n rhan o’r system etholiadol. Rydym yn gwybod y gallwn ymateb yn well i’r heriau a wynebir gan y system etholiadol os byddwn yn cydweithredu. Byddwn yn parhau i atgyfnerthu’r cydberthnasau hyn, gan gynnwys â nifer o reoleiddwyr a chyrff gorfodi’r gyfraith sy’n chwarae rôl wrth orfodi cyfraith etholiadol. Byddwn hefyd yn parhau i helpu pleidleiswyr i ddeall pwy sy’n gyfrifol am feysydd penodol o gyfraith etholiadol, a byddwn yn gweithio i sicrhau eu bod yn gwybod â phwy i gysylltu os bydd ganddynt bryderon. Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’r cyrff hyn mewn ffordd effeithlon, gyda’r prif nod o gynyddu’r effaith a gawn gyda’n gilydd wrth gynnal system etholiadol effeithiol yr ymddiriedir ynddi.
Cefnogi llywodraethau a’r gymuned etholiadol ehangach i fabwysiadu strategaeth a chynllun gweithredu sy’n cyrraedd y safonau amgylcheddol sy’n ofynnol gan ein system etholiadol
Yn ystod oes y cynllun hwn, daw’n gynyddol bwysig deall a lleihau effaith amgylcheddol y system etholiadol, gan sicrhau ei bod yn bodloni’r targedau amgylcheddol heriol sy’n debygol o gael eu pasio’n gyfraith gan y Senedd a seneddau eraill y DU. Bydd ymateb i’r targedau hyn hefyd yn cynyddu’r heriau a wynebir wrth gynnal etholiadau a refferenda effeithiol yn lleol. Byddwn yn datblygu strategaeth a chynllun gweithredu sy’n ceisio lleihau effaith amgylcheddol ein system etholiadol, i gynnwys atebion arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, llywodraethau eraill y DU ac awdurdodau lleol i nodi camau i leihau’r effaith amgylcheddol. A byddwn yn adolygu atebion posibl a all arwain at wella cynaliadwyedd yn barhaus.