Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 13 Chwefror 2019
Meeting overview
Dyddiad: 13 Chwefror 2019
Amser: 9:30am to 1pm
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: 13 Mawrth 2019
Who was at the meeting
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Alastair Ross
Anna Carragher
Joan Walley
Rob Vincent
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Sue Bruce
Bob Posner, Prif Weithredwr
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Louise Edwards, Cyfarwyddwr, Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu ac Ymchwil
Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Louise Footner, Pennaeth Materion Cyfreithiol
David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
Petra Crees, Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Llywodraethu
David Meek, Uwch Gynghorydd, Llywodraethu
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Nodwyd ymddiheuriadau gan Elan Closs Stephens. Croesawodd y cadeirydd y Comisiynwyr newydd ar ôl derbyn eu Gwarantau Brenhinol. Croesawodd y bwrdd BP fel Prif Weithredwr dros dro yn dilyn ei benodiad.
Datganiadau o fuddiant
Mae Alastair Ross yn uwch ymgynghorydd yn Weber Shandwich yng Ngogledd Iwerddon (â thâl), yn aelod o Fwrdd Prawf Gogledd Iwerddon (â thâl), a bu'n un o ymgynghorwyr Leonard Cheshire yng Ngogledd Iwerddon (â thâl).
Mae Joan Walley yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gyfunol y GIG (â thâl), yn gadeirydd anrhydeddus Aldersgate Group (pro bono), yn gadeirydd mygedol Burslem Regeneration Trust (pro bono), aelod o Gyngor y Cymrodyr, Prifysgol Keele (pro bono), ac yn aelod o'r City Learning Trust (pro bono).
Mae Stephen Gilbert yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi (â thâl), cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Gyfathrebu, ac yn bennaeth ar Stephen Gilbert Counsulting (â thâl).
Mae Sarah Chambers yn un o Ymddiriedolwyr Greenhouse Sports (pro bono).
Cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 (EC 1/19, 2/19, 3/19, 4/19)
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018 ar ôl cywiro gwall yn 6.5. Nodwyd cofnod o sesiwn anffurfiol y Comisiwn a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018. Nodwyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2018. Nodwyd cofnodion drafft y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2018.
Cynllun Busnes a'r Prif Amcangyfrif 2019/2020 (EC 5/19, 6/19)
Cyflwynodd Bob Posner y papur ac esboniodd ei bod yn ofynnol i'r Comisiwn gyflwyno Cynllun Busnes i Bwyllgor y Llefarydd yn cefnogi ei gais blynyddol am gyllid (y Prif Amcangyfrif).
Roedd y twf arfaethedig yn gynnydd o gymharu â'r gwariant disgwyliedig ar gyfer blwyddyn cynllun 2019/20, ac o gymharu â 2018/19, ond roedd cyfanswm arfaethedig y gwariant o fewn ystod y cynllun pum mlynedd, gan fod rhywfaint o'r gwariant wedi cael ei ddwyn ymlaen o'r blynyddoedd i ddod.
Gofynnodd y bwrdd am ragor o fanylion am yr effeithiau o ran cefnogi'r buddsoddiad y gofynnwyd amdano, gan gynnwys beth fyddai'n digwydd pe na fyddai ein cynnydd arfaethedig yn cael ei dderbyn, ac o ran arbedioneffeithlonrwydd. Awgrymodd un o'r comisiynwyr y dylid ailwerthuso meysydd gwariant hirdymor, megis grantiau datblygu polisi, er mwyn pennu a gafwyd y gwerth gorau o wariant o'r fath.
Amlinellodd pob cyfarwyddwr effaith ddisgwyliedig cynnydd mewn cyllid yn eu maes, gan nodi sut roedd yr effeithiau hyn yn cael eu mesur.
Cafodd y bwrdd wybod y byddai buddsoddiadau mewn cyllid gwleidyddol a rheoleiddio yn symleiddio rhai prosesau ac yn lleihau'r baich ar y tîm hwnnw, yn ogystal ag ar bleidiau ac ymgeiswyr a oedd yn defnyddio'r system. Byddai symud
tuag at ganllawiau cwbl ddigidol yn gwella eu defnyddioldeb, a ddylai arwain at lai o ymholiadau. Yn gyffredinol, roeddem wedi symud i ffwrdd o ddull rheoleiddio adweithiol, a thuag at ddull rhagweithiol, ac roeddem yn gweithio'n agosach gyda phleidiau gwleidyddol.
Cafodd y bwrdd wybod am y datblygiadau o ran ein dull ymchwilio, a'n hymatebion i flaenoriaethau'r llywodraeth. Mewn perthynas â diwygio'r canfasiad, dylai'r newidiadau arfaethedig sicrhau arbedion sylweddol i lywodraeth leol a byddai'r buddsoddiad yn ein galluogi i gyflawni ein swyddogaethau gweithredu yn effeithiol.
Ystyriodd y bwrdd agenda ddeddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig, a byddai adnoddau ychwanegol yn ein galluogi i ymateb yn briodol. Cafodd y bwrdd hefyd wybod y byddai'r wefan newydd yn uno â gwefan Mae Dy Bleidlais yn Cyfri, gan gyflwyno buddiannau drwy arbedion cyffredinol o ran costau cefnogi dwy wefan ar wahân.
Roedd elfen fwyaf y cynnydd yn y gyllideb ym maes Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol o ganlyniad i gynnydd mawr yn y cyfraniadau o bob rhan o gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil. Roedd buddsoddiadau ym maes Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol hefyd yn ymwneud â chyflwyno buddsoddiadau a gynlluniwyd mewn systemau corfforaethol er mwyn llywio gwelliannau ym maes llywodraethu a rheoli perfformiad i sicrhau mwy o effaith ym mhob rhan o'r Comisiwn.
Roedd y bwrdd o'r farn bod mynd i'r afael â heriau'r agenda ddigidol yn allweddol i'r hyn roeddem yn ei gynnig, ac y dylid ei bwysleisio yn ein cyflwyniad ar y newidiadau arfaethedig. Nododd y bwrdd y byddai hyn yn mynd i'r afael â
disgwyliadau pleidleiswyr a byddai buddiannau i bleidleiswyr o ganlyniad i'r gwaith hwn.
Cam gweithredu: Gwnaeth y bwrdd gymeradwyo'r Cynllun Busnes a'r cais am fwy o gyllid, yn amodol ar ddiweddaru drafft y Cynllun Busnes a'r llythyr eglurhaol i gynnwys y wybodaeth a godwyd uchod cyn eu hanfon i Bwyllgor y Llefarydd.
Dylid anfon gwybodaeth i aelodau'r bwrdd yn adlewyrchu'r arbedion effeithlonrwydd, gwerth am arian a'r effeithiau a drafodwyd.
Penderfynwyd: Y dylai'r Cynllun Busnes a'r Prif Amcangyfrif, gyda'r newid a nodwyd uchod, gael eu cyflwyno i Bwyllgor y Llefarydd.
Diweddariad ar lywodraethu (EC 7/19)
Cyflwynodd David Bailey yr eitem gan esbonio ei bod yn rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol a'i fod yn cynnwys rhai diweddariadau technegol. Byddai'r bwrdd yn trafod diweddariadau mwy
sylweddol yn ystod cyfarfodydd yn y dyfodol, megis adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd ym mis Ebrill.
Cam gweithredu: Gofynnodd y bwrdd am i'r frawddeg olaf ond un yn G11, ynglŷn â rôl Cynghorydd Annibynnol y Pwyllgor Archwilio, gael ei dileu.
Penderfynwyd: Y dylid mabwysiadu'r newidiadau arfaethedig i'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol, gyda'r newid a nodwyd uchod.
Penodi Comisiynydd i swydd wag ar y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol
Esboniodd y cadeirydd fod angen comisiynydd newydd ar y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol ar ôl i gyfnod Bridget Prentice ddod i ben.
Enwebodd y cadeirydd Joan Walley.
Penderfynwyd: Y caiff Joan ei phenodi'n aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol am gyfnod o dair blynedd.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 8/19)
Cafodd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau wrth gefn ar gyfer digwyddiadau etholiadol annisgwyl.
Cafodd y bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gofrestru pleidiau gwleidyddol newydd, a'r gwaith ymchwilio a ddeilliwyd o Etholiadau Cyffredinol Senedd y DU yn 2017.
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r bwrdd am y cynnydd o ran paratoi ar gyfer yr etholiadau arfaethedig ym mis Mai, gan gynnwys canllawiau wedi'u diweddaru i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol a'r cynlluniau peilot adnabod
a gynlluniwyd.
Cafodd y bwrdd wybod am y dull gweithredol mwy rhagweithiol roedd y tîm cyfathrebu wedi'i arwain mewn ymateb i feirniadaeth anghywir yn ddiweddar. Cafodd y bwrdd hefyd wybod am y cynnydd gyda'r prosiect i ddiweddaru'r wefan,
gan gynnwys y camau a gymerir i sicrhau bod y cynnwys ar y we yn hygyrch.
Rhoddwyd gwybod i'r bwrdd am y cynnydd a wnaed gan y grŵp cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan gynnwys y cynlluniau mentora a hyfforddiant rheoli a gynigiwyd.
Cafodd y bydd y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyfreitha. Gwnaeth y bwrdd gydnabod, gyda diolch, y gwaith gwych a wnaed gan Louise Footner i'r Comisiwn dros ei 13 mlynedd o wasanaeth. Hwn oedd ei chyfarfod olaf.
Rhoddodd Anna Carragher y wybodaeth ddiweddaraf i'r bwrdd am oedi pellach posib gan Lywodraeth y DU cyn cynnal etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, er gwaethaf y diffyg cynnydd diweddar o ran adfer y llywodraeth ddatganoledig. Trafododd y bwrdd ei safbwynt cyffredinol, sef na ddylai fod oedi cyn cynnal etholiadau arfaethedig a drefnwyd, gan gymeradwyo y dylid cyfleu hyn i'r Llywodraeth mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad ac (yn ôl yr angen) y dylai'r Comisiwn gyhoeddi hyn yn agored.
Nododd y cadeirydd ein safbwynt ar y dull gweithredu o ran tryloywder ôlweithredol ar gyfer rhoddion yng Ngogledd Iwerddon.
Gadawodd Sarah Chambers y cyfarfod ar yr adeg hon.
Cam gweithredu: Craig Westwood i ddarparu rhywfaint o ddeunydd darllen cefndirol sy'n ymwneud â'r refferendwm i Gomisiynwyr er gwybodaeth iddynt.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Adroddiad ar berfformiad a chyllid chwarter tri 2018/19 (EC 9/19)
Cyflwynodd Bob Posner y papur, a gwnaeth grynhoi perfformiad y Comisiwn yn chwarter tri (Hydref - Rhagfyr 2018) yn erbyn ein mesurau perfformiad allweddol a cherrig milltir allweddol.
Tynnodd Petra Crees sylw at y cyflawniadau allweddol megis paratoi canllawiau, cod ymarfer newydd i arsylwyr a gwaith atebolrwydd datganoledig. Ymatebwyd i ymholiadau'r bwrdd ar bwyntiau manwl.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Blaengynllun o fusnes y bwrdd 2018-2020 (EC 11/19)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
System tracio camau gweithredu (EC 19/18)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Cyfarfod y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr a chyfarfodydd mewn deddfwrfeydd datganoledig (EC 13/19)
Cam gweithredu: Dylid dileu'r cyfarfod rhagarweiniol rhwng Alastair Ross ac Anna Carragher ac Ann Watt ar 1 Chwefror o'r rhestr, gan nad oedd wedi'i gynnal eto.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi gyda'r diwygiad.