Cystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol
Summary
Nid oes gennym rôl swyddogol mewn etholiadau mewnol pleidiau, gan gynnwys etholiadau arweinyddiaeth.
Aelodaeth y blaid a phleidleisio
Mae’r rheolau a’r broses ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau mewnol plaid yn fater i’r blaid. Nid oes gennym rôl yn y broses hon.
Darllenwch y rheolau presennol ar gyfer ethol arweinydd y Blaid Geidwadol (Saesneg yn unig) o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.
Mae’r Blaid Geidwadol hefyd wedi cyhoeddi cyfres o gwestiynau a ofynnir yn aml mewn etholiad arweinyddiaeth (Saesneg yn unig).
Rhoddion i ymgeiswyr
Rydym yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU, ac mae’r rheolau arferol o amgylch rhoddion a benthyciadau’n gymwys yn yr etholiadau hyn, fel ar bob adeg arall. Os na ddilynir y rheolau hyn, byddwn fel arfer yn ystyried y mater yn unol â’n Polisi Gorfodi.
Dim ond gan ffynonellau a ganiateir y gall ymgeiswyr dderbyn rhoddion. Rhagor o wybodaeth am roddion a benthyciadau