Ein gweledigaeth a'n gwerthoedd

Democratiaeth deg sy'n addas ar gyfer y dyfodol

Ein gweledigaeth yn y Comisiwn Etholiadol yw democratiaeth deg sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Dyma'r hyn yr ydym yn ymdrechu i’w gyflawni ym mhob agwedd o'n gwaith.

I gyflawni ein gweledigaeth, mae gennym bedwar gwerth sy'n llywio ein penderfyniadau, ein hymagwedd, a'n gwaith rhyngweithio â phartneriaid, rhanddeiliaid a phleidleiswyr.

Cynnwys pawb

Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y system etholiadol, ac arwain drwy esiampl. Rydym yn rhoi pleidleiswyr yn gyntaf ac yn ceisio bod yn hygyrch i bawb.

Arbenigedd effeithiol

Rydym yn annibynnol ac yn wleidyddol ddiduedd, gan ddefnyddio data i gynghori, hysbysu a sbarduno cynnydd. Rydym yn darparu gwybodaeth glir sy’n cefnogi penderfyniadau.

Agored ac ymgysylltiol

Rydym yn meithrin ymddiriedaeth drwy ein cyfathrebu clir a’n pobl agos-atoch ac angerddol. Cyfrifol, cymesur a theg, mae ein geiriau’n cael eu cefnogi gan gamau gweithredu.

Unedig mewn uchelgais

Rydym yn aelod da o dîm, yn cefnogi ac yn gweithio gydag eraill i gyflawni’r gorau i bleidleiswyr ac ymgeiswyr. Rydym yn rhagweithiol ac yn adeiladol gyda’r rheini rydym yn eu rheoleiddio.

Ar gyfer y pleidleisiwr

Yn sail i hyn oll mae ein cymhelliant: ar gyfer y pleidleisiwr. Mae pleidleiswyr wrth galon ein democratiaeth ac yn ganolog i’n gwaith. Mae popeth a wnawn i helpu pobl i ymddiried, gwerthfawrogi a chymryd rhan mewn etholiadau.