8. Ategu’r gwaith hwn
Summary
Mae adrannau blaenorol y Cynllun Corfforaethol hwn yn crynhoi’r gwaith y byddwn yn ei wneud er mwyn cyflawni ein hamcanion strategol pum mlynedd. Byddwn yn sicrhau bod gennym ni fel sefydliad yr holl adnoddau sydd eu hangen arnom i gyflawni’r amcanion hyn, gan ganolbwyntio ar y gweithgareddau galluogi allweddol a nodir isod.
1. Byddwn yn ymddwyn ag uniondeb ac yn annibynnol
Mae’r system etholiadol yn dibynnu ar y Comisiwn Etholiadol yn gweithredu fel corff annibynnol amhleidiol, ac felly rydym yn gosod safonau uchel iawn i’n hunain o safbwynt ein huniondeb. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y cawn ein parchu am ein harbenigedd, a bod ein cyngor a’n penderfyniadau yn rhydd rhag tuedd. O ystyried ein rôl unigryw, mae angen i’n huniondeb fod yn glir ac yn amlwg yn yr hyn a wnawn. Byddwn yn parhau i ddangos ein huniondeb drwy:
- wneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny
- seilio ein safbwyntiau polisi a’n hargymhellion ar ddadansoddiad o’r dystiolaeth
- cyfleu ein gwaith a’n barn yn effeithiol
- darparu gwasanaethau ymatebol i’r rhai rydym yn eu cefnogi
- cynnal trefniadau llywodraethu effeithiol
Gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth, a bod yn dryloyw ynghylch y rhesymau dros wneud y penderfyniadau hynny
Wrth wneud penderfyniadau, o natur reoleiddiol neu fel arall, byddwn yn gweithredu ar sail y gyfraith, tystiolaeth, tegwch a chymesuredd, ac yn unol â phrosesau llywodraethu cryf. Mae ein polisïau cyhoeddedig, fel ein Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol a’m Polisi Gorfodi, yn darparu dealltwriaeth glir o’r ffordd rydym yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau. Lle y gallwn, ac i’r graddau ei bod yn briodol i ni wneud hynny, byddwn yn rhoi ein rhesymau dros ein penderfyniadau, gan gynnwys yn unol â chyfraith rhyddid gwybodaeth a diogelu data. I’r perwyl hwnnw, byddwn yn parhau i gyhoeddi canlyniad pob ymchwiliad, a thynnu sylw at achosion lle gallai’r hyn a ddysgwyd o ymchwiliadau helpu ymgyrchwyr eraill i ddeall y gyfraith a’i chymhwyso. Rydym yn ateb i’r Llysoedd am ein penderfyniadau a’r rhesymau dros eu gwneud, yn ogystal â bod yn atebol i seneddau.
Seilio ein safbwyntiau polisi a’n hargymhellion ar ddadansoddiad o’r dystiolaeth
Mae’n rhaid i’n hargymhellion fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’u hategu gan ymchwil os ydynt am ennyn ymddiriedaeth, ac os oes disgwyl iddynt gael eu mabwysiadu a’u datblygu. Byddwn yn parhau i wneud gwaith ymchwil er mwyn deall sut y mae etholiadau a refferenda wedi cael eu cynnal a’u profi. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein sail dystiolaeth ar bob mater sy’n effeithio ar y system etholiadol – o ganfyddiadau pleidleiswyr o ddilysrwydd etholiadau, i’r heriau a wynebir gan weinyddwyr etholiadol. Byddwn yn ymgorffori’r dull o sganio’r gorwel sy’n sail i’n gwaith datblygu polisi a byddwn yn parhau i nodi heriau ac argymell atebion.
Cyfleu ein gwaith a’n barn yn effeithiol
Rydym am sicrhau bod ein gwaith a’n barn ystyrlon yn cael effaith. Felly, byddwn yn parhau i sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i Gymru yn cael ei chyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwn yn defnyddio ‘Plain English’ a Chymraeg Clir, yn osgoi jargon er mwyn meithrin dealltwriaeth ac yn cyfathrebu’n glir â phob cynulleidfa. Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein gwasanaethau a’r wybodaeth a ddarparwn yn hygyrch.
Darparu gwasanaethau ymatebol i’r rhai rydym yn eu cefnogi
Rydym yn cefnogi ein rhanddeiliaid – gan gynnwys pleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol – â gwybodaeth a chanllawiau hygyrch ar bob agwedd ar y system etholiadol. Maent yn troi atom am gyngor a chymorth, ac yn disgwyl gwasanaeth ymatebol sy’n diwallu eu hanghenion. Byddwn yn parhau i ymgynghori â’n rhanddeiliaid er mwyn deall eu disgwyliadau o ran ein gwasanaethau, a byddwn yn gwneud gwelliannau yn seiliedig ar eu hanghenion. Byddwn yn cynnal safonau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid.
Cynnal trefniadau llywodraethu effeithiol
Rydym yn disgrifio ein trefniadau llywodraethu yn Adran 12 o’r Cynllun Corfforaethol hwn.
2. Rydym yn sefydliad medrus sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth
Rydym am i’n gweithlu deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi i wireddu ei botensial. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gwneud y canlynol:
- rhoi arferion gwaith wedi’u hadnewyddu ar waith i adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a’n diwylliant
- denu, cadw a datblygu’r bobl sydd eu hangen arnom
- cynnal a gwella safonau arwain a rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl
- ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwaith
- sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thin yn llai ffafriol na’r Saesneg
Rhoi arferion gwaith wedi’u hadnewyddu ar waith i adlewyrchu newidiadau ehangach yn ein hamgylchedd gwaith a’n diwylliant
Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar ein harferion gwaith ac wedi arwain at ymddygiadau a dulliau gweithredu newydd. Byddwn yn dysgu o hyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fwynhau’r buddiannau, gan ymgorffori dulliau gweithio mwy hyblyg mewn ffordd sy’n fuddiol i’n pobl, y Comisiwn cyfan a’n rhanddeiliaid. Byddwn yn sicrhau bod ein diwylliant a’n hymddygiadau yn adlewyrchu’r gwerthoedd hyn. Byddwn hefyd yn atgyfnerthu ein dull cyfathrebu mewnol, gan weithio’n galed i sicrhau bod ein pobl wedi’u cysylltu, eu bod yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol a’u bod yn llawn cymhelliant. Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am y ffordd y byddwn yn defnyddio technoleg i gefnogi arferion gwaith newydd isod.
Denu, cadw a datblygu’r bobl sydd eu hangen arnom
Ein pobl sydd wrth wraidd ein sefydliad. Byddwn yn sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r arbenigedd amrywiol sydd eu hangen er mwyn cyflawni ein gwaith. Byddwn yn sicrhau eu bod yn fedrus, â ffocws ar fod yn effeithiol ym mhopeth a wnânt, eu bod yn ymroddedig, a’u bod yn teimlo’n angerddol dros ddemocratiaeth a’n rôl wrth ei chefnogi. Nid ydym yn cymryd y rhinweddau hyn yn ganiataol, a byddwn yn parhau i roi ein Strategaeth Pobl ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddenu, cadw a datblygu’r tîm gorau posibl.
Cynnal a gwella safonau arwain a rheoli uchel, gyda phwyslais ar ddatblygu ein pobl
Mae dysgu yn rhan allweddol o waith beunyddiol ein pobl, ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi eu datblygiad. Byddwn yn parhau i gyflawni safonau uchel o ran arwain, rheoli a datblygu pobl, gan ymgynghori â’n pobl er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi eu hanghenion penodol.
Ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhellach ym mhob agwedd ar ein gwaith
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, a’n nod yw bod yn sefydliad agored a chynhwysol. Rydym yn dathlu ehangder y syniadau, y sgiliau a’r arbenigedd y mae ein pobl yn eu cyfrannu at ein sefydliad. Ac rydym yn ymrwymedig i fod yn rheoleiddiwr cynhwysol, sydd â strategaethau a phrosesau ar waith i adlewyrchu amrywiaeth y rhai rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn cyflwyno strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd. Byddwn yn rhoi Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned ar waith. A byddwn yn gweithio i wella amrywiaeth a’i chefnogi ymhlith ein swyddi lefel uwch, gan gynnwys sicrhau cynrychiolaeth ar Fwrdd y Comisiwn.
Sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thin yn llai ffafriol na’r Saesneg
Rydym yn ymrwymedig i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ym mhob peth a wnawn. Byddwn yn parhau i sicrhau y gall pobl yng Nghymru gael gafael ar ein gwasanaethau a’r holl wybodaeth y byddwn yn ei chyhoeddi sy’n ymwneud â Chymru yn y ddwy iaith. Byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol drwy fodloni Safonau’r Gymraeg, a bennir gan Gomisiynydd y Gymraeg drwy’r Hysbysiad Cydymffurfio.
Rydym yn bwriadu ymrwymo’n gryfach i’r safonau hyn, a’r Gymraeg yn fwy cyffredinol, drwy roi Cynllun Cydymffurfio newydd ar waith ar gyfer y Gymraeg. Bydd hyn yn cynnwys penodi uwch-aelod o staff i fod yn gyfrifol am Safonau’r Gymraeg o fewn y Comisiwn Etholiadol. Bydd y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru yn parhau i arwain a chefnogi timau eraill ledled y DU i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
3. Rydym yn sefydliad sy’n dysgu, yn gwella’n barhaus ac yn defnyddio adnoddau’n effeithlon
Mae’r byd o’n cwmpas yn newid yn gyflym. Mae angen i ni addasu’n gyflym er mwyn llwyddo. Er mwyn gwneud hyn, awn ati’n drylwyr i ddysgu o brofiad a cheisio gwelliant parhaus ym mhob peth a wnawn. Yn ôl pob golwg, bydd y pwysau ar wariant cyhoeddus yn parhau, ac felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau i reoli ein costau a gwneud defnydd effeithiol o’n technoleg, cyllid, amser ac adnoddau. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, byddwn yn gwneud y canlynol:
- caffael systemau TG sy’n cynnig gwerth am arian ac yn gwella’r gwasanaethau a ddarperir, a’u rhoi ar waith
- parhau â’n strategaeth ariannol er mwyn cadw’r Comisiwn o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt
- parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol
- datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a pholisi, er mwyn lleihau’r effaith amgylcheddol
Byddwn yn gwneud hyn drwy arwain a rheoli’n effeithiol o fewn cynllun ariannol pum mlynedd sydd â’r nod o gostau o ddim mwy ar ôl chwyddiant yn 2026/27 nag yn 2021/22.
Caffael systemau TG sy’n cynnig gwerth am arian ac yn gwella’r gwasanaethau a ddarperir, a’u rhoi ar waith
Mae technoleg a data yn hollbwysig yn ein gwaith. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth hanfodol ar ein gwefan ac ar Cyllid Gwleidyddol Ar-lein er budd y cyhoedd, gan sicrhau bod ein democratiaeth yn gweithredu mewn modd tryloyw. Mae ein systemau mewnol yn hanfodol er mwyn sicrhau ansawdd ein gwaith, ac yn ein galluogi i reoli risg yn effeithiol. Byddwn yn parhau â’n rhaglen i gaffael systemau TG newydd a’u rhoi ar waith. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein seilwaith yn gyfredol ac yn addas at y diben. Byddwn yn lansio ein cronfa ddata Cyllid Gwleidyddol Ar-lein newydd er mwyn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i bleidiau ac ymgyrchwyr gyflwyno data ariannol. Byddwn hefyd yn sefydlu adnodd rheoli cydberthnasau cwsmeriaid newydd.
Parhau â’n strategaeth ariannol er mwyn cadw’r Comisiwn o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt
Rydym yn disgrifio ein strategaeth ariannol yn Adran 8. Gyda phwysau ar wariant cyhoeddus a bod angen sicrhau gwerth am arian, ni fydd ein gwariant ar wasanaethau craidd yn ddim uwch mewn termau real ar ddiwedd cyfnod y Cynllun Corfforaethol nag y mae ar ei ddechrau. Byddwn yn gweithio i wella’r gwerth rydym yn ei gynnig i seneddau.
Parhau i ddatblygu technegau i ddysgu o brofiad, ceisio gwelliant parhaus a dod yn fwy effeithlon ac effeithiol
Mae technoleg yn ein galluogi i gynnal gweithle effeithlon, ond mae ein prosesau hefyd yn hanfodol wrth sicrhau ansawdd ein gwaith. Byddwn yn ymgorffori prosesau rheoli ansawdd drwy bob un o’n gwasanaethau a’n swyddogaethau. Rydym am wella’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau a gwneud defnydd gwell o’n gwybodaeth. Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu fframwaith rheoli gwybodaeth newydd. Rydym am ddiwallu anghenion pleidleiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr, gweinyddwyr etholiadol a seneddau, a byddwn yn gwneud gwaith ymchwil er mwyn deall eu disgwyliadau o ran ein gwasanaethau.
Datblygu strategaeth amgylcheddol gorfforaethol sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a gofynion polisi
Rydym yn amlinellu ein cynlluniau i leihau effaith amgylcheddol y system etholiadol yn Adran 2 ac Adran 5 o’r Cynllun Corfforaethol hwn. Rydym hefyd yn ymrwymedig i leihau effaith amgylcheddol ein sefydliad. Byddwn yn gwella ein harbenigedd, gan sicrhau bod gennym y sgiliau amgylcheddol sydd eu hangen arnom. Byddwn yn cynnal archwiliad amgylcheddol. Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu ac yn ei roi ar waith er mwyn cyflawni ein targedau amgylcheddol yn unol â deddfwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu llai o wastraff ac ailgylchu mwy lle y bo hynny’n bosibl.