Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 15 Hydref 2024
Dyddiad: Dydd Mawrth 15 Hydref 2024
Lleoliad: Cynhadledd fideo
Dyddiad cyfarfod nesaf y Bwrdd: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024
John Pullinger, Cadeirydd
Sue Bruce
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Carole Mills
Katy Radford
Sheila Ritchie
Chris Ruane
Elan Closs Stephens
In attendance:
Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr
Binnie Goh, Cyfarwyddwr Datganoli, Llywodraethu a'r Gyfraith, a Chwnsler Cyffredinol
Tom Hawthorn, Cyfarwyddwr Dros Dro Polisi ac Ymchwil
Niki Nixon, Cyfarwyddwr Dros Dro Cyfathrebu
Elizabeth Youard, Pennaeth Llywodraethu
Arsylwyr
Chris Pleass, Cyfarwyddwr Corfforaethol (newydd, o 11 Tachwedd ymlaen)
Cara Addleman, Swyddog Cymorth Gweithredol
Giorgio Annecchini, Swyddog Cymorth Gweithredol
Orla Hennessy [eitem 2], Pennaeth Cyfathrebu Allanol
Antonia Merrick, Rheolwr Busnes i'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr
Michela Palese, Rheolwr Polisi
Jag Singh, Pennaeth Caffael
Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil
Mark Williams, Rheolwr Polisi
Daniel Stoker, Uwch Gynghorydd, Polisi
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau Roseanna Cunningham, Comisiynydd, a Niki Nixon, Cyfarwyddwr Dros Dro Cyfathrebu. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Adroddiad ar ganfyddiadau ymchwil etholiadau 2024 (CE 305/24)
Canmolodd y Comisiynwyr yr adroddiad a baratowyd ar ganfyddiadau ymchwil etholiadau 2024.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn nodi bod yr etholiad wedi'i gynnal yn ddidrafferth, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn gallu pleidleisio ac ymgeiswyr ac ymgyrchwyr yn gallu cyfleu eu barn i'r etholwyr yn effeithiol. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd mewn rhai meysydd a dylai'r Comisiwn ymdrechu i gymryd camau i wneud y newidiadau angenrheidiol. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, roedd y Comisiynwyr o’r farn mai’r meysydd allweddol ar gyfer gweithredu yw:
- cam-drin a bygwth ymgeiswyr. Dylai’r Comisiwn weithio’n agos gyda Phwyllgor y Llefarydd ar y mater hwn. Dylai’r adroddiad: ymchwilio i rôl ac amrywioldeb ymatebion yr heddlu i achosion o gam-drin a bygwth ymgeiswyr.
- amlygu’r straeon unigol am brofiad ymgeiswyr a oedd wedi cael eu cam-drin a’u bygwth, er mwyn amlygu’r effaith ar bobl a’r effaith andwyol ehangach ar gyfranogiad
- pleidleisio drwy'r post: Dylai’r adroddiad egluro cwmpas a graddfa’r materion a godwyd ar gyfer pleidleisio drwy’r post, gan gynnwys cyfeirio at yr angen i osgoi cynnal etholiadau yn ystod gwyliau ysgol.
- pleidleisio dramor: Dylai'r adroddiad amlygu'r heriau penodol y mae pleidleiswyr tramor yn eu hwynebu
- ID pleidleisiwr: dylai'r adroddiad gyfeirio at y canfyddiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol ar ID pleidleisiwr i sicrhau y gallai'r adroddiad hwn sefyll ar ei ben ei hun
- hygyrchedd: dylai’r adroddiad amlygu’r angen am gamau gweithredu pellach ar hygyrchedd ar gyfer system etholiadol gyfartal, amrywiol a chynhwysol, er enghraifft, gwella amlygrwydd addasiadau mewn gorsafoedd pleidleisio.
- cysondeb darpariaeth etholiadau ar draws awdurdodau lleol: dylai'r adroddiad ymchwilio i faterion yn ymwneud ag amrywioldeb perfformiad rhwng awdurdodau lleol er mwyn sicrhau cysondeb o ran darpariaeth yn erbyn safonau perfformiad y cytunwyd arnynt
- enwebiadau: dylai'r adroddiad nodi materion yn ymwneud â'r broses enwebu ar gyfer ymgeiswyr, gan gynnwys sut mae'r heddlu'n ymdrin â honiadau o dwyll enwebiadau
- systemau digidol: dylai'r adroddiad ymchwilio i'r heriau a wynebir gan awdurdodau lleol wrth ddefnyddio systemau digidol y maent yn dibynnu arnynt i reoli'r broses etholiadol.
Gofynnodd y Comisiynwyr am gyfathrebu’r adroddiad yn gryf pan gaiff ei gyhoeddi er mwyn hwyluso gweithgarwch dilynol effeithiol a gweithredu ymgyrch hyrwyddo i gyd-fynd â chyhoeddi’r adroddiad.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd wedi cytuno ar y negeseuon allweddol, y cynllun i’w gyhoeddi ac ar gyfer cyfathrebu a gweithredu er mwyn paratoi i’r Prif Weithredwr gymeradwyo adroddiad terfynol etholiad 2024 cyn ei gyhoeddi ganol mis Tachwedd.
Ymgynghoriad Grantiau Datblygu Polisi (CE 304/24)
Yn dilyn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar 4 Gorffennaf 2024, rhaid diwygio newidiadau i gynllun y Comisiwn ar gyfer dyrannu Grantiau Datblygu Polisi i bleidiau cymwys. Roedd ymgynghoriad â phleidiau cymwys ar ddull arfaethedig y Comisiwn o ymdrin â diwygiadau ar y gweill. Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol oedd yn gyfrifol am ddrafftio’r is-ddeddfwriaeth i roi unrhyw argymhellion gan y Comisiwn Etholiadol ar waith, ynghyd ag unrhyw addasiadau yr oedd eu hangen yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Roedd dwy blaid wleidyddol newydd ddod yn gymwys am grant ac roedd plaid arall yn anghymwys.
Ymgynghorwyd â Phanel Pleidiau Seneddol San Steffan. Gofynnodd y Bwrdd i'r Comisiwn ddod o hyd i ffordd o roi gwybod i bleidiau am yr ymgynghoriad hyd yn oed os nad oeddent yn gymwys o dan y cynllun presennol.
Roedd y Comisiynwyr yn ffafrio ffordd ymlaen arfaethedig a oedd yn cadw'r cynllun mor glir a syml â phosibl. Roedd yr ymgynghoriad yn ymwneud â’r dull o gyfrifo cyfrannau pleidiau o’r ail £1m o’r cyfanswm o £2m sydd ar gael mewn grantiau i bleidiau cymwys bob blwyddyn. Yr opsiwn a ffefrir oedd opsiwn 4 a nodwyd yn yr ymgynghoriad, a oedd yn deillio o ddull seiliedig ar egwyddorion a oedd yn olrhain pwrpas y cynllun. Ystyriwyd bod y cysylltiad â nifer y pleidleiswyr seneddol fel y'i cynigiwyd yn gyson â pholisïau eraill y Comisiwn.
Byddai ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu rhannu gyda'r Comisiynwyr i'w hadolygu ar ôl iddo ddod i ben ar 28 Hydref
Cam Gweithredu: Tîm gweithredol i ddod o hyd i ffordd o roi gwybod i bleidiau am yr ymgynghoriad hyd yn oed os nad oeddent yn gymwys o dan y cynllun presennol.
Penderfynwyd: Y byddai aelodau'r Bwrdd yn cael cyfle pellach i adolygu'r canfyddiadau ar ôl yr ymgynghoriad. Yn amodol ar roi’r cyfle hwnnw, cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr i gymeradwyo’r cynllun ôl-ymgynghori ar gyfer dyrannu grantiau datblygu polisi i bleidiau gwleidyddol ac i gyflwyno argymhellion ar gyfer telerau a newid i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Materion gweithdrefnol a llywodraethu (CE 306/24)
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2024.
Nodwyd statws y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt gan y Bwrdd.
Roedd paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ar 26 Tachwedd. Cynlluniwyd gweithdy dilynol ar effeithiolrwydd y Bwrdd ar ôl y cyfarfod busnes. Byddai'r Pennaeth Llywodraethu yn gweithio gyda'r Comisiynwyr ac uwch arweinwyr cyn y sesiwn.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn nodi'r adroddiadau materion gweithdrefnol a llywodraethu gan gynnwys cytuno ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi.