Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 16 Medi 2025
John Pullinger, Cadeirydd
Sue Bruce
Sarah Chambers
Roseanna Cunningham
Carole Mills
Katy Radford
Sheila Ritchie
Chris Ruane
Elan Closs Stephens
Yn bresennol
Vijay Rangarajan, Prif Swyddog Gweithredol
Tom Hawthorn, Cyfarwyddwr Dros Dro, Polisi ac Ymchwil
Jackie Killeen, Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol
Niki Nixon, Cyfarwyddwr Cyfathrebu
Chris Pleass, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Corfforaethol
Antonia Merrick, Rheolwr Busnes i’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr (cofnodion)
Eitem 1
Andrew Simpson, Pennaeth, Digidol, Gwybodaeth, Technoleg a Chyfleusterau
Ashley Lardner, Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth
Olu Otedola, Uwch Arweinydd TG, Rheolwr Cynnyrch Digidol
Esrar Ahmed, Uwch Arweinydd TG, Desg Gymorth a Chyfathrebu
Harjit Gill, Uwch Swyddog TG, Rheoli Seilwaith
Liv Basiu, BRheolwr Cymwysiadau a Data Busnes
Neil Tingay, Rheolwr Prosiect, Cyllid Gwleidyddol Ar-lein
Rob Short, Rheolwr Cyflawni Prosiectau
Sarah Mackie, Head, Pennaeth, Swyddfa Caeredin y CE
Eitem 4
Billie Dunne,Rheolwr Addysg
Stephen Wilson, Rheolwr Partneriaethau
Sam Hartley, Cyfarwyddwr Newydd, Polisi, Ymchwil ac Ymgysylltu â Phleidleiswyr
Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Medi 2025, 9:30am i 1:30 pm
Lleoliad: Swyddfa Bunhill Row a thrwy gynhadledd fideo
Croeso, ymddiheuriadau ac unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan gynnwys Sam Hartley fel arsyllwr. Bydd Sam yn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr, Polisi, Ymchwil ac Ymgysylltu â Phleidleiswyr ar 1 Hydref.
Nodwyd ymddiheuriadau gan y Comisiynydd Stephen Gilbert, Michael Coldwell, Pennaeth Dros Dro, Risg a Sicrwydd Llywodraethu, a Zena Khan, Uwch Gynghorydd Llywodraethu. Roedd Antonia Merrick yn cymryd y cofnodion.
Adroddodd y Cadeirydd fod Stephen Gilbert wedi ymddiswyddo o Fwrdd y Comisiwn Etholiadol gan ei fod wedi cymryd swydd â thâl gyda’r Blaid Geidwadol. Bydd Stephen yn ysgrifennu at Ei Fawrhydi y Brenin i gyflwyno ei ymddiswyddiad. Nodwyd bod Stephen wedi gwneud gwaith rhagorol fel Comisiynydd am saith mlynedd.
Roedd gweithdai adnewyddu Convene wedi’u cynnal gyda Chomisiynwyr yn ystod yr wythnos flaenorol gydag ymgysylltiad da ar ddefnyddio’r swyddogaeth anodi.
Cafwyd un datganiad newydd o ddiddordeb gan y Cadeirydd a oedd wedi ymgymryd â swydd Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Nuffield.
Croesawodd y Cadeirydd Andrew Simpson, Pennaeth y Tîm Digidol, Gwybodaeth, Technoleg a Chyfleusterau, a’i dîm i gyflwyno ar y slot Cwrdd â’r Tîm rheolaidd.
Esboniodd Pennaeth y Tîm Digidol, Gwybodaeth, Technoleg a Chyfleusterau fod y tîm yn goruchwylio seilwaith TG, seiberddiogelwch, rheoli data a chyfleusterau a’u bod wedi cyflwyno gliniaduron newydd a gwelliannau i ystafelloedd cyfarfod yn ddiweddar. Roedd y tîm hefyd wedi gweithredu gwelliannau i swyddfeydd Belfast a Chaerdydd ac roedd yn gweithio ar swyddfa Caeredin. Cydnabuwyd eu bod wedi cyflawni llawer mewn dwy flynedd a’u bod wedi cyflawni’r Achrediad Cyber Essentials Plus yn ddiweddar. Yna rhoddodd Penaethiaid y tîm drosolwg o’u meysydd.
Cafwyd trafodaeth ynghylch Deallusrwydd Artiffisial (AI), ffugiadau dwfn a’r prosiect Canfod Gorsafoedd Pleidleisio. Roedd y tîm yn gweithio gyda’r tîm Amgylchedd Galluogrwydd Carlam yn y Swyddfa Gartref ac endidau eraill ar ffugiadau dwfn. Byddai cynllun peilot yn cael ei gynnal ym mis Mai yn etholiadau Cymru, yr Alban a lleol. Mae Office 365 a CoPilot yn cael eu defnyddio’n helaeth. Mae’r Rheolwr Cynhyrchion Digidol a’r Tîm Dysgu a Datblygu yn gweithio ar raglenni hyfforddi o ganol 2026, ac yna gwelliant parhaus. Byddai’r Bwrdd yn cael gwybod am adroddiadau gwybodaeth ffug wrth i Etholiadau Cymru a’r Alban agosáu.
CAM GWEITHREDU: Bydd Elan Closs Stephens yn rhannu’r gwaith y mae Prifysgol Bangor yn ei wneud ar Ddeallusrwydd Artiffisial yn y Gymraeg gyda Phennaeth y Tîm Digidol, Gwybodaeth, Technoleg a Chyfleusterau.
Diweddariad y Prif Weithredwr
Adroddodd y Prif Weithredwr, ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, fod Angela Rayner a Rushanara Ali wedi gadael y Llywodraeth. Penodwyd Steve Reed yn ddiweddar yn Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a gofynnwyd am gyfarfod. Samantha Dixon yw’r Is-ysgrifennydd Seneddol newydd dros Ddiogelwch Adeiladau, Tân a Democratiaeth gyda goruchwyliaeth dros etholiadau, a chynlluniwyd cyfarfod.
Aeth ymweliad y cynrychiolwyr o Wcráin yn dda iawn ym mis Awst, a llofnodwyd y Memorandwm o Ddealltwriaeth. Mae gwaith bellach ar y gweill gyda chefnogaeth awdurdodau lleol, y Swyddfa Dramor a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i fapio lle mae Wcráiniaid wedi’u lleoli yn y DU. Cafodd Cynhadledd y Pedair Gwlad ei gohirio oherwydd ffactorau allanol nad oedd modd eu hosgoi.
Gwnaeth bob plaid gwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer datganiadau cyfrifon, sef 31 Awst, ac eithrio Llafur a fyddai’n cyhoeddi’n hwyr ac felly o bosib yn destun cosbau gorfodi.
Roedd gwaith y cyfryngau wedi cynyddu. Roedd hyn yn cynnwys cyfweliad gyda’r BBC ar y digwyddiad seiber yn 2022, gan ganolbwyntio ar amser a chost y toriad diogelwch. Gwnaed y lefel newydd o’r Achrediad Cyber Essentials yn glir yn y cyfweliad hwn. Roedd cyfweliad y Guardian gyda’r Prif Weithredwr ar addysg ddemocrataidd wedi cael derbyniad da.
Cafwyd trafodaeth dda ym Mhanel Pleidiau San Steffan ar 2 Medi. Roedd y ddau neu dri Phanel diwethaf wedi bod yn adeiladol iawn.
Mynychodd y Cadeirydd Gynhadledd Plaid Reform. Y flaenoriaeth i’r Comisiwn fydd deall gweithrediadau’r blaid wrth i’r strwythur newydd barhau i gael ei sefydlu.
Bydd cyfarfod Tasglu Amddiffyn Democratiaeth ymhen cwpl o wythnosau lle bydd dechrau meddwl am yr etholiadau ym mis Mai a chynllunio ar gyfer yr Uned Diogelwch a Pharatoadau ar y Cyd ar gyfer Etholiadau.
Y blaenoriaethau allweddol i’r weithrediaeth yw etholiadau mis Mai a’r ddeddfwriaeth sydd ar ddod.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod y Grŵp Llywio Cyflawni Etholiadau y diwrnod cynt, gan ganolbwyntio ar gyflawni pob etholiad yn llwyddiannus. Mae’r Grŵp Llywio Cyflawni Etholiadau yn edrych ar bob agwedd ar gynllunio etholiadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, gweinyddiaeth etholiadol, canllawiau ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd. Bydd angen i’r Comisiwn gael y cydbwysedd cywir rhwng goruchwylio materion ar etholiadau a chefnogi etholiadau unigol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd hefyd yn bwysig cael perthnasoedd da â lluoedd yr heddlu. Mae gwaith ar y trywydd iawn gyda llu o ganllawiau newydd i gael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd. Mae cynlluniau hyfforddi ar gyfer pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn cael eu datblygu gyda chymorth asiantaeth allanol, gydag adborth gwerthfawr wedi’i dderbyn hyd yn hyn. Mae’r Grŵp Llywio Cyflawni Etholiadau yn cynnal gwaith peilot ar ganfod ffugiadau dwfn, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o etholiadau mis Mai. Bydd ffocws ar ddiogelwch mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae angen mwy o eglurder ar ad-drefnu llywodraeth leol. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn gweithio ar hyfforddiant wedi’i deilwra, gan gynnwys hyfforddiant pwrpasol i Drysoryddion.
Roedd adolygiadau perfformiad canol blwyddyn ar y gweill.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod cronfa sylweddol wrth gefn yn y gyllideb. Mae’r sefydliad yn tyfu’n gyflym er yn is na’r nifer a ragwelwyd, oherwydd dyrchafiadau mewnol a’r angen i ôl-lenwi swyddi. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y mecanwaith tynnu i lawr a ddefnyddir ar gyfer y swyddfeydd datganoledig.
Bydd un cydweithiwr yn arsylwi’r etholiadau yn Norwy gyda ffocws ar ymyrraeth allanol a ffugiadau dwfn.
Cynhelir Digwyddiad yr Holl Staff yn 2026 ddydd Mercher 17 Mehefin yng Nghaerdydd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Cynhelir cyfarfod y Bwrdd yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 16 Mehefin 2026.
Estynnodd y Bwrdd ei ddiolch i’r Cyfarwyddwr Dros Dro, Polisi ac Ymchwil am wneud gwaith rhagorol wrth iddo ddychwelyd i’w rôl barhaol.
Cymeradwyaethau cyllidebol a pherfformiad
Ceisiwyd cytundeb y Bwrdd ar geisiadau terfynol Cymru a’r Alban ar gyfer 2026/27 ac i adolygu cais drafft San Steffan ar gyfer 2026/27.
Mae llythyrau cysylltiedig yn cael eu drafftio i’r pwyllgorau priodol a fydd yn cael eu rhannu â Chomisiynwyr Cymru a’r Alban.
Roedd y gost i Gymru wedi lleihau nawr bod Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig wedi’i ddileu, gyda chymeradwyaeth tîm Cymru. Efallai y bydd angen amcangyfrif atodol ar ôl penderfynu ar y dull Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig a bydd geiriau i’r perwyl hwn yn cael eu cynnwys yn y llythyr i Gymru. Cytunodd Comisiynydd Cymru â’r dull hwn. Mae’n parhau i fod yn ansicr beth fydd yn digwydd gyda Chofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig, ac nid oedd hyn wedi’i drafod gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r Llywodraeth eto. Wedi dweud hynny, mae pedwar cynllun peilot Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd yn cytuno ar geisiadau Cymru a’r Alban ar gyfer 2026/27. Byddai diweddariad ar gynnydd cais San Steffan yn dod i’r cyfarfod ym mis Tachwedd.
Ymchwiliad manwl i’r prosiect – Addysg i Bleidleiswyr
Y cyflwyniad ar Addysg Pleidleiswyr oedd yr ail mewn cyfres o ymchwiliadau manwl i’r prif brosiectau sy’n destun sicrwydd gwell. Bu trafodaeth ddefnyddiol o safbwynt risg yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y diwrnod cynt.
Roedd gan y prosiect fuddsoddiad ariannol sylweddol o £800,000 eleni ac roedd achos busnes i gefnogi gwariant ychwanegol wedi’i gymeradwyo.
Bydd Cam 1 yn dechrau’r flwyddyn academaidd hon gyda gwahanol ddulliau’n cael eu treialu. Bydd Cam 2 yn rhedeg yn y flwyddyn academaidd ganlynol a bydd yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Croeso i Dy Bleidlais yn 2027. Daeth cefnogaeth gan garfan o bartneriaethau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: Fforwm Ieuenctid Gogledd Iwerddon, Shout Out UK, Skating Panda, a Chymdeithas y Colegau. Mae’r Comisiwn yn adeiladu modiwl hyfforddi athrawon ar gyfer addysg ddemocrataidd.
Pleidleisiau yn 16 oed: mae’r tîm yn gweithio gyda chyfathrebu allanol a phanel o ASau San Steffan.
Mae angen llythrennedd cyfryngau mewn ysgolion ynghyd â’r angen i annog meddwl beirniadol i amddiffyn pobl ifanc rhag camwybodaeth a thwyllwybodaeth ac adeiladu gwydnwch ar gyfer disgyblion ac athrawon. Bydd cyfathrebu allanol yn arbennig o bwysig.
Mae’n bwysig cynnwys trafodaethau am wleidyddiaeth mewn gweithgareddau eraill - rhoddwyd digwyddiadau garddio fel enghraifft - gan na fydd gan bobl gymaint o ddiddordeb mewn digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth yn unig.
Byddai angen hyfforddiant o ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gofynnodd y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros Ogledd Iwerddon am sicrwydd ynghylch yr angen am ddull gwahanol yng Ngogledd Iwerddon, yn enwedig mewn ysgolion gwledig. Byddai partneriaethau’n allweddol yng Ngogledd Iwerddon.
Cafwyd trafodaeth ynghylch addysgu rhieni ac oedolion eraill yn y cartref drwy’r gwaith hwn. Gallai hyn fod o fudd i rai cymunedau, yn enwedig cymunedau amrywiol yn Llundain. Dangosodd y gwersi a ddysgwyd o Gymru fod recriwtio i ysgolion yn anodd ac na ellid tybio y byddai cyfranogiad uchel.
Materion gweithdrefnol a llywodraethu
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin a nododd ddatganiadau buddiant blynyddol y Comisiynwyr.
Rhoddodd Cadeirydd yr hen Bwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol ddiweddariad ar fusnes y Pwyllgor o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2025. Dechreuodd y cyfarfod gyda sesiwn gaeedig ar achosion Cysylltiadau Cyflogaeth. Roedd hyn yn cynnwys tueddiadau o amgylch cyfarfodydd cyswllt cyfnodau prawf ac adolygiadau perfformiad. Roedd y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol wedi derbyn adroddiad agoriadol rheolaidd newydd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn gosod y cefndir, a groesawyd. Roedd adroddiad cau prosiect ar yr Adolygiad Cyflog a gadarnhaodd fod y dyfarniad cyflog wedi’i gytuno a’i weithredu. Bu trafodaeth ar y berthynas â’r undeb, sy’n dda ar y cyfan. Roedd yr Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi diweddaru ar y cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a nodi bod y Comisiwn Etholiadol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Ymgysylltu.
Penderfynwyd: Cytunwyd i newid enw’r Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol i’r Pwyllgor Pobl, Diwylliant a Thâl o’r cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr, gyda’r enw newydd yn adlewyrchu cylch gwaith y Pwyllgor yn well.
Gan fod Stephen Gilbert wedi ymddiswyddo, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg a gynhaliwyd ar 15 Medi 2025. Fel y manylir yn Adran 4 o’r cofnodion hyn, bu trafodaeth ar risg yn ymwneud â gwaith addysg. Roedd yr archwilwyr wedi nodi statws eu harchwiliadau a bod y Cyfrifon yn ddiamod eleni. Cymeradwywyd y gofrestr risg strategol ac roedd cytundeb ynghylch y datganiad parodrwydd i dderbyn risg a fyddai’n cael ei argymell i’r Bwrdd ym mis Rhagfyr. Trafododd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg gaffael a seiberddiogelwch hefyd.
Diweddariad blynyddol y Fframwaith Llywodraethu.
CAM GWEITHREDU: Gan na allai’r Bwrdd gael mynediad at y ddogfen ar Convene, dylid ychwanegu’r Fframwaith Llywodraethu at y blaengynllun i’w gynnwys yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd.
Cytunwyd ar yr Atodlen Flynyddol o Bolisïau Gofynnodd y Cadeirydd a ddylai fod polisi ar berfformiad hefyd i gefnogi’r Canllaw Perfformiad ar Echo.
CAM GWEITHREDU: Y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ystyried a thrafod gyda Phennaeth yr Adran Adnoddau Dynol a oes angen polisi rheoli perfformiad ar wahân yn ogystal â’r canllawiau cyfredol ar Echo.
Bydd sesiwn Datblygu’r Bwrdd yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Tachwedd. Mae hyn yn arfer da, a bydd arolwg sgiliau yn cael ei ailgynnal. Roedd trafodaeth ynghylch yr hyfforddiant Deallusrwydd Artiffisial a’r hyfforddiant Bylchau Rhoddion yn y dyddiadur ar gyfer mis Hydref 2025. Byddai’r meddwl yn parhau ynghylch hyfforddiant, sgiliau a phrofiad y Comisiynwyr.
Gan nad oedd unrhyw fusnes pellach, daeth y cyfarfod i ben am 12:11pm.
Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf
Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025, 9.30 am, yn bersonol ac mewn cynhadledd