Saith peth i’w cofio ar gyfer diwrnod y bleidlais ar 5 Mai 2022
Introduction
Wythnos nesaf, ar ddydd Iau 5 Mai, bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor i chi fynd a bwrw eich pleidlais.
Gyda dim ond 7 diwrnod i fynd hyd nes y diwrnod pleidleisio, dyma saith peth i’w cofio.
1. Darganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio
Bydd eich gorsaf bleidleisio wedi ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio, a byddwch yn derbyn hwn drwy’r post ychydig wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.
Gallwch hefyd roi eich cod post yn ein hofferyn chwilio i ddarganfod lle i fynd er mwyn pleidleisio.
Mae’n rhaid i chi fynd i’r orsaf bleidleisio sydd wedi ei neilltuo i chi. Does dim modd i chi fynd i un gwahanol, er enghraifft gorsaf bleidleisio sy’n agos i lle rydych chi’n gweithio.
2. Gwiriwch pwy yw’r ymgeiswyr
Ddim yn siŵr pwy fydd yn ymgeisio yn yr etholiad yn eich hardal chi?
Rhowch eich cod post i ddarganfod mwy.
Rhowch eich cod post
Dewch o hyd i'ch gwybodaeth am eich swyddfa gofrestru etholiadol a'ch gorsaf bleidleisio leol.
3. Beth yw’r system bleidleisio
Mae gwahanol etholiadau yn defnyddio gwahanol systemau pleidleisio, ac mae’r ffordd mae angen i chi farcio eich papur pleidleisio yn gallu newid.
I wneud yn siŵr eich bod yn llenwi eich papur pleidleisio yn gywir, darllenwch y cyfarwyddiadau yn ofalus.
Darganfod mwy am bleidleisio mewn:
4. Pan yn mynd i bleidleisio
Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ddydd Iau 5 Mai.
Gallwch fynd i bleidleisio unrhyw bryd tra bod gorsafoedd pleidleisio ar agor. Os yw’n brysur ar ddiwedd y dydd, byddwch yn dal i allu pleidleisio cyn belled â’ch bod wedi ymuno â’r ciw cyn 10pm.
Mae rhai cynlluniau peilot yn cael eu cynnal mewn pedair ardal yng Nghymru eleni. Os ydych yn byw yn Caerffili, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr neu Blaenau Gwent, gall pryd a lle y gallwch bleidleisio fod ychydig yn wahanol. Darganfod mwy am y cynlluniau peilot
5. Beth i fynd gyda chi
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, nid oes angen i chi fynd ag unrhyw beth gyda chi pan fyddwch yn mynd i bleidleisio.
Pan fyddwch yn cyrraedd eich gorsaf bleidleisio, bydd angen i chi roi eich enw i staff yr orsaf bleidleisio (y clerc pleidleisio), neu rhoi eich cerdyn pleidleisio iddynt. Nid oes angen eich cerdyn pleidleisio arnoch i bleidleisio, ond gall helpu i gyflymu’r broses.
Nid oes angen i chi gymryd cerdyn adnabod i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Os ydych yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi fynd â cherdyn adnabod gyda chi. Darganfod mwy am pa gerdyn adnabod i'w gymryd
Bydd pensiliau i chi eu defnyddio yn yr orsaf bleidleisio, ond gallwch chi fynd â'ch beiro eich hun os hoffech chi.
Os oes gennych anifail anwes, gallwch fynd â nhw gyda chi pan fyddwch yn mynd i bleidleisio. A chofiwch gadw llygad ar yr hashnod #DogsAtPollingStations ar gyfryngau cymdeithasol trwy gydol y dydd!
6. Beth i’w wneud os ydych yn sâl neu os oes gennych argyfwng
Os ydych yn pleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch wneud cais am ddirprwy brys o dan rai amgylchiadau hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
Pleidlais drwy ddirprwy yw pan fyddwch chi'n gofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo i fwrw eich pleidlais drosoch chi. Cyfeirir yn aml at y person sy'n bwrw eich pleidlais fel eich dirprwy.
Rhaid i argyfwng fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn y dyddiad cau arferol ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys os byddwch yn mynd yn sâl oherwydd Covid-19.
Os byddwch yn mynd yn sâl o ganlyniad i Covid-19 ychydig cyn y diwrnod pleidleisio, dylech ddilyn cyngor diweddaraf y llywodraeth.
Darganfyddwch fwy ynglŷn â dirprwyon brys a lawrlwythwch ffurflen gais
7. Gofynnwch am help os oes ei angen arnoch
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, neu os oes angen unrhyw help arnoch, gofynnwch i staff yr orsaf bleidleisio - byddant yn hapus i’ch helpu i fwrw eich pleidlais.
Mae yna nifer o beth y gall staff yr orsaf bleidleisio eu gwneud i’ch helpu i fwrw eich pleidlais, gan gynnwys rhoi papur pleidleisio print bras enghreifftiol i chi, a dyfais pleidleisio gyffyrddol os oes nam ar eich golwg.
Os dymunwch, gallwch fynd â’ch ffôn i’r bwth pleidleisio i ddefnyddio chwyddwr testun neu apiau lleferydd-i-destun, neu olau’r ffôn i wella’r goleuo.
Wrth ddefnyddio eich ffôn, peidiwch â chymryd unrhyw luniau y tu fewn i’r orsaf bleidleisio.
Gallwch hefyd ofyn i staff yr orsaf bleidleisio eich helpu chi, neu fe allwch ddod â rhywun gyda chi (os ydynt yn 18 oed neu’n hŷn ac yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad).