Argraffnodau ar ddeunydd argraffedig: Ymgeiswyr yn etholiadau Senedd y DU ac mewn etholiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Intro

O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a deddfwriaeth gysylltiedig, mae rheolau o ran rhoi argraffnodau ar ddeunydd etholiadol argraffedig. 

Deunydd etholiadol ymgeisydd yw unrhyw ddeunydd y gellir ystyried yn rhesymol taw ei fwriad yw hyrwyddo neu sicrhau ethol ymgeisydd mewn etholiad. 

Pryd bynnag y caiff deunydd etholiadol argraffedig ei gyhoeddi, mae’n rhaid iddo gynnwys manylion penodol (yr ydym yn eu galw’n ‘argraffnod’) i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y deunydd. Mae hyn yn helpu sicrhau bod tryloywder o ran pwy sy’n ymgyrchu. 

Rydym yn cynnig cyngor a chanllawiau ar y rheolau hyn ond nid ydym yn eu gorfodi. Mater i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron fydd penderfyniadau ar ymchwilio i droseddau argraffnodi a'u herlyn, a dylid cyfeirio unrhyw honiadau o ddiffyg cydymffurfiaeth i'r heddlu. 

Mae’r rheolau parthed argraffnodau yn gymwys i bob ymgeisydd. Mae rheolau argraffnodau gwahanol yn gymwys i ymgeiswyr yn etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban. Gweler Argraffnodau ar gyfer ymgeiswyr - Etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban am ragor o fanylion.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio’r rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn os ydych yn ymgeisydd mewn unrhyw etholiad arall. 

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae argraffnodau hefyd yn ofynnol ar ddeunydd digidol penodol. Nid yw’r daflen ffeithiau yn cynnwys y rhan honno o’r gyfraith. Gweler ein canllawiau statudol ar argraffnodau digidol am y gofynion ynghylch argraffnodau ar ddeunydd digidol.